Gemau Olympaidd y Gaeaf: Cymraes sy'n ceisio gwneud ei marc mewn dwy gamp

- Cyhoeddwyd
Pur anaml y dyddiau yma mae rhywun yn llwyddo i gyrraedd y brig mewn mwy nag un camp ym myd chwaraeon.
Ond ar drothwy Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Milan/Cortina, Yr Eidal, dyna'n union sydd ar fryd Adele Nicoll o'r Trallwng.
Ers pan oedd yn ferch ifanc yn Ysgol Uwchradd y Trallwng, bu'n cystadlu yn taflu'r pwysau (shot putt) gan ennill pencampwriaeth Cymru dan-14 a dan-17 oed.
Erbyn hyn, hi yw pencampwraig Prydain deirgwaith drosodd ac fe wnaeth gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022.

Bydd Adele Nicoll (chwith) o'r Trallwng a Kya Placide (dde) o Gaerdydd yn gobeithio am fedal yn yr Eidal
Ond ychydig cyn y gemau yna, fe ddatblygodd ddiddordeb mewn rasio ceir llusg (bobsleigh) ac o fewn dim roedd yn cystadlu'n rhyngwladol.
Roedd hi'n aelod o Team GB yng ngemau Olympaidd y Gaeaf 2022, ond yno fel eilydd oedd hi, ac ni fu'n cystadlu.
Ers hynny, mae hi a'i phartner wedi dod yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd yn y car-llusg i ddau berson ond mae ganddi ddau gyfle am fedal yn Yr Eidal.
Mae hi hefyd yn rhan o gystadleuaeth newydd y car llusg un person, neu monobob - yr athletwraig gynta o Brydain i neud hynny.

Adele Nicoll a'i phartner Kya Placide o Gaerdydd yn y car llusg i ddau berson
Mae ei phartner arferol, Kya Placide o Gaerdydd, yn eilydd yn y garfan Olympaidd.
Dywedodd Adele fod dod o Gymru yn bwysig yn ei datblygiad fel athletwraig yn y maes yma.
Meddai: "Mae bod yr athletwraig gyntaf o Brydain i gystadlu yn y monobob yn hanes yr Olympau yn golygu lot, ond mae'n golygu cymaint mwy gan mod i o'r Trallwng.
"Mae'n dangos bod dim ots am eich amgylchedd, os ydych chi eisiau cyflawni rhywbeth mi fedrwch chi wneud cyn belled bod y drysau iawn yn agor a'ch bod yn fodlon gweithio'n galed amdano fo."
Mae Adele yn adnabyddus ac yn boblogaidd yn ei hardal, ac mae ei char-llusg yn cael ei noddi gan ei chlwb pêl-droed lleol, Y Seintiau Newydd.
Bydd cystadleuaeth y monobob yn cychwyn ar 15 Chwefror ac yna'r car llusg i ddwy ferch yn cychwyn ar 20 Chwefror.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2022

- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022
