Ceidwadwyr yn lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd

Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

Darren Millar sy'n arwain y Ceidwadwyr Cymreig ym Mae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd gan addo trethi is a mwy o swyddi os byddant yn ennill ym mis Mai.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar, mai dim ond ei blaid ef sy'n cynnig "newid gwirioneddol, credadwy a chadarnhaol" i bleidleiswyr Cymru.

Yn lansiad yr ymgyrch yn Abertawe, dywedodd Millar fod gwasanaethau cyhoeddus yn siomi "llawer o bobl" o ganlyniad i saith mlynedd ar hugain o Lafur "a gefnogwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru".

Bydd pleidleiswyr ledled Cymru yn ethol 96 AS - i fyny o'r 60 presennol - ddydd Iau'r 7fed o Fai.

'Credadwy a chadarnhaol'

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddan nhw'n arbed £450 y flwyddyn ar gyfartaledd deulu sy'n gweithio, gydag addewid i dorri cyfradd sylfaenol treth incwm 1c.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw'n rhoi hwb i swyddi ac yn adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn ne-ddwyrain Cymru os ydyn nhw'n ennill etholiad y Senedd.

Wrth siarad yn lansiad eu hymgyrch etholiadol yn Abertawe, dywedodd Millar wrth BBC Cymru fod yn rhaid i bleidleiswyr gefnogi ei blaid os oedden nhw eisiau "newid gwirioneddol, credadwy a chadarnhaol".

Meddai: "Ni yw'r unig blaid sydd â chynllun credadwy i dorri trethi pobl, rhoi mwy o arian yn ôl yn eu pocedi, ac i helpu busnesau i greu'r gyflogaeth a'r cyfoeth y mae ein gwlad ei dirfawr angen".

"Nid yw ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio. Mae ysgolion ac ysbytai yn siomi llawer o bobl ac mae hynny'n ganlyniad i 27 mlynedd o Lafur a gefnogwyd gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol".

Ychwanegodd Millar: "Os nad oes gennych economi iach, nid oes gennych yr adnoddau, y refeniw yn eich trethi, i allu buddsoddi yn eich gwasanaethau cyhoeddus.

"Mae'r Blaid Geidwadol yn deall hyn. Yn anffodus, nid yw pleidiau'r chwith yn benodol yn gwneud hynny, a dyna un o'r gwahaniaethau mawr".

Ar ddydd Iau'r 7fed o Fai, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn ethol 96 o wleidyddion ar gyfer y Senedd.

Bydd chwe aelod yn cael eu hethol i gynrychioli pob un o'r 16 etholaeth newydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now