Tyllau mewn ffyrdd yn 'gwaethygu' a rhai'n poeni am yrru gyda'u plant

Roy Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Roy Roberts o Garej Arwyn yng Ngwynedd ei bod yn anodd osgoi tyllau yn y ffordd

  • Cyhoeddwyd

Mae tyllau mewn ffyrdd yn achosi "lot fawr o ddifrod" i geir a dywed gweithiwr mewn garej ym Mhenygroes ger Caernarfon bod y sefyllfa'n "gwaethygu".

Dywedodd Roy Roberts o Garej Arwyn ei bod hi'n "hawdd iawn" taro twll mewn ffordd a nad oes lot allech chi ei wneud i'w hosgoi.

Fe ddaw hyn wrth i Lywodraeth Cymru ryddhau data ddydd Iau sy'n dangos bod 11,250 o dyllau mewn ffyrdd wedi cael eu trwsio rhwng Ebrill 2025 a Ionawr 2026.

Y gred hefyd ydy bod 185,935 wedi cael eu hatal gan fod bron i 400 milltir o'r rhwydwaith wedi cael haen newydd o darmac.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru bod "trwsio ffyrdd yn flaenoriaeth" a bod £120m yn ychwanegol wedi cael ei roi i gynghorau dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gefnogi hyn.

'Be' elli di neud?'

Esboniodd Mr Roberts bod y difrod i geir yn amrywio gyda'r "rhan fwya'n effeithio ar components suspension" cyn ychwanegu bod "y springs a'r shock absorbers yn cael eu difetha" hefyd.

"Mae'r lonydd yn mynd yn waeth," meddai ac "mae lot yn cwyno - lot fawr."

Dywedodd nad oedd lot y gall gyrwyr ei wneud am y peth: "Alle ti osgoi'r pothole a hitio car sy'n dod i dy gyfarfod di - so be' elli di neud?

"Arafu lawr a gyrru drwyddyn nhw'n araf. Dyna oll ydy'r cyngor gei di."

Julian MorganFfynhonnell y llun, Julian Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Julian Morgan yn dweud ei fod yn poeni am ddiogelwch ei fab sy'n bedair oed wrth iddo yrru o gwmpas tyllau mewn ffyrdd

Dywedodd Julian Morgan o Landochau ger Caerdydd fod y sefyllfa gyda thyllau mewn ffyrdd yn gwaethygu a'i fod yn poeni y bydd yn achosi niwed i yrwyr.

"Byddwn i'n dweud bod pethau wedi gwaethygu'n raddol.

"Mae dyfnder y tyllau yn llawer mwy amlwg nag oedd e flynyddoedd yn ôl.

"Y pryder mwyaf sydd gen i yw pan does dim modd osgoi'r tyllau.

"Mae'n bryderus iawn, iawn, ond mae gwybodaeth nawr i ddangos y gallai bywydau pobl fod mewn perygl, yn enwedig os ydyn nhw ar feic."

Ychwanegodd ei fod yn poeni fwy nawr gan ei fod yn dad i fab sydd bron yn bedair oed.

"Fel gyrrwr, dwi fel arfer yn hyderus iawn ond mae'r cyfrifoldeb bod e yn y car yn bryder mawr."

Dywedodd bod angen newid y ffordd mae'r awdurdodau'n delio gyda'r broblem hefyd:

"Alla i gerdded i'r un ardal a gweld bod nhw'n mynd i'r un tyllau dro ar ôl tro, sy'n rhoi gwerth am arian gwael iawn i drethdalwyr ac sy'n amlwg ddim yn gweithio."

Mae Mr Morgan wedi ysgrifennu at y cyngor i fynegi ei rwystredigaeth.

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael cais am sylw.

Sion Dafydd Ffynhonnell y llun, Sion Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Sion Dafydd yn sefyll yn y twll yn y ffordd a ddifrododd ei gar ac mae'r twll yn ddyfnach na'i ffêr

Mae Sion Dafydd, sy'n ddylunydd graffeg o Gaerdydd, wedi cael llawer o broblemau gyda thyllau mewn ffyrdd ac ym mis Ionawr cafodd fil mawr gan y garej.

"O'n i'n gyrru i bryd o fwyd gyda'r teulu a 'nes i lwyddo osgoi twll mawr ar ochr chwith y ffordd ond 'nes i daro twll ar yr ochr arall a achosodd ddifrod eithaf difrifol," meddai.

"Awr yn ddiweddarach roedd fy mrawd-yng-nghyfraith yn gyrru ar yr un ffordd a digwyddodd yr un peth yn union iddo fe."

Sion Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sion Dafydd ei fod yn credu bod ffyrdd yn gwaethygu ac mae'n "croesi bysedd y bydd pethau'n gwella"

Dywedodd ei fod wedi ystyried hawlio ar ei yswiriant ond ei fod yn poeni am y premiwm, felly talodd £200 o'i boced ei hun.

Bu rhaid iddo hefyd fynd heb gar am wythnos a hanner.

Esboniodd gan eu bod yn "talu mwy o dreth y cyngor" bod disgwyliadau ganddyn nhw.

"Mae'n rhaid sicrhau ein bod yn gallu defnyddio'r ffyrdd a'u bod yn ddiogel.

"Rwy'n sylwi, i fod yn onest, bod ffyrdd yn gwaethygu. Hyd yn oed ar draffyrdd chi'n gweld tyllau mawr a all fod yn beryglus iawn.

"Dwi'n croesi bysedd y bydd pethau'n gwella."

Mae Cyngor Caerdydd wedi cael cais am sylw.

Hannah Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Jones yn dweud bod tyllau mewn ffyrdd yn cadw ei garej hi yng Nghaerffili'n brysur

Mae perchennog garej DJ Tyres yng Nghaerffili, Hannah Jones, yn dweud bod ei garej yn prysuro oherwydd y tyllau mewn ffyrdd ac amodau tywydd gwael.

"Mae nifer yr hoelion sydd ar y ffyrdd a nifer y tyllau mewn ffyrdd yn golygu does dim ffordd i bobl eu hosgoi [tyllau mewn ffyrdd] pan maen nhw'n gyrru.

"Weithiau dydych chi ddim yn eu gweld nhw tan y funud olaf," meddai cyn ychwanegu ei bod hi'n anoddach eu hosgoi gyda cheir mwy.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru yn ystod sesiwn gwestiynau i'r prif weinidog ddydd Mawrth: "Y flwyddyn ariannol hon, fe wnaethon ni ddarparu £10 miliwn i awdurdodau lleol, gan ryddhau dros £70 miliwn ar gyfer gwelliannau cynnal a chadw ychwanegol.

"Rydym wedi buddsoddi £25 miliwn ychwanegol ar y rhwydwaith ffyrdd strategol."

Beth sy'n achosi tyllau mewn ffyrdd?

Twll mewn fforddFfynhonnell y llun, Sion Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl rheswm y gall twll ymddangos mewn ffordd ond mae'r RAC yn dweud eu bod yn aml yn gysylltiedig ag amodau tywydd gwael

Mae sawl peth all achosi twll i ymddangos mewn ffordd meddai'r RAC:

  • Y tywydd - fe all dŵr fynd i graciau ar wyneb y ffordd, a all fynd yn fwy dros amser i achosi craciau pellach

  • Traffic trwm a llwyth cerbydau - Gall holl bwysau'r cerbydau wanhau ffyrdd gan arwain at graciau sydd yn y pen draw yn troi'n dyllau

  • Traul a dirywio

  • Ffyrdd wedi cael eu hadeiladu neu eu cynnal yn wael

Beth yw barn y pleidiau?

Mae llefarydd ar ran Reform UK Cymru yn dweud y byddan nhw'n "dod â'r rhyfel yn erbyn modurwyr i ben ac yn sicrhau nad yw pobl sy'n gweithio'n galed yn cael eu cosbi am geisio mynd o A i B".

"Mae'n rhaid i fodurwyr yng Nghymru ymdopi â therfynau cyflymder 20mya gwallgof, arwynebau ffyrdd gwael a rhwydwaith ffyrdd sy'n gwegian."

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth, Sam Rowlands AS o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Mae tyllau mewn ffyrdd yn rhwystredigaeth ddyddiol i fodurwyr ac fe allan nhw achosi difrod gwirioneddol i gerbydau, yn ogystal â pheri risg diogelwch i bob modurwr."

"Dyna pam mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i gyflwyno Gwarant Tyllau mewn Ffyrdd, gan sicrhau bod tyllau yn cael eu hatgyweirio'n gyflym ac yn briodol fel bod ffyrdd yn fwy diogel i fodurwyr a chymunedau lleol."

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bod "tyllau mewn ffyrdd yn fwy nag anghyfleustra, maen nhw'n risg i ddiogelwch gyrwyr, beicwyr a cherddwyr ar draws Cymru".

"Dyna pam y sicrhaodd Jane Dodds £4 miliwn ychwanegol yn y cytundeb cyllidebol diweddaraf yng Nghymru i ganiatáu i gynghorau ddatgloi £120 miliwn mewn cyllid cyfalaf i atgyweirio ffyrdd lleol.

"Ond ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi, mae angen gwneud llawer mwy. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eisiau gweld buddsoddiad hirdymor cynaliadwy fel y gall cynghorau gynnal ein ffyrdd yn iawn a thrwsio tyllau mewn ffyrdd cyn iddyn nhw ddod yn beryglus."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Lywodraeth Leol a Thrafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths AS: "Mae pobl Cymru wedi bod yn talu'r pris am seilwaith trafnidiaeth Cymru sy'n dadfeilio ers gormod o amser oherwydd anallu Llafur i ddarparu setliad ariannu cynaliadwy i gynghorau.

"Mae Llafur wedi methu ag ymladd dros ariannu teg i Gymru, sy'n golygu bod ein cynghorau wedi brwydro ers gormod o amser gan orfod gwneud toriadau i wasanaethau neu godi treth y cyngor - sydd wedi gadael pobl Cymru yn dioddef effaith methiannau Llafur unwaith eto.

"Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n cynnig arweinyddiaeth newydd i Gymru a fydd bob amser yn mynnu ein bod yn cael ein cyfran deg - er mwyn gallu darparu'r buddsoddiad y mae ein cymunedau'n ei haeddu."

Mae'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now