Pris isafswm alcohol yng Nghymru i godi 30%

alcohol Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rheoliadau newid prisiau yn dod i rym ar 1 Hydref 2026.

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelodau o'r Senedd wedi cefnogi cynigion Llywodraeth Cymru i godi'r isafbris uned am alcohol o 50c i 65c, gan ei wneud yn gyson â'r gyfradd yn yr Alban.

Dywed gweinidogion fod y "polisi nodedig yn helpu i leihau nifer y marwolaethau a'r niwed sy'n gysylltiedig â yfed gormod o alcohol".

Mae'n golygu y bydd can o lager sydd ar gael ar hyn o bryd am £1 yn costio o leiaf £1.30, bydd potel o seidr £2.50 yn cynyddu i £3.25 a bydd potel o wisgi sydd ar hyn o bryd yn costio £14 yn costio o leiaf £18.20.

Mae ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi canfod y gallai cynyddu'r isafbris uned i 65c atal mwy na 900 o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol dros 20 mlynedd a lleihau nifer yr yfwyr niweidiol bron i 5,000.

Cyflwynwyd y polisi yng Nghymru yn 2020 ac mae'r cynnydd mewn pris yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos y bu cynnydd o fwy na 50% mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol rhwng 2019 a 2023.

Gwahaniaeth barn

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: "Mae alcohol rhad, cryfder uchel yn effeithio'n anghymesur ar yfwyr peryglus a niweidiol.

"Mae'r dystiolaeth yn glir – mae'r isafbris uned yn gweithio.

"Rydym heddiw wedi gwneud penderfyniad a fydd yn achub bywydau ac yn helpu i amddiffyn llawer o bobl rhag y niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol."

Andrew Misell o Alcohol Change UKFfynhonnell y llun, Alcohol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Misell o Alcohol Change UK yn poeni fod pobl yn mynd heb fwyd er mwyn prynu alcohol

Croesawodd cyfarwyddwr Cymru Alcohol Change UK, Andrew Misell, barhad y polisi, gan ddweud bod "chwyddiant wedi erydu'n raddol effaith yr isafbris uned ers iddo gael ei gyflwyno yn 2020".

Ychwanegodd y byddai'r cynnydd yn "adfer effeithiolrwydd y polisi ac yn sicrhau y gall barhau i wneud hi'n anoddach cael gafael ar yr alcohol rhataf a chryfaf sy'n achosi'r niwed mwyaf".

Ar raglen Dros Frecwast dywedodd Mr Misell "fod na broblem, mae'n amhosib i wadu, o ran pobl yn mynd heb bethau eraill fel bwyd er enghraifft, er mwyn prynu alcohol a dyna lle dan ni fel elusen ac elusennau eraill wedi bod yn cydweithio ar waith i helpu pobl i gael mwy o fwyd a gwell bwyd achos dyna lle dan ni'n gweld yr ateb".

"Os yw rhywun heb fwyta digon er mwyn prynu diodydd alcoholaidd wel yr ateb yw helpu nhw i gael y bwyd i goginio a bwyta mwy, yn hytrach na newid y cider yn rhad eto."

Gwrthwynebodd y Ceidwadwyr Cymreig y polisi gan alw am "gyllid wedi'i dargedu" ar gyfer cynlluniau adsefydlu camddefnyddio alcohol.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar: "Mae Llafur a Phlaid [Cymru] yn ymuno i wthio pris cwrw, seidr a gwin i fyny".

"Nid yw isafbris uned ar gyfer alcohol wedi gweithio.

"Dim ond taro pobl yng Nghymru, sydd dan bwysau, nad oes ganddynt broblem yfed, yn eu pocedi y mae wedi'i wneud, ac mae wedi arwain at bobl sydd â phroblem gydag alcohol yn yfed diodydd cryfach ac yn mynd heb fwyd na gwres.

"Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dileu'r isafbris uned ar gyfer alcohol, yn gostwng costau i ddefnyddwyr, ac yn buddsoddi mewn cymorth adsefydlu wedi'i dargedu at y rhai sy'n cael trafferth gyda chamddefnyddio alcohol yn lle hynny."

Bydd y rheoliadau newid prisiau yn dod i rym ar 1 Hydref 2026.

Trending Now