Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn bwriadu cau tair uned strôc arbenigol

Mae ymgyrchwyr sydd am gadw uned strôc yn Ysbyty Bronglais yn dweud bod y penderfyniad yn "siomedig ac yn bryderus"
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cefnogi cynllun i ostwng nifer yr unedau strôc arbenigol yn eu hysbytai o bedwar i un.
Ar hyn o bryd mae unedau strôc mewn ysbytai yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Aberystwyth a Hwlffordd.
Ond os bydd y cynllun a gytunwyd arno mewn cyfarfod arbennig ddydd Iau yn cael ei wireddu, dim ond yr uned yng Nghaerfyrddin fydd yn parhau'n weithredol.
Dywedodd ymgyrchwyr sy'n galw am gadw uned yn Ysbyty Bronglais eu bod yn siomedig ac yn bryderus y gallai'r ysbyty fod heb ddoctor strôc yn y dyfodol.
Yn ôl y bwrdd iechyd dyw'r newidiadau ddim yn ymwneud ag arbed arian, ond hytrach yn rhan o ymdrech i gryfhau gwasanaethau bregus, eu gwneud yn gynaliadwy a chwrdd â safonau clinigol.
Bwrdd Iechyd Hywel Dda i benderfynu ar ddyfodol naw gwasanaeth clinigol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Cannoedd yn protestio i gadw uned strôc Ysbyty Bronglais
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
'Dim posib aros' am ysbyty newydd i'r gorllewin cyn gwella gwasanaethau
- Cyhoeddwyd29 Awst 2025
Mewn ymgynghoriad yr haf diwethaf, cyflwynwyd nifer o opsiynau i'r cyhoedd ynghylch sut y byddai naw gwasanaeth clinigol yn cael eu rhedeg yn y dyfodol.
Mewn cyfarfod cyhoeddus eithriadol yng Nghaerfyrddin dros ddau ddiwrnod fe wnaeth y bwrdd iechyd drafod y rhain, yn ogystal â 22 opsiwn pellach a gyflwynwyd gan fwy na 4,000 o ymatebwyr i'r broses ymgynghori.
Daeth cadarnhad ddydd Iau fod y bwrdd iechyd wedi cymeradwyo newidiadau i naw gwasanaeth i gyd.
Yn ogystal â'r newidiadau i wasanaethau strôc, fe fydd llawdriniaeth gyffredinol frys yn dod i ben yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, a bydd yr uned gofal dwys (UGD) yn ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli yn dod yn uned gofal ychwanegol - sy'n darparu lefel is o ofal nag UGD.
Ni fydd y newidiadau'n dod i rym ar unwaith, ac mae cleifion yn cael eu cynghori y bydd y gwasanaethau yn parhau fel yr arfer am y tro.

Clywodd y cyfarfod mai'r cynlluniau i newid gwasanaethau strôc Ysbyty Bronglais, Aberystwyth wnaeth ddenu'r gwrthwynebiad cryfaf
Wrth agor ail ddiwrnod y cyfarfod, diolchodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Neil Wooding, i'r rhai a gyfrannodd i'r ymgynghoriad, gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddai'r penderfyniadau'n rhoi sicrwydd iddyn nhw.
Roedd y newidiadau i wasanaethau strôc wedi bod yn destun ymgyrchu cryf yn Aberystwyth a dalgylch Ysbyty Bronglais.
Yn ystod sesiwn gyntaf y cyfarfod clywodd y bwrdd mai'r newidiadau hynny oedd "wedi denu'r gwrthwynebiad cryfaf".
Cafodd yr opsiwn a gefnogwyd ar gyfer gwasanaethau strôc ei ddiwygio o ganlyniad i awgrymiadau gan aelodau'r cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad.
Mae'n golygu y byddai uned strôc dan ofal arbenigwyr 24 awr y dydd yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, tra byddai "gwasanaeth trin a throsglwyddo" ac uned adsefydlu yn Aberystwyth.
Yn Llanelli a Hwlffordd byddai unedau trin a throsglwyddo.
Clywodd y cyfarfod fod y penderfyniad i gefnogi'r opsiwn amgen yn golygu y bydd angen cyfnod pellach o ymgysylltu â'r gymuned yn dilyn gwaith mewnol ychwanegol, sy'n cynnwys asesiad risg.

Mae Lisa Francis yn poeni am sut y bydd cleifion yn cael eu trosglwyddo i Gaerfyrddin
Ar ôl y penderfyniad, dywedodd Lisa Francis, cadeirydd grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, ei bod yn siomedig.
"Mae'n ddiflas achos efallai fydd 'na ddim doctor strôc ym Mronglais ar ôl hynny," meddai.
"Fe fydd rhyw fath o rehab unit ond efallai bydd Bronglais heb strôc unit.
"Yn ystod y cyfarfod, roedd tua 25 o bobl yn eistedd rownd y bwrdd. Wnaeth dim un ddweud y gair 'ambiwlans' - os bydd ambiwlansys ar gael i wneud y trosglwyddo.
"A dim ond un, dwi'n credu, sydd wedi dweud unrhyw beth am yr ardal mae Bronglais yn gwasanaethu, fel de Meirionydd, fel Powys.
"Dwi'n poeni am y trosglwyddo. Sut mae pobl yn mynd i gael eu symud lawr i Gaerfyrddin i'r strôc unit?"
'Nid arbedion' sydd wrth wraidd y newidiadau
Ar ddechrau'r cyfarfod dywedodd Huw Thomas, cyfarwyddwr cyllid y bwrdd iechyd, nad oedd y penderfyniadau'n ymwneud ag arbed arian.
"Heddiw dy'n ni ddim yn gwneud arbedion - nid dyna'r rheswm pam ni'n cael y cyfarfod yma," meddai.
"Ond rhesymau o fregusrwydd, creu gwasanaethau cynaliadwy a safonau clinigol. Ond mae 'da ni ddyletswydd i'r trethdalwr hefyd."
Gan grynhoi trafodaethau blaenorol y bwrdd iechyd dywedodd Lee Davies, y cyfarwyddwr strategaeth a chynllunio: "Mynychodd 4,000 o bobl ddigwyddiadau ymgysylltu, a chawsom dros 4,000 o holiaduron.
"O safbwynt gwasanaethau acíwt, edrychom ar dri gwasanaeth - llawdriniaeth gyffredinol frys, gofal critigol a strôc.
"[Yn y meysydd hynny] ry'n ni wedi clywed nad yw ein poblogaeth ar hyn o bryd yn elwa o'r datblygiadau mewn safonau yr ydym wedi'u gweld ar draws gweddill y DU a'r byd, ac mae angen i ni feddwl am sut y bydd ein gwasanaethau yn y dyfodol yn gosod y sylfeini i ni fod mewn sefyllfa i gyflawni'r safonau hynny."

Bydd unedau trin a throsglwyddo strôc yn parhau yn ysbytai Bronglais, Llwynhelyg a Tywysog Philip
Bydd y newidiadau ar gyfer gwasanaethau acíwt – heblaw strôc – yn golygu diwedd ar lawdriniaeth gyffredinol frys yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Yn lle hynny, bydd Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) yr ysbyty yn cael ei gryfhau.
Bydd llawdriniaeth gyffredinol frys yn parhau yn Aberystwyth a Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Ar gyfer gofal critigol, mae gan y pedwar ysbyty uned gofal dwys (ICU) ar hyn o bryd, gyda throsglwyddo'r cleifion mwyaf sâl yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.
Penderfynodd y bwrdd gymeradwyo'r opsiwn a fyddai'n gweld unedau gofal dwys yn aros yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Hwlffordd, tra byddai'r gwasanaeth yn Llanelli yn newid i uned gofal ychwanegol, a all ddarparu gwasanaethau i gleifion sefydlog yn hytrach na'r lefel uwch o ofal sy'n cael ei ddarparu mewn ICU.
Cytunodd y bwrdd iechyd hefyd ar newidiadau i chwe gwasanaeth arall – offthalmoleg, orthopedig, dermatoleg, wroleg, endosgopi a radioleg.

Mae'n bwysig bod y bwrdd iechyd yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned, yn ôl Olwen Morgan
Yn ôl Olwen Morgan, Cyfarwyddwr Nyrsio Cynorthwyol y bwrdd iechyd, fe allai fod yn her i adennill ffydd ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn eu prosesau.
"Dwi'n credu bod e'n deg i ddweud ein bod ni gyd yn rhan o gymuned Hywel dda ac felly ry'n ninnau hefyd yn defnyddio'r gwasanaethau ac ni moyn sicrhau bod pawb yn cael y gwasanaethau gorau y gallwn ni eu cynnig iddyn nhw.
"Ond mae mynd trwy newid mawr fel hyn yn mynd i greu ofn a phryder i'r gymuned.
"...Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw cysylltiad â'n cymunedau ac yn rhoi gwybodaeth iddyn nhw fel mae'r prosesu hyn yn mynd ymlaen fel bod nhw'n gweld, a gobeithio, yn cynyddu eu hyder yn y broses a'r newidiadau fydd yn dod oherwydd hynny."
Ymateb y pleidiau
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion iechyd, Peter Fox fod y newyddion yma'n debygol o fod yn achos pryder i gleifion a theuluoedd ar hyd canolbarth a gorllewin Cymru.
"Fe fydd israddio gwasanaethau llawdriniaeth gyffredinol yn yr ardal yn arwain at siwrnai hirach am ofal brys - fydd yn cynyddu'r pwysau ar gleifion, teuluoedd a gwasanaethau ambiwlans," meddai.
Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, dywedodd Sandra Jervis fod y penderfyniad i gael gwared a'r uned strôc arbenigol yn Ysbyty Bronglais yn hynod o siomedig.
"Mae'r cwestiynau am sut y bydd cleifion yn cael eu cludo yn parhau heb atebion, ac mae teuluoedd wir yn poeni am orfod teithio yn bell ar yr adegau mwyaf dychrynllyd yn eu bywydau. Dyw'r bwrdd iechyd dal heb gynnig eglurhad clir o ran sut maen nhw am sicrhau fod trosglwyddiadau cleifion yn amserol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd12 Chwefror
