Arestio dyn, 35, wedi digwyddiad gêm bêl-droed Porthmadog
Arestio dyn, 35, wedi digwyddiad mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog (Fideo: Harvey Barnett)
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn digwyddiad yn ystod gêm bêl-droed yng Ngwynedd brynhawn Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymwybodol o fideo sydd wedi cael ei rannu ar-lein o ddigwyddiad mewn gêm rhwng Bae Trearddur a Phorthmadog yn nhrydedd haen y pyramid Cymreig - yr Ardal North West.
Mae'r fideo i'w weld yn dangos un o chwaraewyr Bae Trearddur yn defnyddio ei benelin i daro chwaraewr Porthmadog yn ei wyneb.
Mae Clwb Pêl-droed Bae Trearddur wedi cadarnhau eu bod bellach wedi rhyddau y chwaraewr dan sylw, tra bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) hefyd yn ymchwilio i'r mater.
Dywedodd CPD Porthmadog mai prif bryder y clwb oedd lles eu chwaraewr, sy'n "gwella gartref" ar ôl cael cyfergyd.

Mae fideo o'r digwyddiad wedi cael ei rannu yn helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn datganiad brynhawn Sul: "Mae swyddogion wedi bod yn gwneud ymholiadau er mwyn deall yr amgylchiadau arweiniodd at y digwyddiad.
"Fel rhan o'n hymchwiliad mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod."
Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa.
Bae Trearddur 'yn cydnabod na ddylai hyn fod wedi digwydd'
Mewn datganiad brynhawn Sul dywedodd Clwb Pêl-droed Bae Trearddur eu bod wedi gwahardd y chwaraewr "ar unwaith yn dilyn digwyddiad rhwng CPDBT a Phorthmadog".
Ond mewn datganiad yn hwyrach ddydd Sul, fe gadarnhaodd y clwb fod y chwaraewr dan sylw wedi cael ei ryddhau o'r clwb.
"Yn dilyn adolygiad mewnol, mae'r penderfyniad wedi ei wneud i ryddhau'r chwaraewr sydd wedi ei wahardd, a hynny ar unwaith," meddai'r datganiad.
"Dydy CPD Bae Trearddur ddim yn derbyn trais o unrhyw fath, ac rydyn yn cydnabod na ddylai hyn fod wedi digwydd.
"Mae'r clwb yn ymddiheuro i'r chwaraewr oedd yn rhan o'r digwyddiad, i CPD Porthmadog, i'r dyfarnwyr, cefnogwyr ac i'r gymuned bêl-droed yn ehangach.
"Fe fydd y clwb yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw ymchwiliadau neu brosesau disgyblu, ond ni fyddin yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater tra bod y prosesau hyn yn mynd rhagddo."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn ymchwilio i'r mater
Dywedodd CBDC: "Mae gemau'r drydedd haen yn dod o dan awdurdodaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol o'r digwyddiad a byddwn yn ei adolygu."
Mae data o'r gêm yn awgrymu na chafodd cerdyn coch ei roi gan y dyfarnwr Richard Gwyn Edwards yn ystod y gêm - a orffennodd 3-2 i'r tîm cartref, Porthmadog.
Dywedodd CPD Porthmadog mewn datganiad mai diogelwch eu chwaraewr yw eu prif bryder.
"Hoffai'r clwb bwysleisio mai ei brif bryder yw lles a diogelwch ein chwaraewr Danny Brookwell," meddai.
"Cafodd Danny gyfergyd ac ar ôl triniaeth bu'n rhaid iddo adael y cae chwarae. Ein dealltwriaeth ni yw ei fod yn gwella gartref."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.