Nifer uchaf erioed o farwolaethau camddefnydd cyffuriau yng Nghymru

tabledi opioidFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dynion bron i dair gwaith yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio cyffuriau na menywod yn 2024, yn ôl ffigyrau ICC

  • Cyhoeddwyd

Cafodd y nifer uchaf erioed o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau eu cofnodi yn 2024 yng Nghymru.

Yn ôl ffigyrau newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), cafodd 417 o farwolaethau o wenwyno cyffuriau eu cofnodi, cynnydd o'r 377 o'r flwyddyn flaenorol.

O'r rhain, roedd 288 yn farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau. Dywedodd ICC fod y rhan fwyaf o farwolaethau, 84%, oherwydd gwenwyno damweiniol.

Roedd opioidau, sy'n cynnwys cyffuriau fel heroin neu forffin, wedi eu cofnodi mewn 200 o farwolaethau o wenwyno cyffuriau - bron i 70%.

Oherwydd hynny mae ICC yn rhybuddio eto am y niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau o'r fath.

Roedd cocên hefyd yn gysylltiedig â dros chwarter y marwolaethau o gamddefnyddio cyffuriau - sy'n gynnydd ers 2023.

Dywedodd ICC fod y ffigyrau cocên "yn adlewyrchu'r hyn y mae gwasanaethau lleol wedi bod yn ei adrodd ers peth amser".

Mae defnyddio sawl cyffur gwahanol hefyd yn cynyddu gyda 62% o'r marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau yn cynnwys mwy nag un sylwedd, fel arfer opioidau gyda chocên neu bensodiasepinau.

'Symptom o broblemau cymdeithas'

Dydy'r cynnydd ddim yn syndod i gyn-Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones, a ddywedodd bod y "ffigyrau wedi mynd i fyny ac i fyny, blwyddyn ar ôl blwyddyn, ers degawd".

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd: "Dros y ddwy flynedd ddiwetha', mae'r nifer o farwolaethau drwy gamddefnydd o gyffuriau wedi codi 40% o 205 i 288."

Ychwanegodd: "Mae na lot o wahanol fathau o gyffuriau yn dod ar y farchnad, mae'n amlwg, yn yr ardaloedd difreintiedig, dydy pethau ddim yn gwella digon buan, dydy'r gefnogaeth ddim yna."

Naloxone
Disgrifiad o’r llun,

Mae Naloxone yn gyffur sy'n gallu dadwneud effeithiau opioidau mewn pobl sydd wedi cymryd gorddos

Dywedodd Andrew Cornell, swyddog polisi gyda Byddin yr Iachawdwriaeth bod y ffigyrau'n "symptom o broblemau cymdeithas, problemau tai, probemau tlodi, problemau iechyd ac yn y blaen".

"Ond un peth sy'n galonogol yw llwyddiant Naloxone fel ffordd o achub bywydau pobl sydd wedi gorddosio ar opioidiau – mae'n prynu amser i achub bywyd rhywun ac mae hynny yn bwysig dros ben. Hoffwn i weld rhagor o fynediad at Naloxone."

Dywedodd y byddai o blaid "gweld Naloxone mewn mannau cyhoeddus, megis gorsafoedd trên er enghraifft a gweld rhagor o bobl yn cael eu hyfforddi hefyd i ddefnyddio Naloxone".

Opioidau'n achosi 'niwed parhaus'

Yn ôl ICC, mae ffigyrau'r degawd ddiwethaf yn dangos bod pobl o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru dros bum gwaith yn fwy tebygol o farw oherwydd camddefnyddio cyffuriau na phobl o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Yn 2024, roedd dynion bron i dair gwaith yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio cyffuriau na menywod.

Pobl dros 50 oed oedd yn cyfrif am 34% o'r holl farwolaethau o ganlyniad i gyffuriau.

Ond roedd 17 o farwolaethau ymhlith pobl dan 25 oed, cynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae ICC yn dweud bod y ffigyrau'n dangos y "niwed parhaus y mae opioidau'n ei achosi ledled Cymru, yn aml ochr yn ochr â sylweddau fel cocên a bensodiasepinau".

Ychwanegodd yr Athro Rick Lines o'r sefydliad: "Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn parhau i fod yn llawer mwy cyffredin yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

"Mae hyn yn dangos yr angen am weithredu ehangach ar dai, tlodi ac anghydraddoldebau iechyd ochr yn ochr â gwaith gwasanaethau cyffuriau arbenigol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn drychineb", a'u bod wedi buddsoddi dros £67m i wella gwasanaethau ac i leihau nifer y marwolaethau.

Ychwanegodd llefarydd: "Rydym yn cydweithio'n agos â byrddau iechyd, awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r heddlu i leihau'r niwed a achosir gan gamddefnydd cyffuriau ac alcohol gan ganolbwyntio ar atal, triniaeth a chefnogaeth adferiad.

"Rydym yn cefnogi'r driniaeth arloesol ar gyfer dibyniaeth opiaeth Buvidal ac yn gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â defnydd opioids synthetig yng Nghymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now