Newid agweddau at gerddoriaeth Saesneg yn 'beth da i'r Gymraeg'

Ruby ar y chwith ac Endaf ar y dde yn sefyll mas tu fas wrth ymyl coeden. Mae gan Ruby wallt hir brown ac mae'n gwisgo crys-t du. Mae Endaf ar y dde yn gwisgo yn gwisgo clust-ffonau ac yn dal bysellfwrddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Endaf Roberts a Ruby Jones ar restr fer cystadleuaeth Cân i Gymru eleni

GanBethan Bushell
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae newid agweddau tuag at gerddoriaeth bop Saesneg yn cael effaith gadarnhaol ar gerddoriaeth Gymraeg, yn ôl rhai sy'n gweithio o fewn y maes.

Daw hyn ar ôl i'r cwmni ffrydio Spotify gyhoeddi eu hystadegau gwrando diweddar, sy'n dangos twf sylweddol ym mhoblogrwydd cerddoriaeth mewn ieithoedd gwahanol.

Mae cerddoriaeth mewn 16 iaith wahanol bellach yn ymddangos ar restr Global Top 50 Spotify, gan gynnwys caneuon yn Sbaeneg, Corëeg, Portiwgaleg ac Arabeg.

Mae'r ffigurau yma wedi dyblu ers 2020.

Wrth ymateb i'r rhestr, mae sawl artist Cymraeg wedi dweud bod y tuedd yma yn "agor drysau" i gerddorion Cymraeg.

Effaith gadarnhaol ar y Gymraeg

Mae Esyllt Williams yn un o DJs amlycaf Cymru, a hithau wedi bod yn rhedeg noson boblogaidd Dirty Pop yng Nghlwb Ifor Bach ers blynyddoedd.

Mae Esyllt wedi gweld yn uniongyrchol sut mae arferion gwrando pobl ifanc wedi newid dros y blynyddoedd.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd: "Wrth i ni weld shifft i ffwrdd o America a Hollywood… rydyn ni'n gweld shifft tuag at lefydd eraill yn y gorllewin fel canolfannau diwylliannol y byd.

"Mae Corea a K‑pop wedi cael dylanwad mor fawr ar yr hyn mae pobl ifanc yn gwrando arno."

Esyllt Williams, menyw gwallt brown hir gyda mewn crys-t du a chlust-ffonau mewn bwth DJFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Esyllt Williams, mae newid agweddau ym myd cerddoriaeth pop yn gallu "agor drysau" i gerddorion Cymraeg

Mae Esyllt o'r farn mai datblygiadau gwasanaethau ffrydio a chyfryngau cymdeithasol sydd wrth wraidd y newidiadau yma, gan arwain at wneud cerddoriaeth fyd-eang yn fwy hygyrch.

"Mae'n rhwydd iawn nawr i allu ffeindio rhywbeth, gwrando arno fe, newid eich meddwl ac wedyn dipio mewn a mas o'r gerddoriaeth.

"20 mlynedd yn ôl, pan oedd rhaid prynu cerddoriaeth... roedd hynny'n amhosib.

"Mae'r mynediad hwn wedi gwneud pobl yn fwy agored eu meddwl, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar y sin gerddoriaeth Gymraeg."

Ychwanegodd fod pobl yn "derbyn ieithoedd gwanhaol ac yn fwy parod i wrando ar gerddoriaeth nad ydyn ni'n deall".

Wrth sôn am effaith hyn ar y Gymraeg, mae'n hyderus ei fod yn "beth cadarnhaol" sy'n medru "agor drysau i gerddorion".

Llun o Esyllt, menyw gyda mewn crys-t du a gwallt brown hir
Disgrifiad o’r llun,

Mae Esyllt wedi teithio o gwmpas Cymru a Llundain fel DJ

Un sydd wedi gweld effaith y newid tuedd ar ei gerddoriaeth yw'r DJ a'r cynhyrchydd Endaf Roberts.

Mae'n enw cyfarwydd i fyd cerddoriaeth Gymraeg, ag yntau wedi ymddangos ar raglenni Y Llais a Cân i Gymru yn ddiweddar.

Yn dilyn rhyddhau ei gân newydd Dwisho Deud, mae wedi synnu o weld o ble mae'r gwrandawyr yn dod.

Erbyn hyn mae modd edrych ar ddata i weld lle mae'r gerddoriaeth yn cael ei chwarae.

Y llefydd mwyaf poblogaidd oedd Lerpwl, wedyn Llundain, ac yna Melbourne yn Awstralia.

Ni wnaeth unrhyw le o Gymru ymddangos ar y rhestr tan y chweched safle, sef Caerdydd.

"Dydi'r steil o gerddoriaeth yma ddim yn un sy'n benodol Gymreig, ond mae'n boblogaidd ar draws gwahanol genres," meddai.

Fel cynhyrchydd, dywed Endaf ei fod yn tueddu i wrando ar wahanol steiliau ac acenion yn hytrach na chanolbwyntio ar y geiriau.

Mae'n meddwl bod yr agwedd hon at gerddoriaeth yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar fyd cerddoriaeth Gymraeg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now