Rhybudd melyn am rew ar gyfer y mwyafrif o'r wlad fore Llun

Daw'r rhybudd i rym am 22:00 nos Sul
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ar gyfer rhannau helaeth o'r wlad dros nos.
Daw'r rhybudd i rym am 22:00 nos Sul a bydd yn dod i ben am 09:00 fore Llun.
Yn ôl arbenigwyr, fe allai'r tywydd oer arwain at amgylchiadau peryglus ar lonydd a llwybrau sydd heb eu trin o flaen llaw.
Mae cyngor i bobl roi mwy o amser ar gyfer teithiau boed hynny ar y ffordd neu ar droed ac i ddefnyddio priffyrdd a lonydd poblogaidd pan yn bosib.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i holl siroedd Cymru ac eithrio Wrecsam a Sir y Fflint.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.