Arestio pedwar yn Llanelli mewn ymgyrch gafodd ei gynllunio ymlaen llaw

- Cyhoeddwyd
Mae pedwar person wedi cael eu harestio yn Llanelli yn dilyn ymgyrch gafodd ei gynllunio ymlaen llaw meddai Heddlu Dyfed Powys.
Roedd yna bresenoldeb swyddogion gan gynnwys Uned Arfau Tanio ar y Cyd ar Station Road ddydd Sadwrn 25 Ebrill.
Cafodd un dyn 37 oed a dwy fenyw, 21 a 26 oed, eu harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth waethygedig (aggravated burglary).
Mae un dyn arall, 39 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drosedd trefn gyhoeddus.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Dros Dro, Rhys Jones ei fod yn deall y gall presenoldeb heddlu o'r fath achosi pryder i aelodau'r gymuned ond "hoffwn i bwysleisio mai gweithgarwch wedi ei drefnu ymlaen llaw oedd hwn, a dim ymateb i unrhyw fygythiad parhaus i'r cyhoedd."
Aeth ymlaen i ddiolch i aelodau'r cyhoedd am eu hamynedd wrth iddyn nhw gyflawni'r ymholiadau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.