'Dal i deimlo'n grac' 30 mlynedd wedi trychineb y Sea Empress

Hyd heddiw mae trychineb y Sea Empress yn parhau i fod ymysg yr 20 achos gwaethaf yn y byd o olew yn gollwng o dancer i'r môr
- Cyhoeddwyd
30 o flynyddoedd yn ôl fe aeth tancer olew y Sea Empress i drafferthion oddi ar Sir Benfro - un o'r arfordiroedd mwyaf sensitif a phwysig i fywyd gwyllt drwy Ewrop.
Mae wedi'i ddisgrifio fel trychineb wnaeth i bobl sylweddoli gwerth byd natur ac arwain at "newid sylweddol o ran agweddau tuag at yr amgylchedd".
Bu farw miloedd o adar morol wrth i griwiau achub frwydro yn erbyn yr elfennau am bron i wythnos er mwyn tynnu'r llong oddi ar y creigiau a'i thywys i borthladd Aberdaugleddau.
Hyd heddiw mae dicter a dadlau'n parhau ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd, wrth i arbenigwyr rybuddio bod newid hinsawdd yn cynyddu'r risg o achosion tebyg o lygredd yn y dyfodol.

Hefin Wyn oedd yn gohebu ar y drychineb i raglenni newyddion BBC Radio Cymru ac S4C ar y pryd
"Ma'r atgofion yn llifo 'nôl," meddai cyn-ohebydd y BBC, Hefin Wyn, wrth edrych tua'r môr ar Benrhyn Santes Ann - man anghysbell a gwyntog ger y fynedfa i ddyfrffordd Aberdaugleddau sef un o borthladdoedd prysura'r Deyrnas Unedig.
"Edrych lawr a chlywed sŵn y tancer yn chwyrnu oddi tano ni, ro'dd hi'n yffachol o wyntog - cesair a glaw," meddai.
"A wedyn gweld y môr du, yr olew yn drwchus, fel trecl ym mhobman.
"Ro'dd yr adar yn glanio ar y môr i arnofio ac yn ffili codi i hedfan wedyn, yr olew wedi mynd i'w hadennydd nhw," meddai. "Ro'dd hynny'n dorcalonnus."
Fe ddigwyddodd y trychineb o fewn i'r unig barc cenedlaethol arfordirol yn y DU, ger 35 safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gwarchodfa natur morol ac ynysoedd oedd yn gartref i boblogaethau o adar prin oedd yn bwysig ar lefel byd-eang.
"Fe 'nath e i bobl sylweddoli... rhaid i ni fod yn ddiolchagr bod gyda ni shwd brydferthwch yn y cylchoedd 'ma sydd yn denu pobl," meddai Mr Wyn.
"Rhaid i ni warchod y prydferthwch hwnnw yn ogystal â gwarchod y bywyd gwyllt - mae'r pethau rhain yn werthfawr iawn i ddynoliaeth - dyma beth y'n ni wedi etifeddu yn Sir Benfro," ychwanegodd.

Cafodd dros 7000 o adar eu casglu oddi ar draethau wedi eu gorchuddio ag olew
Dyma oedd "yr un digwyddiad gwaethaf i fi weld erioed" meddai'r naturiaethwr a'r cyflwynydd Iolo Williams, oedd yn gweithio ar y pryd i'r gymdeithas gwarchod adar - yr RSPB - yng Nghymru.
Roedd yr olew'n mynd ar groen ac i wallt pobl oedd yn trio helpu'r bywyd gwyllt oedd wedi'u heffeithio - ac yn troi eu llygaid yn goch, meddai mewn rhaglen ddogfen i nodi 30 o flynyddoedd ers y drychineb.
"Yn y diwedd dwi'n meddwl bod ni wedi pigo fyny dros 7,000 o adar [ond] dwi'm yn siŵr faint farwodd achos o'dd llawer wedi boddi allan ar y môr a byth wedi dod i'r lan."
"Dda'th y niferoedd ddim nôl fel oedden nhw tan bron i 10 mlynedd [yn ddiweddarach]".
"O'dd mynd trwy be welish i yn gwneud i mi werthfawrgoi pa mor fregus fel cynefin ydy'r môr," meddai.

Roedd Iolo Williams yn gweithio i'r Gymdeithas Gwarchod Adar - yr RSPB - ar y pryd
Beth ddigwyddodd?
Roedd y tancer 274m o hyd o Liberia ar y ffordd i burfa olew ger Penfro.
Roedd yn cario mwy na 130,000 o dunelli o olew crai ysgafn pan darodd greigiau wrth geisio dod i mewn i ddyfrffordd Aberdaugleddau am 20:07 ar 15 Chwefror 1996.
I ddechrau penderfynwyd ceisio dod â llong arall tuag ati er mwyn dadlwytho'r olew oddi ar y Sea Empress.
Ond yna fe ddaeth storm ffyrnig a gwyntoedd cryfion, gan olygu y bu'n rhaid i'r criw ar fwrdd y llong a'r tynfadau oedd yn ei chadw yn ei lle adael am nad oedd yr amodau'n ddiogel.
Am rai oriau bu'r llong ar ei phen ei hun yn cael ei throchi'n ddidrugaredd gan y tonnau ac olew'n tasgu ohoni.
Wedi i'r gwynt ostegu roedd yna ymdrechion niferus dros y dyddiau wedyn i dynnu'r llong oddi ar y creigiau.
Cafodd ei thywys i lanfa yn Aberdaugleddau ar 21 Chwefror, gan ddod â diwedd i chwe diwrnod o olygfeydd dramatig oedd wedi cael eu dangos ar draws y byd.
Cafodd dros 70,000 o dunelli o olew - digon i lenwi 32 pwll nofio Olympaidd - ei ollwng i'r môr, gan droi rhai o draethau enwocaf Sir Benfro'n ddu ac effeithio ar werth 200km o arfordir.

Map yn dangos lleoliad y digwyddiad
"Beth dwi'n cofio yn gyntaf o'dd teimlad cryf y bobl lleol - o'n nhw'n grac ofnadw am beth o'dd wedi digwydd achos ma' arfordir Sir Benfro mor bwysig - i fywyd gwyllt, i dwristiaeth a physgotwyr," meddai Gordon James, oedd yn gyfarwyddwr ar fudiad Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru ar y pryd.
"Dwi'n cofio mynd lawr i Ddinbych-y-pysgod a gweld pobl ar y traeth ac o'n nhw'n llefen," ychwanegodd.
Wedi'r drychineb, roedd Mr James yn allweddol yn y gwaith o ddwyn achos llys yn erbyn Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.
"Casglon ni llwyth o dystiolaeth... [yn dangos] llawer o wendidau yn y system yn Aberdaugleddau," eglurodd.
"Roedd y criwiau oedd yn rhedeg y tynfadau wedi dweud [cyn y trychineb] bod e ddim yn saff, eu bod nhw wedi cael gormod o cutbacks ac yna roedd y peilotiaid morol yn cwyno bod nhw ddim yn hapus achos do'dd diogelwch [yn y porthladd] ddim digon cryf."
Ar y noson ei hun cafodd peilot ifanc, dibrofiad ei anfon i dywys y tancer drwy'r ddyfrffordd, ac yna dyma'r mudiad yn darganfod nad oedd radar y porthladd wedi gweithio yn iawn "am fisoedd".
"Mae'n anodd credu," meddai Mr James.
Maes o law cafodd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ddirwy o £4m, sef y gosb fwya' erioed ar y pryd am achos o lygredd ym Mhrydain.
Ar ôl iddyn nhw apelio, cafodd y ddirwy ei lleihau i £750,000 ar yr amod bod y porthladd yn buddsoddi i wella diogelwch.

Dangosodd y drychineb "pa mor bwysig mae'r byd naturiol a'r amgylchedd i bobl" yn ôl Gordon James, oedd yn gyfarwyddwr ar Gyfeillion y Ddaear ar y pryd.
30 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae Mr James yn dweud ei fod yn dal i deimlo'n grac ynglŷn â'r hyn mae'n ei weld fel camgymeriadau a wnaed wrth geisio helpu'r tancer ar ôl iddo fynd i drafferth.
Mae'n mynnu na ddylai'r llong fod wedi'i dal yn ei lle yn y cyfnod cyn i'r storm fawr daro.
Roedd peilotiaid lleol a chriwiau'r tynfadau wedi dweud y gallen nhw gymryd y Sea Empress yn bellach allan i'r môr neu i lanfa yn y porthladd ond roedden nhw'n "cael eu hanwybyddu", honnodd.
"Dwedon nhw dro ar ol tro wrth yr awdurdodau yn y porthladd bod e'n bosib iddyn nhw symud y tancer pan o'dd y llanw yn uchel a throsglwyddo'r olew ond we nhw ddim yn cael ateb," meddai.
"Wedd chaos - dim un yn gw'bod [pwy] o'dd yn rhedeg beth," meddai.
"Ddyle nhw ddim fod wedi gadael y tancer yna - wrth gwrs pan dda'th y storm mewn ro'dd y tancer yn symud 'nol ac ymlaen ar y creigiau - twll ar ôl twll - a cholli tunelli o olew."

Treuliodd y Sea Empress chwe diwrnod yn sownd ger y fynedfa i ddyfrffordd Aberdaugleddau
'Risg o ffrwydrad'
Mae Joe Small yn gweld pethau'n wahanol.
Fel uwch-reolwr Uned Rheoli Llygredd Morol y DU fe oedd un o'r bobl gyntaf i gamu ar fwrdd y Sea Empress ar ôl i'r tancer daro'r creigiau.
Fe ddaeth hi i'r amlwg bod olew wedi symud mewn i'r llong ac i danciau nad oedd wedi'u dylunio ar ei gyfer, meddai.
Roedd hynny'n "fygythiad enfawr" i ddiogelwch gyda phryder bod nwyon yn casglu o fewn i'r cwch a "risg o ffrwydrad".
Fe wnaeth hynny leihau'r opsiynau oedd ar gael i'r criwiau oedd yn ymateb, gan nad oedden nhw am ddod â'r tancer i mewn i ardal boblog fel Aberdaugleddau cyn gwneud yn siŵr ei fod yn saff.
Roedd y gwaith o adfer y tancer yn "her dechnegol anferth" a roedd y ffaith iddyn nhw gwblhau'r gwaith o fewn wythnos yn "pretty good going"," ychwanegodd.

Gollyngodd 72,000 o dunelli o olew crai i'r môr oddi ar Sir Benfro tra roedd tancer y Sea Empress yn sownd ar y creigiau
Dywedodd Tom Sawyer, prif weithredwr Porthladd Aberdaugleddau bod trychineb y Sea Empress yn "foment ddiffiniol" i'r porthladd ei hun ond hefyd y "sector morol yn ehangach".
"Fe ddangosodd ddiffygion yn ein diwydiant a fe achosodd niwed mawr i arfordir yr y'n ni gyd yn ei drysori oherwydd ei harddwch naturiol a'i fioamrywiaeth."
Ers y digwyddiad mae'r porthladd wedi cryfhau hyfforddiant ar gyfer peilotiaid a buddsoddi mewn "technoleg morlywio sy'n arwain y byd".
Mae cyfrifoldebau newydd Llywodraeth y DU i ymateb i argyfwng a chreu Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau unedig "wedi sefydlu awdurdod cliriach, rheoleiddio cryfach a chydweithio mwy effeithiol adeg argyfwng".
Yn y cyfamser, yn rhyngwladol roedd y diwydiant wedi mynnu newidiadau i gyrff llongau i'w gwneud yn fwy gwydn a gwella fframweithiau ar gyfer talu iawndal am ddifrod amgylcheddol.
Allai ddigwydd eto?
Trychineb y Sea Empress oedd yr achos diwethaf yn hanes Prydain o ollyngiad mawr o olew i'r amgylchedd, er bod yna enghreifftiau o ddigwyddiadau ar raddfa llawer llai ers hynny, meddai Joe Small.
"Os ydyn ni am fewnforio ac allforio o'n hynysoedd ni, yna mae angen llongau arnon ni... ond mae'r [tanceri yma] yn gweithredu mewn amgylchedd sy'n gallu bod yn anodd, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf," ychwanegodd.
"Ry'n ni wastad yn edrych ar ffyrdd i wella, paratoi'n well a gwneud pethau'n saffach."
Roedd newid hinsawdd a'r nifer cynyddol o stormydd ffyrnig yn un her amlwg, rhybuddiodd - yn ogystal â moroedd sy'n dod yn fwy prysur.
Mae lleihad yn nifer y purfeydd olew yn y DU yn golygu mwy o angen i fewnforio nwyddau oedd wedi'u puro fel petrol, sy'n cael ei gludo ar danceri llai o faint.
"Ry'n ni nawr yn gweld pedair neu bump o longau er mwyn cario yr un faint [o gynnyrch a oedd ar y Sea Empress] - felly mwy o longau, tywydd gwaeth - does dim ots pa mor ddiogel yw'n trefniadau ni, mae pethau yn mynd o le."
Mae datblygiad ffermydd gwynt mawr yn y môr - fel y rhai sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y Môr Celtaidd oddi ar Sir Benfro - yn golygu "heriau ychwanegol" gan "gyfyngu ar y llwybrau sydd ar gael i longau".
Yn rhyngwladol mae tanceri yn wynebu "cynnydd mewn ymosodiadau gan fôr ladron", tra bod diwydiant cudd wedi datblygu hefyd sy'n cludo nwyddau'n anghyfreithlon gan ddefnyddio hen danceri sy'n aml mewn cyflwr gwael.
Wrth i'r iâ doddi yn yr Arctig, mae llwybrau newydd i gychod yn agor a hynny'n broblem bosib i'r dyfodol gan bod adnoddau i ymateb i drychinebau a'r isadeiledd er mwyn cefnogi tanceri yno yn brin, meddai.

Daeth miloedd o wirfoddolwyr i Sir Benfro i helpu gyda'r gwaith o lanhau'r traethau
'Dyna yw gwir bris olew'
Gallai trychineb y Sea Empress fod wedi bod yn llawer gwaeth.
Ym mis Chwefror doedd nifer o'r adar mudol adnabyddus heb ddychwelyd eto i gloglwyni ac ynysoedd Sir Benfro - a doedd y tymor twristiaeth ddim wedi dechrau chwaith.
Roedd cyfeiriad y gwynt yn allweddol, wrth chwythu olew oddi ar yr arfordir ac yn bellach i'r môr.
Roedd yna ymdrech arwrol hefyd gan y gymuned leol i lanhau'r traethau, gan alluogi'r sir i ddod yn ôl i'r arfer yn llawer cynt na roedd nifer wedi rhagweld.
Datgelodd y Prif Weinidog Eluned Morgan, oedd yn aelod o Senedd Ewrop dros ganolbarth a gorllewin Cymru ar y pryd, bod ganddi bâr o wellingtons "ag olew o'r Sea Empress arnyn nhw" o hyd ar ôl helpu gyda'r gwaith glanhau.
Fe ddangosodd y digwyddiad pa mor bwysig yw hi "ein bod ni'n trin ein môr ni gyda pharch", meddai.

Roedd y prif weinidog Eluned Morgan ar ddechrau ei gyrfa wleidyddol yn 1996
"Un o'r pethau hir dymor a newidiodd o ganlyniad oedd agweddau pobl," eglurodd Nick Ainger, sef Aelod Seneddol yr ardal ar y pryd.
"Y delweddau rheini y gwelon ni - dyna yw gwir bris olew. A dwi'n meddwl taw dyma oedd dechrau newid sylweddol yn agwedd y cyhoedd tuag at yr amgylchedd: pa mor werthfawr oedd e, pa mor hawdd yw ei ddifrodi fe os nad y'n ni'n synhwyrol ac yn ofalus."
"30 mlynedd yn ddiweddarach mae'n bwysig bod ni gyd yn cofio ac yn ail-ddweud stori'r Sea Empress," pwysleisiodd Iolo Williams, "a hynny fel bo ni ddim yn anghofio be ddigwyddodd i'r bywyd gwyllt, fel bo ni ddim yn anghofio pam ddigwyddodd o."
"Byddai wastad yn dweud os oes 'na drychineb, os ti'n cael amser caled yn dy fywyd - os ti'n gallu mynd drwy hwnna a dysgu rhywbeth - o leia' ma' rhywbeth da wedi dod allan o'r drwg."
Mae modd gwylio'r rhaglen Dŵr Du: Trychineb y Sea Empress ar S4C Clic, dolen allanol a BBC iPlayer