Hyfforddwr ceffylau yn euog o ymosod ar ddyn oedd yn cerdded ci

Bydd Evans Williams yn cael ei ddedfrydu ar 14 Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr ceffylau 54 oed wedi cael ei ganfod yn euog o ymosod ar ddyn oedd yn cerdded ci ar ei dir.
Fe wnaeth Richard Evan Rhys Williams - sy'n cael ei adnabod fel Evan - daro Martin Dandridge sawl gwaith gyda ffon hoci yn ystod yr ymosodiad yn Llancarfan, Bro Morgannwg, ym mis Rhagfyr 2024.
Fe wnaeth Williams dorri braich Mr Dandridge, 72, yn ystod y digwyddiad.
Cymerodd awr a 45 munud i reithgor ganfod Williams yn euog o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 14 Ebrill.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan y dyddiad hwnnw, ond dywedodd ei fargyfreithiwr wrth y llys ei fod yn gwybod ei fod mewn perygl o wynebu cyfnod dan glo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth

- Cyhoeddwyd3 Mawrth
