Carcharu troseddwr rhyw 'risg uchel' am ymosod ar ferch 14 oed

Ryan ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
  • Cyhoeddwyd

Mae troseddwr rhyw "risg uchel" sydd wedi troseddu mwy nag unwaith wedi cael ei garcharu am ymosod ar ferch 14 oed ac anfon fideo anaddas at fenyw.

Cafwyd Ryan Thomas, 33 o Garn Street, Abercarn, Caerffili yn euog mewn achosion ar wahân ac roedd ganddo euogfarnau blaenorol yn y DU, Awstralia ac Iwerddon.

Dywedodd y barnwr, Matthew Porter-Bryant wrth Thomas fod ei record yn "erchyll" a bod ganddo "dueddiad greddfol ​​​​at droseddu rhywiol".

Yn ôl y Ditectif Uwch-arolygydd Michelle Chaplin mae "Ryan Thomas yn ysglyfaethwr rhywiol peryglus sy'n cael boddhad rhywiol drwy achosi braw a gofid i eraill".

Cafodd ddedfryd 13 mis yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.

'Edrych dros fy ysgwydd yn gyson'

Fe glywodd y llys fod Thomas wedi mynd at y plentyn, oedd ar y pryd yn 14 oed, a'i ffrind y tu allan i archfarchnad Morrison's yng Nghaerffili ym mis Ebrill 2022 a chynnig cerdded adref gyda nhw.

Gwrthodon nhw ond fe ddilynodd Thomas y ferch a'i ffrind gan gofleidio yn y ferch y tu allan i'w chartref a'i "chusanu ar y gwefusau heb ei chaniatâd".

Clywodd y llys ddatganiad dioddefwr yn nodi sut roedd hi wedi parhau i "ofni" Thomas, a bod gorfod rhoi tystiolaeth yn y llys yn ei gwneud hi'n "nerfus ac yn bryderus".

Ar ôl ei gael yn euog o ymosodiad rhywiol, fe wnaeth Thomas droseddu eto ym mis Medi 2025 tra'r oedd ar fechnïaeth ac yn aros am ei ddedfryd.

Anfonodd fideo anweddus at fenyw, yn ogystal â negeseuon rhywiol eraill - trosedd sydd yn aml yn cael ei alw'n seiberfflachio.

Clywodd y llys bod y dioddefwr bellach ddim "yn teimlo'n ddiogel nac yn saff".

"Ers iddo ddigwydd, dydw i ddim wedi cysgu drwy un noson" meddai mewn datganiad. "Dwi'n edrych dros fy ysgwydd yn gyson."

'Neges glir... na all troseddwyr guddio y tu ôl i sgrîn'

Clywodd y llys fod Thomas mewn swydd llawn amser ar adeg y troseddau, bod y drosedd berthnasol ddiwethaf yn 2016 a chafodd Thomas ddedfryd 10 mis yn 2022.

Wrth ddedfrydu Thomas i naw mis am yr ymosodiad rhywiol a phedwar mis am y fideo anweddus, dywedodd y barnwr ei fod yn amlwg ei fod yn peri "risg uchel iawn o achosi niwed i blant a risg uchel iawn i'r cyhoedd".

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Michelle Chaplin: "Mae seiberfflachio yn drosedd ddifrifol sy'n gadael effaith barhaol ar ddioddefwyr. Ni ddylai gael ei ddiystyru fel banter neu jôc."

Ychwanegodd bod yna "gysylltiad cryf rhwng y mathau hyn o droseddau a'r potensial i waethygu tuag at droseddau rhywiol neu dreisgar difrifol", gan annog "unrhyw un sydd wedi bod yn ddioddefwr o'r math yma o drosedd i roi gwybod i ni".

Dywedodd mai dyma'r euogfarn gyntaf am seiberfflachio yn ardal Heddlu Gwent, sy'n "anfon neges glir bod seiber-fflachio yn drosedd ddifrifol ac na all troseddwyr guddio y tu ôl i sgrîn".

Cafodd Thomas orchymyn atal (restraining order) fydd yn para 10 mlynedd, nid yw'n cael cysylltu â'i ddioddefwyr, ac mae'n destun gorchymyn atal niwed rhywiol sydd hefyd yn para 10 mlynedd.

Cafodd wybod y byddai'n treulio hanner ei ddedfryd dan glo cyn cael ei ryddhau ar drwydded, a bydd yn rhaid iddo dalu tâl dioddefwr neu £187 ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now