Aberdaugleddau: Bachgen yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau tua 15:20 brynhawn Iau
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 15 oed wedi ymddangos yn y llys yn dilyn ymosodiad honedig ar athrawes mewn ysgol yn Sir Benfro.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau tua 15:20 brynhawn Iau 5 Chwefror, yn dilyn adroddiadau bod "disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes".
Mae'r athrawes, Vicky Williams, wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Fe gadarnhaodd yr heddlu hefyd fod yr athrawes wedi dioddef anafiadau trywanu, ar ôl i asesiad cychwynnol ddweud nad oedd yr unigolyn wedi cael ei drywanu.

Yn oriau mân fore dydd Sadwrn 7 Chwefror, dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Prif Arolygydd Ditectif Matthew Briggs fod bachgen 15 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol a bod â llafn yn ei feddiant.
Fe wnaeth y bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe fore Sadwrn gan ddweud ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yn unig.
Fe glywodd y llys fod y bachgen wedi cael ei gyhuddo o drosedd ychwanegol hefyd o geisio llofruddio.
Esboniodd yr erlyniad fod y bachgen wedi ymosod ar yr athrawes â chyllell cegin.
Eisteddodd y bachgen 15 oed yn y doc gan edrych i lawr am y llawr yr holl amser. Roedd aelodau o'i deulu, a oedd yn bresennol yn y llys, dan deimlad yn ystod y gwrandawiad.
Bydd yn cael ei gadw mewn llety cadw ieuenctid am y ddau ddiwrnod nesaf dan ofal awdurdod lleol Sir Benfro.
Dywedodd yr ynadon nad oedd yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar ddydd Llun 9 Chwefror.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Y Prif Arolygydd Ditectif Matthew Briggs eu bod yn parhau i gefnogi'r dioddefwr wrth iddynt wella o'r "digwyddiad trawmatig hwn".
Dywedodd yn dilyn ymholiadau manwl gan swyddogion arbenigol, mae anafiadau a gafodd eu hasesu yn wreiddiol fel anafiadau nad oedd yn anafiadau trywanu, "bellach wedi'u cadarnhau fel clwyfau trywanu".
"Roedd datganiad yng nghyfnod cynnar yr ymchwiliad yn seiliedig ar wybodaeth ragarweiniol a oedd ar gael ar y pryd.
"Bydd presenoldeb heddlu uwch na'r arfer yn parhau yn yr ardal dros y dyddiau nesaf i roi mwy o sicrwydd. Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd lleol i gynnig cefnogaeth dros yr wythnos nesaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.