Cyngor i ddymchwel 15 cartref ar stryd sy'n dioddef llifogydd

Mae Clydach Terrace yn Ynys-y-bwl ger Pontypridd yn wynebu risg difrifol o lifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynllun i brynu a dymchwel cartrefi yn Rhondda Cynon Taf, ar stryd sy'n wynebu risg difrifol o lifogydd.
Mae 15 o gartrefi yn Clydach Terrace yn Ynys-y-bwl ger Pontypridd wedi dioddef llifogydd yn ystod Storm Dennis yn 2020 a Storm Bert yn 2024.
Fe gynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiad y llynedd o ddewisiadau eraill ond fe benderfynon nhw nad oedd yr opsiynau'n "agos at fod yn economaidd hyfyw".
Mae cynghorwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf bellach wedi cymeradwyo eu bod yn prynu tai 1-16 (ac eithrio 6a a 6b) am £2.57m, gan ddefnyddio newid hinsawdd i gefnogi'r cynllun.

Ni ddylai unrhyw un orfod byw mewn "ofn parhaol", medd Rebecca Chadwick
Cyn i'r cynghorwyr bleidleisio ar ddyfodol y cartrefi, fe wnaeth Rebecca Chadwick annerch aelodau cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf.
"Am flynyddoedd rydyn ni wedi ceisio ymdopi gyda'r sefyllfa. Ry'n ni wedi trwsio'r difrod, prynu eiddo newydd yn lle pethau sydd wedi'u dinistrio, a sicrhau ein plant eu bod nhw'n ddiogel pan dydyn ni ddim wir yn siŵr eu bod nhw," meddai.
"Dylai neb orfod byw gyda'r ofn parhaol y gallai eu bywydau fod mewn perygl y tro nesaf mae'n glawio'n drwm."
Ychwanegodd Ms Chadwick: "Dydyn ni ddim yn gofyn am driniaeth arbennig, rydyn ni eisiau bod yn ddiogel, cael sicrwydd, a'r cyfle i ailadeiladu ein bywydau mewn cartrefi sydd ddim yn ein rhoi ni mewn perygl."
'Heno alla i gysgu'
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod lle cytunodd cabinet y cyngor i symud y trigolion o Clydach Terrace, dywedodd Ms Chadwick ei bod yn teimlo rhyddhad mawr.
"Dwi methu credu bod Rhondda Cynon Taf wedi cytuno gyda ni bod byw yn Clydach Terrace yn rhy beryglus, ac maen nhw wedi cytuno i'r hyn sydd angen ei wneud ar gyfer y gymuned," meddai.
"Pob amser mae'n bwrw glaw 'da ni methu cysgu, ni lan drwy'r nos...
"Da ni ddim yn gwybod os allwn ni godi peth cynta yn y bore neu os mae'r dŵr yn mynd i ddod mewn i'r tai. Mae just rhy beryglus i fyw yna. So hwn yw'r penderfyniad gorau i bawb nawr," ychwanegodd.
"Heno alla i gysgu... Mae 'na olau ar ddiwedd y twnnel."

Mae Paige Didcote wedi bod yn poeni am y stormydd bob gaeaf
Cyn y cyfarfod dywedodd Paige Didcote, sy'n byw ar Clydach Terrace, bod ei gorbryder yn wael iawn a bod rhybuddion llifogydd yn codi ofn arni.
Mae Paige, 27, yn gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans a dywed ei bod yn bryderus iawn yn gadael ei chŵn gartref yn ystod y dydd.
"Os oes yna rybudd am lifogydd ac mae ein cŵn gartref mae'n dychryn ni oherwydd mae'r ddau ohonon ni'n teithio awr i fynd i'r gwaith," meddai.
"Mae gan bobl eraill yn y stryd blant, neu wyrion, felly mae fe llawer anoddach iddyn nhw."
Yr argymhelliad i'r cyngor oedd prynu'r tai a thalu am y costau damweiniol, y cymorth o adleoli'r trigolion a'r ffioedd cyfreithiol.
Mae tai 6a a 6b ar dir uwch ac yn wynebu llai o risg o lifogydd ac felly wedi'u heithrio o'r cynnig yma.
'Dyna'r unig opsiwn'
Ar hyn o bryd mae yna wal yn gwahanu'r cartrefi a Nant Clydach ond dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru na fyddai adeiladu wal uwch yn "economaidd hyfyw".
Yn ôl adroddiad y cabinet roedd y pafin a'r ffordd dan ddŵr yn ystod Storm Dennis a Storm Bert a chafodd yr eiddo yno eu difrodi'n sylweddol.
Ychwanegodd bod y preswylwyr yn ei chael hi'n anodd cael yswiriant oherwydd y costau uchel a bod risg sylweddol i iechyd a pherygl i fywyd yn yr ardal.
Dywedodd Paige Didcote ei bod hi'n gobeithio bydd y cyngor yn prynu'r eiddo.
"Dyna'r unig opsiwn yn anffodus a'r opsiwn gorau.
"Bydd yn cymryd y gorbryder i ffwrdd o bob storm a bob gaeaf."

Mae bagiau tywod bob amser ar y stryd oherwydd y risg barhaus o lifogydd
Mae Paul Thomas, sy'n 66 ac sydd wedi byw ar Clydach Terrace am 40 o flynyddoedd yn credu ei fod yn lwcus i fod yn fyw.
Cafodd ei ddal mewn llifogydd yn ystod Storm Dennis yn 2020.
"Daeth ton i fyny'r stryd a 'nharo i oddi ar y step, ges i fy nghario ar draws y ffordd at y wal ond llwyddais i gicio oddi ar y wal a dod yn ôl," meddai.
Pe bai wedi cael ei lusgo i lawr yr afon ac i mewn i'r twnnel byddai ddim wedi gallu goroesi hynny, esboniodd.
Ond mae symud am fod yn ddiwrnod chwerw-felys i Paul.
Mae ei ferch yn byw drws nesaf a'i ŵyr a'i ferch-yng-nghyfraith yn byw ar yr ochr arall.
Dywedodd bod ei ŵyr yn drist iawn ond er ei bod yn sefyllfa "anodd ni wedi derbyn y ffaith bod yn rhaid i ni symud o 'ma".
Dydy Paul ddim yn gwybod ble fydd ei gartref newydd ond dydy e ddim yn credu y bydd cyfle iddo fyw yn agos iawn i'r stryd yma.
Dywedodd adroddiad y cabinet y bydd yr eiddo'n cael eu chwalu, gan gael gwared ar y risg o lifogydd.
Mae adroddiad sy'n amlinellu cynnig y cyngor i brynu tai ar y stryd hefyd yn nodi y dylid ystyried y bydd disgwyl i newid hinsawdd achosi llifogydd "yn amlach".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020

- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2025
