Cymru v Gogledd Iwerddon: Y gêm 'gwbl ddibwynt' does neb ei heisiau

Capten Cymru Ethan Ampadu (left) a chapten Northern Ireland Trai Hume Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cymru a Gogledd Iwerddon wedi gobeithio sicrhau lle yng Nghwpan y Byd cyn colli nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Bydd Cymru yn herio Gogledd Iwerddon mewn gêm gyfeillgar nos Fawrth - gêm does neb ei heisiau.

Mae'n rhaid i'r gêm gael ei chwarae oherwydd i'r ddau dîm golli yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd nos Iau, yn erbyn Bosnia-Herzegovina a'r Eidal.

Felly, tra bod enillwyr y gemau hynny yn wynebu ei gilydd yn Zenica am le yn y gystadleuaeth yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico, mae'n rhaid i'r collwyr gyfarfod yng Nghaerdydd.

Bydd y gêm yn rhoi cyfle i chwaraewyr ymylol greu argraff ar y rheolwyr, Craig Bellamy a Michael O'Neill, sydd, yn ddealladwy, yn awyddus i bwysleisio bod gwerth i'r gêm yma.

Ond i'r cefnogwyr ac unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r timau, mae'n gêm sy'n anodd cyffroi ar ei chyfer.

Tim ar ol colled BosniaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Craig Bellamy ddim yn cuddio'r ffaith ei fod ef a'i chwaraewyr yn dal i brosesu'r "torcalon" o golli nos Iau

"Mae'n un o'r pethau mwyaf hurt rydw i erioed wedi'i glywed – mae'n ddibwynt," meddai Chris Brunt, cyn-chwaraewr canol cae Gogledd Iwerddon.

Y gwir amdani, fodd bynnag, yw bod cyrff llywodraethu pêl-droed rhyngwladol wedi penderfynu bod yn rhaid i'r gêm fynd yn ei blaen, os yw pobl yn hoffi peth ai peidio.

'Paratoi fel pe bai'n rownd derfynol'

Dyw prif hyfforddwr Cymru ddim yn ceisio cuddio'r ffaith ei fod ef a'i chwaraewyr yn dal i brosesu'r "torcalon" ar ôl colli ar giciau smotyn yn erbyn Bosnia.

Ond mae eisiau i'w chwaraewyr ddysgu o boen nos Iau a thrin y gêm gyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon fel pe bai'n gêm gystadleuol.

"Mae'n rhaid i chi ail-ganolbwyntio a bod yn gyson yn eich paratoadau, paratoi fel pe bai'n rownd derfynol, ond rydyn ni bob amser yn paratoi at bob gêm fel pe bai'n rownd derfynol," meddai Bellamy.

"Dewch i ni fynd yn ôl at y gwaith. Rwy'n deall y siom.

"Mae'n rhaid i ni ei theimlo, ac mae hynny'n wir am bawb, ond mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein gwaith ni eto.

"Mae'n anodd i bob tîm sydd heb gyrraedd y rownd derfynol, wrth gwrs.

"Mae'n rhaid i ni chwarae'r gemau ac mae'n rhaid i'r ddau dîm godi ein hunain eto a symud ymlaen."

Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Craig Bellamy ar bigau'r drain yn ystod colled Cymru i Bosnia-Herzegovina

Yr un neges ddaeth gan chwaraewr canol cae Cymru Harry Wilson ddydd Llun, ac mae'r ffaith bod un o sêr Cymru wedi bod yn siarad â'r cyfryngau yn awgrymu y gallai Bellamy ddewis tîm reit gryf nos Fawrth.

Ni fydd y chwaraewyr canol cae Jordan James a Rubin Colwill ar gael oherwydd anafiadau, tra bod cwestiwn a fydd yr asgellwr Daniel James – a sgoriodd i roi Cymru ar y blaen yn erbyn Bosnia - ar gael.

Bydd hynny, yn ogystal â'r ffaith bod nifer o chwaraewyr wedi chwarae 120 munud nos Iau, yn rhoi cyfle i rai o aelodau ymylol y garfan.

'Cyfle da i brofi chwaraewyr'

"Mae'n gyfle i ennill cap arall," meddai cyn-amddiffynnwr Cymru James Chester ar raglen Feast of Football BBC Cymru.

"Ac i'r bechgyn oedd ddim yn chwarae nos Iau, mae'n gyfle go iawn."

Yn siarad ar yr un rhaglen, dywedodd Nia Jones, sydd hefyd yn gyn-amddiffynnwr Cymru: "Bydd pawb wedi dod at ei gilydd y tro yma yn gwybod eu bod nhw'n chwarae dwy gêm, ac mae'n siŵr y byddai pob un chwaraewr wedi gobeithio nad dyma'r gêm roedden nhw'n mynd i orfod chwarae, ond mae tîm Gogledd Iwerddon yn union yr un sefyllfa.

"Fe fydd hi'n anodd yn emosiynol, ac yn gorfforol hefyd.

"Yn amlwg, aeth y bechgyn trwy 120 munud a chiciau smotyn, felly fydden i ddim yn synnu pe bai cryn dipyn o newid i'r tîm.

"Dwi'n meddwl y bydd [Bellamy] yn ei weld fel cyfle da i brofi sawl chwaraewr sydd heb gael cymaint o gyfle yn ystod yr ymgyrch yma, i weld a ydyn nhw wir yn gallu chwarae yn y ffordd mae o'n gofyn iddyn nhw chwarae.

"Ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cofio mai pobl ydyn nhw, a bydd pob un ohonyn nhw'n teimlo'n isel am ychydig ddyddiau, yn dal i ddioddef.

"Mae'n gêm emosiynol, a bydd chwaraewyr wedi teimlo pwysau disgwyliadau pawb ar eu hysgwyddau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol

Trending Now