Chwe Gwlad: Joyce a Lockwood i ddechrau i Gymru yn erbyn Ffrainc

Jasmine Joyce a Seren LockwoodFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jasmine Joyce a Seren Lockwood yn dychwelyd i'r 15 fydd yn dechrau ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Sean Lynn, wedi enwi'r tîm fydd yn wynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Mae'r asgellwr Jasmine Joyce a'r mewnwr Seren Lockwood yn dychwelyd i'r 15 fydd yn dechrau'r gêm.

Doedd Joyce ddim wedi cael ei chynnwys yn y 23 a gollodd yn erbyn Yr Alban y penwythnos diwethaf, tra bod Lockwood wedi dod oddi ar y fainc yn yr ail hanner.

Bydd Joyce yn cymryd lle Lisa Neumann, fydd yn colli gweddill y bencampwriaeth oherwydd anaf, tra bydd Lockwood yn dechrau yn lle Keira Bevan.

Mae'r clo Natalia John hefyd yn cymryd lle Alaw Pyrs ar y fainc, wrth i Gymru geisio curo Ffrainc am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd.

Dydy Cymru ddim wedi ennill gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers iddyn nhw guro'r Eidal yn 2024, a bydd Ffrainc yn ffefrynnau mawr yn yr ornest ym Mharc yr Arfau brynhawn Sadwrn.

Tîm Cymru

Powell; Singleton, Cox, Keight, Joyce; George, Lockwood; Pyrs, Jones, Tuipulotu, Aiono, Crabb, Lewis, Williams (capt), King

Eilyddion: Reardon, Davies, Rose, John, Metcalfe, Evans, Bevan, Dallavalle

Trefn gemau Cymru

Cymru 19-24 Yr Alban

Cymru v Ffrainc, 15:35 dydd Sadwrn, 18 Ebrill

Lloegr v Cymru, 14:15 dydd Sadwrn, 25 Ebrill

Iwerddon v Cymru, 18:30 dydd Sadwrn, 9 Mai

Cymru v Yr Eidal, 12:15 dydd Sul, 17 Mai

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now