Galw am goffáu Catrin, merch Owain Glyndŵr, yn Harlech hefyd

Llun o Catrin gan Meinir Mathias ar gyfer cyfrol 'Tosturi' Menna Elfyn
- Cyhoeddwyd
Mae'n bryd coffáu Catrin, merch Owain Glyndŵr, yn Harlech ac nid yn Llundain yn unig, medd ymgyrchwyr.
Bellach mae deiseb wedi'i ffurfio gan un a symudodd i'r ardal bum mlynedd yn ôl yn gofyn am anrhydeddu Catrin yn lleol.
"Does yna ddim sôn amdani o gwbl yma yn Harlech o feddwl am y bywyd caled a gafodd yn ystod y gwarchae ar y castell," meddai Andrea Bowen.
"Wedi cwymp y castell yn 1409 mae'n debyg iddi hi a'i merched fyw mewn caethiwed yn Nhŵr Llundain. Roedd ei gŵr eisoes wedi'i ladd yn ystod y gwarchae a bu Catrin farw yn Llundain yn 1413 - welodd hi ddim o Gymru eto.
"Mae mor bwysig cofio ac addysgu pobl amdani. Nid dim ond yr hanes sydd o bwys, mae'n bwysig cofio hefyd bod yna bobl go iawn yn dioddef yn ystod digwyddiadau mawr bywyd - ni eisoes 613 o flynyddoedd yn rhy hwyr ond dyw hi ddim yn rhy hwyr i weithredu. "

Mae'r ddeiseb wedi'i ffurfio gan Andrea Bowen a symudodd i ardal Harlech bum mlynedd yn ôl
Cafodd Catrin a'i merched eu claddu yn Eglwys Sant Switan yn Llundain - eglwys a gafodd ei llosgi yn nhân mawr Llundain a'i bomio yn ddiweddarach yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn 2001 cafodd cerflun i gofio amdani hi a'i phlant ei ddadorchuddio ger gorsaf Cannon Street yn Llundain gan yr actores Siân Phillips.
"Yn ogystal â chofio am Catrin a'i theulu mae'r cerflun hefyd yn cofio am ddioddefaint menywod a phlant mewn rhyfel," medd Gareth Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Owain Glyndŵr.
Mae'r gymdeithas o blaid cael rhywbeth i gofio am Catrin yn Harlech a byddan nhw yn trafod y mater yn y cyfarfod nesaf.

Mae'r gofeb bresennol i Catrin yn Llundain
"Ry'n ni fel cymdeithas eisoes wedi trafod cael rhyw fath o fyrddau arddangos mewn sawl man allweddol ar draws Cymru - byrddau a fyddai'n addysgu pobl am Owain Glyndŵr ond hefyd am ei deulu dewr," ychwanegodd yr ysgrifennydd Gareth Jones.
"Mae Brwydr Bryn-glas ger Trefyclo yn un safle amlwg ond safle amlwg arall yw Harlech - mae'r castell yno wrth gwrs ond ni angen rhoi gwybodaeth am ddewrder pobl fel Catrin hefyd.
"Y bwriad yw ceisio sefydlu rhyw fath o gronfa codi arian ond mi fyddai'n braf cael arian gan y llywodraeth hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Catrin ferch Owain Glyndŵr yn ffigwr hanesyddol pwysig, yn enwedig i Harlech, ac mae ei stori yn un nodedig.
"Os yw'r gymuned neu'r awdurdod lleol yn dymuno archwilio cofeb, byddai Cadw yn hapus i gynnig cyngor hanesyddol a dehongli yn unol â'r canllawiau cenedlaethol."

Mae angen rhywbeth heblaw Castell Harlech i gofio am deulu Owain Glyndŵr, medd ymgyrchwyr
Un sydd wedi'i magu yn Harlech yw Mair Tomos Ifans.
"Does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbl i gofio am Catrin ond fel gweriniaethwraig dwi'm yn or-hoff o frenhiniaeth pa bynnag liw yw hi," meddai.
"Mae Owain Glyndŵr, wrth gwrs, yn enw mawr yn yr ardal yma - gwell cael rywfaint o sylw i'n gorffennol na dim o gwbl."
Un arall sydd wedi'i magu yn yr ardal yw Gwenfair Williams sydd yn rhedeg Chwarel Llechi Llanfair.
"Yn ffodus mae mwy o sylw yn ein hysgolion ni bellach i hanes Owain Glyndŵr. Dwi mor falch bod y ferch yn cael gwybod am yr hanes ar ddiwrnod Owain Glyndŵr.
"Ches i ddim dysgu llawer am hanes lleol a dwi'n meddwl ei fod yn hynod o bwysig.
"Mae'n syndod faint o ymwelwyr na sy'n gwybod rhyw lawer am Owain Glyndŵr a'i deulu."

Y geiriau gan Menna Elfyn ar y gofeb yn Llundain
"Mae hanes Cymru yn hynod o bwysig ac felly dwi'n hynod gefnogol o'r ymgyrch yma," meddai'r Cynghorydd Gwynfor Owen sy'n cynrychioli Harlech ar Gyngor Sir Gwynedd.
"Mwya' o bethau sydd 'na i hybu ein dealltwriaeth o'n treftadaeth gorau'i gyd.
"Mae cael cofeb yn bwysig i'r bobl leol wrth gwrs - ond yn bwysicach fyth ar gyfer yr ymwelwyr sy'n dod atom.
"Mae'n bwysig eu bod yn deall ac yn gwerthfawrogi ein hanes."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023

- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
