Sut mae gwella bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr?

- Cyhoeddwyd
Mae cleifion yn "dioddef" ac yn "colli hyder" yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru o ganlyniad i bryderon difrifol a hir dymor ynglŷn â safon gwasanaethau.
Dyna rybydd Cadeirydd Llais, y corff sy'n gyfrifol am gynrychioli lleisiau cleifion.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes fod y system gofal iechyd ar draws y gogledd "yn methu'r unigolion" ac mae'n annog gwleidyddion, yn ystod y cyfnod cyn etholiad Senedd Cymru, i ystyried "sut mae mireinio'r system".
"Ydych chi'n taflu fwy o arian ar system sydd ddim yn gweithio neu oes 'na gyfle....i edrych a gofyn y cwestiwn 'sut yda ni'n ail gyd-lunio?' a 'sut yda ni yn ail strwythuro gan roi profiad yr unigolyn yn ganolog wrth edrych ar y system honno'?" meddai'r Athro Hughes.
Dywedodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn "gweithio'n galed" i wella eu holl wasanaethau.
'Mae pobl yn colli hyder'
"Ry' ni'n clywed gymaint o gonsyrn ynglŷn ag ecwati a thegwch," ychwanegodd yr Athro Hughes.
"Mae pobl yn colli hyder, wedi colli hyder yn y system.
"Mae'r dystiolaeth 'da ni'n glywed gan unigolion o'r gogledd yn nodi'n glir nad yw'r system bresennol fel y mae wedi'i strwythuro yn gweithio, ac ar sail hynny mae dyn yn gofyn y cwestiwn 'wel beth sydd angen ei newid?'"
Oherwydd maint yr heriau mae'r Athro Hughes yn galw ar yr holl bleidiau, cyn etholiad y Senedd, i ystyried yn ddwys sut mae datrys y sefyllfa.

Dydy rhoi mwy o arian i mewn i'r system bresennol ddim yn ateb meddai'r Athro Medwin Hughes
Ond mae'n mynnu dylai unrhyw gynlluniau i ddiwygio'r gwasanaeth iechyd fod wedi'i seilio ar yr hyn sy'n bwysig i'r bobl sy'n byw yn yr ardal.
"Tydi rhoi mwy o arian i fewn i'r system bresennol ddim yn ateb," meddai.
"Mae angen cael yr hyder i ail-edrych a gofyn cwestiynau gwirioneddol anodd ynglŷn â sut mae modd ail strwythuro y gwasanaeth fel ei fod o'n fwy addas ar gyfer ymwneud ag unigolion o fewn eu cymunedau."
Y bwrdd iechyd mwyaf
Mae Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi wynebu problemau sylweddol ers ei sefydlu gan weinidog iechyd Llafur dan lywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn 2009.
Ers hynny mae'r bwrdd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fodolaeth mewn mesurau arbennig sef y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru.
Yn y gorffennol, bu galwadau ar y sefydliad i gael ei rannu, gyda chyn brif weinidogion Cymru, Carwyn Jones a Mark Drakeford wedi cydnabod iddyn nhw ystyried gwneud hynny ar wahanol achlysuron.
Cyn yr etholiad Senedd diwethaf dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru bellach, y byddai'n barod i ailstrwythuro petai'n dod yn weinidog iechyd ar y pryd.
Ond mae eraill yn rhybuddio y gallai ad-drefnu fod yn ddrud ac yn hirfaeth.
Mae bwrdd iechyd y gogledd yn cydnabod bod gormod o bobl yn aros yn rhy hir am eu triniaethau, ond yn mynnu fod yna welliant sylweddol wedi digwydd yn ddiweddar gyda rhestrau aros, a bod ymdrechion mawr yn digwydd i geisio lleihau'r straen ar unedau brys.
Ond yn ôl asesiad, dolen allanol llywodraeth Cymru yn gynharach y mis hwn mae dal cryn dipyn o waith i'w gyflawni cyn bod modd ystyried llacio mesurau arbennig.

Mae Jonathan Osborne yn dweud bod y sefydliad "yn amlwg wedi methu".
Mae Jonathan Osborne yn treulio rhan fwyaf o'i amser erbyn hyn yn ffermio defaid a gwartheg uwchlaw Conwy, ond cyn ymddeol roedd yn llawfeddyg Clust, Trwyn a Gwddf yn Ysbyty Glan Clwyd.
Ynghyd â'i wraig Bridget, oedd yn feddyg teulu cyn ymddeol, mae'n arwain ymgyrch sy'n galw am fwy o fuddsoddiad mewn ysbytai cymunedol a gwasanaethau gofal sylfaenol.
"Rydym mewn sefyllfa lle mae 500 o gleifion y flwyddyn yn marw'n ddiangen yng ngogledd Cymru oherwydd oedi yn eu gofal," meddai Jon.
"Pan gymharwch chi hynny â marwolaethau oherwydd damweiniau traffig sy'n cyfateb i tua 20 yng ngogledd Cymru y flwyddyn gallwch weld maint y broblem.
"Mae'n sefydliad sy'n amlwg wedi methu."

Mae Bridget yn dadlau y gellir olrhain y problemau yn ôl i sefydlu'r bwrdd iechyd yn 2009, pan gafodd 6 bwrdd iechyd lleol a 3 ymddiriedolaeth iechyd blaenorol eu huno.
"Nid wy'n credu bod y bwrdd iechyd yn unedig ac wedi'i gydlynnu.
"Yn ddiwylliannol mae yna dri ardal gwahanol ...mae yna orllewin gwledig, mae'r canol yn fwy difreintiedig, ac yn y dwyrain ma' 'na nifer o faterion trawsffiniol â Lloegr.
"Rwy'n credu bod hynny'n ei gwneud hi'n anodd iawn i'w reoli o un lle."

Dywedodd Linda Joyce-Jones fod y staff fu'n ei thrin yn ystod ei llawdriniaeth ddiweddar yn "rhagorol"
Fe gafodd Linda Joyce-Jones o Fodedern Ynys Môn ben-glin newydd y llynedd ar ôl aros am 4 mlynedd.
"Roedd y boen yn eithaf difrifol... ac fe ddechreuais feddwl 'a fyddwn fyth yn cael fy nhrin?'
"Rwy'n 62 oed nawr ond gwnaeth y profiad i mi deimlo'n hen iawn i fod yn onest â chi."
Pan gafodd ei llawdriniaeth, yn y diwedd, barn Linda yw bod y staff wedi bod yn "rhagorol". Ac oherwydd hynny, pan wyliodd ddadl yn y Senedd ym Mae Caerdydd y llynedd, oedd yn trafod cyflwr y gwasanaeth iechyd yn y gogledd, cafodd ei digalonni.
"(Roedd) yn ymwneud â gofal mewn coridorau [oedi hir A&E] ... ac yn wir roedden ni bron â dechrau crio o eistedd yno yn gwrando ar sut oedd rhai gwleidyddion yn cyfeirio at y staff.
"Roedd (y staff) yn gocyn hitio gwleidyddol i'r pleidiau, a'r argraff oedden ni'n ei gael oedd nad oedden nhw'n deall yr heriau mawr oedden nhw'n eu hwynebu ar y rheng flaen."
Ymateb y bwrdd iechyd
Dywedodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn cydnabod bod "gormod o gleifion yn dal i aros yn hirach na'r hyn a hoffem" ond fod y bwrdd yn "gweithio'n galed i wella …ein holl wasanaethau."
Yn ôl y bwrdd mae yna "gamau allweddol" wedi eu cyflwyno yn cynnwys talu am gapasiti ychwanegol o'r sector breifat, a bod hynny wedi haneru mewn blwyddyn, nifer yr achosion sy'n aros dwy flynedd neu ragor am driniaethau.
Mae yna ymdrechion newydd hefyd, medd y bwrdd, i wella llif cleifion drwy ysbytai i leddfu pwysau ar unedau brys.
Beth mae'r pleidiau yn ei gynnig?
Mae Reform UK yn mynnu bod y Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru mewn "sefyllfa ddifrifol a bod angen diwygio sylfaenol arni i…. .leihau gwastraff, lleihau unrhyw ddyblygu a lleihau rheolwyr canol er mwyn rhyddhau mwy o arian ar gyfer gwasanaethau rheng flaen".
Mae Plaid Cymru'n dweud fod "problemau (y bwrdd iechyd) wedi'u trwytho ar y dechrau...gyda chyfathrebu a chyfeiriad gwael rhwng pob ardal - dwyrain, canol a'r gorllewin."
Er bod y blaid, yn y gorffennol wedi dadlau dros rannu'r bwrdd iechyd - mae bellach yn dweud fod "sicrhau fod y bwrdd iechyd yn gweithredu "fel un" yn hanfodol ...er mwyn gweld pethau'n gwella".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y bydda nhw'n "lleihau rhestrau aros, dod â gofal coridor i ben...(a) sicrhau buddsoddiad mewn gofal sylfaenol."
Dywedodd Llafur Cymru eu bod nhw hefyd yn "benderfynol o wella mynediad i ofal safonol ac amserol ar gyfer pobl ar draws gogledd Cymru" ac am fuddsoddi mewn adeiladau newydd ar gyfer ysbytai.
Tra bo'r Blaid Werdd yn dweud y byddai "newid ffiniau y bwrdd iechyd yn tynnu sylw oddi ar fynd i'r afael â'r creisis gofal yng ngogledd Cymru.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y "byddai ail strwythuro pellach ddim yn mynd i'r afael â'r argyfwng yn ein gwasanaeth iechyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.