Chwe Gwlad: Lloegr yn rhoi cweir i Gymru

Lloegr v CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lloegr 48-7 Cymru

  • Cyhoeddwyd

Fe gafodd Cymru eu trechu gan Loegr yng ngêm gyntaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

48-7 oedd y sgôr terfynol yn Twickenham, gyda Josh Adams yn tirio i Gymru.

Fe wnaeth Lloegr ddangos pam mae nifer yn proffwydo mai nhw fydd ar frig y tabl ar ddiwedd y gystadleuaeth gyda pherfformiad pwerus i sicrhau mantais sylweddol yn yr hanner cyntaf.

Mae'r tîm cenedlaethol bellach wedi colli 12 gêm yn olynol yn y Chwe Gwlad ac yn wynebu Ffrainc yn eu gêm nesaf ar ddydd Sul, 15 Chwefror.

Lloegr v CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd y gwrthwynebwyr yn gryf o'r dechrau, a dau funud yn unig wedi'r gic gyntaf roedden nhw ar y blaen o gic cosb gan George Ford.

Gyda saith munud ar y cloc cafodd y fantais ei ymestyn, diolch i gais gan Henry Arundell a throsiad gan Ford.

Roedd disgyblaeth Cymru yn wael ar ôl y cais cyntaf a fu'n rhaid i dîm Steve Tandy chwarae â 13 dyn am naw munud wedi cardiau melyn i Nicky Smith a'r capten Dewi Lake wrth i'r ddau roi cic cosb i ffwrdd.

Ni wastraffodd Lloegr unrhyw amser yn manteisio ar hyn, gydag Arundell yn tirio am yr eildro wedi cic i'r cornel pell gan Ford o sgrym.

Daeth cais gan Ben Earl a throsiad arall gan Ford i wneud y sgôr yn 22-0 cyn i Smith a Lake gamu'n ôl ar y cae.

Fe wnaeth Lloegr sicrhau eu pwynt bonws yn yr hanner cyntaf pan diriodd Arundell am y trydydd tro. Fe drosodd Ford am y pedwerydd tro i orffen chwalfa'r hanner cyntaf.

Lloegr v CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Gyda'r ornest drosodd yn yr hanner cyntaf, y gobaith oedd y bydd Cymru yn rhoi perfformiad mwy disgybledig yn yr ail hanner.

Ond o fewn pum munud, fe wnaeth Tom Roebuck - a oedd yn un o bedwar o chwaraewyr yn rhydd ger y cornel pell - dirio am bumed cais Lloegr cyn i Ford drosi unwaith eto.

Fe gafodd Cymru eu cyfnod gorau o'r gêm yn y munudau a ddilynodd, yn gwthio Lloegr yn ôl cyn ennill cic cosb.

Gyda rhes o chwaraewyr Lloegr o flaen y pyst, fe wnaeth Dan Edwards gamu'n ôl a chicio'r bêl i Josh Adams a diriodd i Gymru am y tro cyntaf. Aeth Edwards ymlaen i drosi i wneud y sgôr yn 36-7.

Ar ôl amddiffyn yn dda am gyfnod, fe aeth Cymru i lawr i 13 dyn am yr ail dro yn dilyn cardiau melyn i Ben Thomas a Taine Plumtree gyda Lloegr yn ennill cais cosb o drosedd Plumtree ar Henry Pollock.

Fe wnaeth Tommy Freeman geisio tua'r diwedd ond i Ford fethu'r trosiad i gadw'r sgôr yn 48-7 i Loegr.

Trefn gemau Cymru

Cymru v Ffrainc - Dydd Sul 15 Chwefror (15:10)

Cymru v Yr Alban - Dydd Sadwrn 21 Chwefror (16:40)

Iwerddon v Cymru - Dydd Gwener 6 Mawrth (20:10)

Cymru v Yr Eidal - Dydd Sadwrn 14 Mawrth (16:40)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now