Rhybuddion am eira a rhew ar hyd mwyafrif y wlad

Yr olygfa aeafol yn ardal Llandegla yn Sir Ddinbych fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am eira a rhew ar gyfer rhannau helaeth o Gymru.
Roedd rhybudd eira mewn grym rhwng 16:00 brynhawn Mercher a 06:00 fore Iau.
Roedd disgwyl hyd at 5cm o eira ddisgyn ar dir rhwng 150-200m yn y cyfnod dan sylw, tra bod hyd at 15cm yn bosib ar dir uchel yng nghanolbarth a de-ddwyrain Cymru, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Roedd rhybudd am rew hefyd mewn grym rhwng 21:00 nos Fercher a 10:00 fore Iau.
Roedd y rhybuddion yn berthnasol i bob sir yng Nghymru ac eithrio Caerdydd, Sir y Fflint, Ynys Môn a Bro Morgannwg.
Yn ôl arbenigwyr, fe allai'r tywydd oer achosi trafferthion i deithwyr neu effeithio ar gyflenwadau trydan.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.