'Siopau lleol yn cynnig profiad personol, a basa'n bechod eu colli'

Mae croeso personol i gwsmeriaid Siop Iard yng Nghaernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae croeso personol i gwsmeriaid Siop Iard yng Nghaernarfon

GanHuw Thomas
Gohebydd busnes BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Gyda'r Nadolig ar y gorwel, mae'r alwad ar siopwyr i gefnogi busnesau annibynnol yn hytrach na gwario ar-lein yn tyfu.

"Os 'da chi ddim yn defnyddio nhw, bydd y llefydd yma yn cau," meddai Nigel Strain, rheolwr Hwb Caernarfon, y corff gwella busnes sy'n dathlu bron i ddegawd o weithgarwch.

Gydag ychydig o ddiwrnodau ar ôl i siopa cyn yr ŵyl, mae perchnogion busnesau annibynnol y dref yn gobeithio gweld cwsmeriaid yn heidio i strydoedd Caernarfon.

I berchnogion siopau, mae'r tymor yn golygu misoedd o baratoi.

"Mae [Nadolig] mor bwysig," meddai Jennifer Hanlon o Lottie and Wren yng Nghaernarfon.

"Dwi'n ordro pethau Dolig mis Ionawr, felly dwi flwyddyn o flaen llaw. A wedyn o fis Awst dwi gorfod dechrau meddwl am Dolig, felly mae'n misoedd o build-up.

"Ac ar ôl Dolig mae bach yn fwy distaw, felly mae'n cadw ni i fynd ar ôl hynny. Felly mae'n bwysig, bwysig iawn."

Mae Jennifer Hanlon yn gobeithio denu cwsmeriaid trwy'r drws yn y dyddiau olaf cyn Dolig
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jennifer Hanlon yn gobeithio denu cwsmeriaid trwy'r drws yn y dyddiau olaf cyn Dolig

Tra bod busnesau'n derbyn bod prynu ar-lein yn gyffredin i'r mwyafrif erbyn hyn, mae'r profiad o ymweld â siop, cyffwrdd â'r nwyddau a siarad gyda'r arbenigwyr yn rhywbeth sy'n unigryw i'r stryd fawr.

"Mae gen Caernarfon siopau annibynnol ardderchog… basa fo'n bechod mawr i'w colli nhw," meddai Nigel Strain.

"Dwi'n gwybod bod o'n hawdd weithiau i fynd ar y socials ac i ordro o rywle ar-lein, ond mae'n gwneud lot o ddifrod i siopau lleol sydd angen lot o gefnogaeth."

Yn ôl Dr Edward Thomas Jones, darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, mae'r her i siopau bach yn glir.

"Tra bod hi'n anodd i'r siopau bach gystadlu yn erbyn yr archfarchnadoedd ar-lein, mae 'na gyfle i siopau bach gynnig rhywbeth unigryw i'r siopwyr – profiad personol, rhywbeth dyw'r archfarchnadoedd mawr ar-lein ddim yn gallu ei gynnig."

Parsel Amazon
Disgrifiad o’r llun,

Bob wythnos mae dros filiwn o eitemau yn gadael warws Amazon yn Abertawe

Ond mae'r data'n dangos nad yw pobl wedi troi cefn ar y wê, yn enwedig ar ôl cyfnodau fel Black Friday.

"Does yna ddim awgrym bod pobl yn troi i ffwrdd oddi wrth siopau ar-lein," meddai Dr Jones.

"Mae 'na gyfle i siopau bach werthu ar-lein eu hunain, ond hefyd rhoi'r gwasanaeth personol pan mae pobl yn dod i mewn i'r siop."

Dyna'r gobaith yn Siop Iard yng Nghaernarfon, ble mae Ann Catrin Evans yn cynnig croeso cynnes i'w chwsmeriaid.

"Mae'n brofiad dod i'r siop… mae gennym ni gymaint o ddewis yma, llawer mwy nag sydd ar-lein."

Mae hi'n dweud bod goleuadau Nadolig Caernarfon yn creu awyrgylch "hudolus" sy'n denu pobl i'r stryd hefyd.

Llŷr Tonge
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwsmeriaid Llŷr Tonge eisiau teimlo'r offer a siarad gydag arbenigwyr

Yn y de, mae Llŷr Tonge o Camera Centre UK yng Nghaerdydd yn angerddol am fynd i siopau arferol.

"Mae pobl eisiau dod mewn, teimlo'r camerâu, a chael gair gyda rhywun sy'n gwybod beth mae'n nhw'n siarad amdano fe."

Yng Nghaernarfon mae gweithgareddau i blant dros y penwythnos yn rhan o'r cynllun i farchnata'r dref a gwneud y gorau o'r ychydig diwrnodau o siopa sydd ar ôl.

Ac er bod haf prysur wedi rhoi hwb i'r dref yn gynharach eleni, mae'r gaeaf a'r Nadolig yn gyfnod allweddol i lawer o fusnesau.

"Does 'na ddim llawer o lefydd gwell na Gaernarfon," meddai Nigel, gan obeithio y bydd rheiny sydd dal i brynu'r holl anrhegion yn cytuno.

Trending Now