Addewid etholiadol y Ceidwadwyr i dalu neiniau a theidiau am ofal plant

Llun o law dyn hŷn yn dal llaw plentyn gyda glaswellt gwyrdd hir yn y cefndir.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Darren Millar ei fod am sicrhau bod neiniau a theidiau yn cael eu "cydnabod yn briodol"

  • Cyhoeddwyd

Gallai neiniau a theidiau yng Nghymru gael eu talu £4,800 y flwyddyn i ofalu am eu hwyrion pe bai'r Ceidwadwyr Cymreig yn arwain Llywodraeth Cymru ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai.

Byddai polisi gofal plant newydd y blaid yn cynnig y dewis i rieni enwebu mam-gu neu dad-cu neu ddefnyddio darparwr gofal plant cofrestredig.

O dan y cynlluniau, byddai plant rhwng 9 mis a phedair oed hefyd yn gymwys i gael cynnig estynedig o'r 30 awr o ofal plant wythnosol am ddim.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, y byddai "trefniadau presennol" yn cael eu defnyddio i sicrhau bod arian yn mynd i neiniau a theidiau a oedd wirioneddol yn gofalu am blant.

'O blaid y teulu'

Dywedodd Darren Millar fod trefniadau gofal plant yn aml yn cynnwys neiniau a theidiau a'i fod am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu "cydnabod yn briodol".

Galwodd y cynlluniau yn "bolisi o blaid y teulu, o blaid dewis, o blaid rhieni ac o blaid neiniau a theidiau".

Pan ofynnwyd iddo sut y byddai'r taliadau i neiniau a theidiau yn cael eu plismona, dywedodd: "Mae gennym system eisoes sy'n plismona'r trefniant presennol ac mae'n rhaid i bobl fynd trwy broses gymhwysedd a diweddaru'r awdurdodau os bydd eu hamgylchiadau'n newid.

"Byddem yn disgwyl yr un peth yn union gyda'r broses newydd."

O dan gynnig presennol llywodraeth Lafur Cymru, gall rhieni plant tair a phedair oed hawlio hyd at 30 awr o ofal plant am ddim yr wythnos os ydynt yn bodloni meini prawf penodol.

Mae ail gynllun ar gyfer plant dwy oed yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.

Ym mis Hydref cyhoeddodd Plaid Cymru eu cynlluniau i ehangu'r cynnig gofal plant am ddim i blant rhwng 9 mis a phedair oed.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod polisi'r Ceidwadwyr yn dod "yn syth o ysgol economeg Liz Truss" a fyddai'n "tanseilio sector gofal plant Cymru, ac nad yw'n agos at adlewyrchu gwir gost darparu gofal".

Dywedodd Reform UK fod "blynyddoedd cynnar mor bwysig i blant, ac mae'n drist, o ganlyniad i Lafur yng Nghymru a'r Ceidwadwyr yn San Steffan, mae bron i un o bob tri o blant Cymru yn byw mewn tlodi".

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, eu bod nhw wedi bod yn "arwain yr achos am ofal plant cyffredinol am y ddwy flynedd diwethaf".

Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Darren Millar ei fod yn "bolisi o blaid y teulu, o blaid dewis, o blaid rhieni ac o blaid neiniau a theidiau"

O dan gynlluniau'r Ceidwadwyr, byddai neiniau a oedd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn cael eu talu £200 y mis fesul plentyn, wedi'i gapio i ddau blentyn fesul aelwyd.

Dim ond un taid neu nain y gellid ei enwebu fesul teulu.

Mae'r blaid yn amcangyfrif y byddai'r cynnig newydd yn costio £98 miliwn ychwanegol y flwyddyn.

Mae'n bwriadu ei ariannu gan ddefnyddio rywfaint o'r £180 miliwn y flwyddyn a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru fel cyllid canlyniadol ar gyfer penderfyniadau gwariant ar ofal plant a wneir gan Lywodraeth y DU yn Lloegr.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now