Millar 'ddim yn disgwyl colli mwy o ASau Ceidwadol i Reform'

Dywed Darren Millar nad yw'n rhagweld y bydd rhagor o aelodau'r grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru yn ymuno â phlaid Reform wrth baratoi at etholiad mis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd yn dweud nad ydy o'n disgwyl i fwy o'i grŵp adael y blaid ar ôl iddo gael gwared ar un oedd yn ystyried ymuno â Reform.
Dywedodd Darren Millar bod y 12 aelod o'i grŵp yn y Senedd wedi ei gefnogi 100% ar ôl iddo dynnu'r chwip oddi ar James Evans, sy'n cynrychioli etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.
Dywedodd James Evans, sydd i bob pwrpas nawr yn aelod annibynnol o'r Senedd, nad yw'r Ceidwadwyr yn cynrychioli ei werthoedd bellach.
Yn ôl Laura Anne Jones, a adawodd y Ceidwadwyr i ymuno â Reform UK fis Gorffennaf, mae Evans yn "AS gwych" ond tydy ei phlaid "ddim yn derbyn rhywun-rhywun".

Roedd James Evans wedi beirniadu arweinydd y Blaid Geidwadol yn y DU, Kemi Badenoch
Dywedodd Darren Millar wrth raglen Politics Wales y BBC: "Rwy'n disgwyl i dîm gweithgar, ymroddgar y Ceidwadwyr Cymreig fynd â ni yr holl ffordd at etholiadau'r Senedd fis Mai.
"Tydw i ddim yn disgwyl i unrhyw un arall newid plaid."
Dywedodd James Evans ei fod wedi cael ei daflu o'r blaid am godi "pryderon difrifol ynglŷn â methiant y blaid Geidwadol Brydeinig i gydnabod y realiti bod ein gwlad wedi torri".
Ar raglen Politics Wales yr wythnos diwethaf, fe feirniadodd Mr Evans arweinydd y blaid yn Llundain, Kemi Badenoch, am wrthod asesiad Robert Jenrick bod Prydain wedi torri.
Taflodd Kemi Badenoch Robert Jenrick o'i phlaid yr wythnos flaenorol am gynllwynio i ymuno â Reform.

Mae polau piniwn diweddar wedi awgrymu y gallai'r Ceidwadwyr orffen yn drydydd wedi etholiad mis Mai, tu ôl i Blaid Cymru a Reform
Dywedodd Darren Millar ddydd Sul: "Does neb eisiau gweld cydweithiwr yn gadael, ond os nad ydy'r person yna 100% tu cefn i'r blaid ac eich dadleuon, wedyn mae 'na ddisgwyliad i'r arweinyddiaeth weithredu.
"Mae fy nghydweithwyr yn teimlo eu bod wedi eu siomi. Mae ein gwirfoddolwyr, ymgyrchwyr ac aleodau wedi eu siomi.
"A dw i'n credu bod pobol Brycheiniog a Maesyfed hefyd wedi eu siomi yn fawr bod aelod o'r Senedd, a gafodd ei ethol yn Geidwadwr Cymreig, yn chwarae efo'r syniad o gefnu ar ei blaid."
Diswyddo'r Ceidwadwr James Evans AS am ystyried ymuno â Reform
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Aelod Ceidwadol o'r Senedd yn galw am newid o fewn y blaid
- Cyhoeddwyd18 Ionawr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.