Dyn o Fôn eisiau helpu mwy o bobl sydd â nam golwg i fwynhau rhedeg

Mae Ian Jones yn gwirfoddoli fel tywysydd ar deithiau cerdded ac yn helpu rhai sydd â nam ar eu golwg i redeg
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Ynys Môn gafodd anafiadau difrifol mewn damwain beic yn gobeithio "rhoi rhywbeth yn ôl" fel gwirfoddolwr sy'n tywys rhedwyr dall neu rannol-ddall.
Dywedodd Ian Jones, sy'n 60 ac o Frynteg, na fydd "byth yn mynd yn ôl i seiclo" ar ôl damwain pum mlynedd yn ôl.
Yn sgil yr anafiadau, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i fod yn athro, ond fe ddechreuodd wirfoddoli fel tywysydd ar deithiau cerdded misol Clwb Cerdded Eryri.
Bellach mae yn ôl yn rhedeg ac roedd yn teimlo fel y cam nesaf oedd cynnig ei hun fel tywysydd i redwyr na fyddai'n ystyried "gwneud oherwydd diffyg golwg".
Buddugoliaeth i un Cymro yn Rhufain - yn y Parkrun!
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2025
Priodas Pum Mil Metr: Cwpl yn priodi ar ôl Parkrun
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2023
Nam golwg 'ddim yn rhwystro' gŵr ifanc o Fôn
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2021
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn fe esboniodd ei fod wedi dechrau rhedeg eto ryw flwyddyn a hanner yn ôl.
Mae bellach yn rhan o "gymdeithas arbennig" Parkrun Niwbwrch "gyda chriw anhygoel o wirfoddolwyr eraill".
"Mae'n deimlad cymdeithasol mewn Parkrun ac o'n i isho cyfle i rannu hynny efo pobl sydd ddim yn mynd oherwydd trafferthion golwg," meddai.
Mae Ian bellach yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru ac wedi gwneud yr holl hyfforddiant sydd ei angen i fod yn dywysydd.
Mae yna dennyn yn mynd o gwmpas garddwrn y tywysydd a'r rhedwr ond pwysleisiodd mai cyfathrebu sy'n bwysig "wrth fynd ymlaen - troi i'r dde, troi i'r chwith ac yn y blaen".
Wrth redeg yn yr awyr agored mae Ian yn mwynhau disgrifio'r bywyd gwyllt sydd o'i gwmpas i'w gyd-redwyr ac yn gweld y budd o fod allan gydag eraill.
Mae'n edrych ymlaen nawr i "agor y drws" i fwy o bobl gael rhedeg ac "mae o'n gyfla rhoi rhywbeth yn ôl," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.