Beth allwn ni ddysgu am gyfryngau cymdeithasol drwy greu chwe phroffil ffug?

Lluniau o'r chwech pleidleisiwr ffug wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg AI
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BBC wedi creu chwe pherson ffug er mwyn cadw golwg ar eu byd nhw ar-lein - mae'r lluniau wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg AI

  • Cyhoeddwyd

Wrth i etholiad y Senedd agosáu, mae gwleidyddion wedi dechrau cnocio ar ddrysau ac ymddangos mewn dadleuon teledu er mwyn ceisio denu eich pleidlais.

Efallai eich bod hefyd wedi sylwi bod pleidiau, ymgyrchwyr a phleidleiswyr yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ymgyrchu a dadlau ymysg ei gilydd.

Mae'r hyn sy'n ymddangos ar eich ffrwd cyfryngau cymdeithasol chi yn gallu amrywio'n fawr i'r hyn mae rhywun arall yn ei weld. Mae llawer o'r cynnwys yn seiliedig ar eich diddordebau a'ch proffil ar-lein.

Am y pum wythnos nesaf, bydd adran newyddion BBC Cymru yn edrych ar sut mae'r cynnwys sy'n ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol yn amrywio o berson i berson.

Pobl ifanc yn sefyll mewn cylch yn edrych ar eu ffonau symudolFfynhonnell y llun, Getty Images

Byddwn ni'n gwneud hynny drwy greu chwe pherson - neu broffil - ffug, a chadw golwg ar yr hyn maen nhw'n ei weld ar-lein yn yr wythnosau cyn yr etholiad ar 7 Mai.

Bydd pob un o'r bobl hynny yn cynrychioli grŵp gwahanol o bleidleiswyr gyda gwerthoedd a barn wleidyddol wahanol - ac maen nhw'n byw mewn gwahanol rannau o Gymru.

Drwy ddefnyddio chwe ffôn symudol, byddwn yn yn cadw golwg ar beth mae pob person dychmygol yn ei weld ar YouTube, Facebook, TikTok, Snapchat, Instagram ac X.

Lluniau o'r chwech pleidleisiwr ffug wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg AI
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pleidleiswyr ffug yn cynrychioli grwpiau gwahanol o bobl gydag amrywiaeth o werthoedd, swyddi a barn wleidyddol

Rydyn ni wedi creu proffil ar gyfer chwe pherson gwahanol - Lauren, Paul, Claire, Rohan, Siân a David - hynny ar sail data gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol.

Byddwn ni'n cyfeirio at y bobl ddychmygol hynny fel "pleidleiswyr cudd" - term gafodd ei greu gan un o ohebwyr y BBC, Marianna Spring ar gyfer podlediad Americast ac ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024.

Does dim modd cynrychioli pob person yng Nghymru fydd yn pleidleisio yn yr etholiad. Y bwriad ydy rhoi awgrym i ni o'r math o gynnwys mae pobl yn ei weld yn hytrach na dod i gasgliad pendant.

Pam ein bod ni'n gwneud hyn?

Yng Nghymru, mae 52% o oedolion yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gael eu newyddion, yn ôl arolwg gan Ofcom.

Fe wnaeth yr arolwg hefyd ddarganfod mai BBC One oedd y brif ffynhonnell ar gyfer newyddion, Facebook ddaeth yn ail ac roedd Instagram a YouTube hefyd yn y 10 uchaf.

Roedd TikTok, X a Whatsapp ar y rhestr hefyd ac roedden nhw'n uwch na rhai sianeli teledu traddodiadol a phapurau newydd.

O fewn yr apiau hynny, mae cynnwys gan amrywiaeth o wasanaethau newyddion, dylanwadwyr, sylwebwyr, pobl gyffredin, grwpiau gwleidyddol a llawer mwy.

Mae hynny'n golygu ei bod hi'n anodd gwybod beth sy'n ffeithiol gywir, ac mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn rhywbeth i'w ystyried hefyd.

Rai wythnosau yn ôl fe wnaeth ymchwiliad gan BBC Cymru ddarganfod bod nifer o dudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhannu newyddion ffug am wleidyddion y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio lluniau sy'n defnyddio AI.

Rydyn ni felly wedi dewis rhai o'r platfformau mwyaf poblogaidd a byddwn ni'n edrych sut mae eu cynnwys yn amrywio o berson i berson.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Mae'r chwe pleidleisiwr cudd yn seiliedig ar ymchwil gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol, dolen allanol.

Y ganolfan wnaeth greu'r chwe chategori, gyda'r bwriad o gynrychioli amrywiaeth barn ar draws y boblogaeth.

Roedd hynny'n cynnwys awgrym o oed pob un yn ogystal â'u credoau a'r math o swydd ganddyn nhw.

Ar sail hynny, rydyn ni wedi ychwanegu mwy o wybodaeth a dyfnder i bob proffil gan ychwanegu manylion am eu bywydau a'u diddordebau nhw i'w gwneud nhw'n fwy dynol. Fe wnaethon ni ddefnyddio AI i greu delweddau ohonyn nhw.

Mae BBC Cymru hefyd wedi lleoli pob un mewn etholaethau yng Nghymru yn seiliedig ar argymhellion y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol.

Mi wnaethon ni greu cyfrifon i bob un ar y prif blatfformau cyfryngau cymdeithasol, sy'n cynnwys manylion am eu diddordebau y tu hwnt i wleidyddiaeth.

Does ganddyn nhw ddim ffrindiau na dilynwyr a fyddan nhw ddim yn cyhoeddi na chreu unrhywbeth eu hunain ond mi fyddan nhw'n ymateb i gynnwys fydd yn ymddangos ar eu cyfrif gan wylio fideos, dilyn tudalennau a hoffi negeseuon neu gynnwys.

Dros yr wythnosau nesaf byddwch chi'n gweld wynebau'r pleidleiswyr ffug fel rhan o raglenni etholiad BBC Cymru wrth i ni rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn fydd yn ymddangos ar eu cyfrifon.

Bydd yn gyfle i BBC Cymru gadw golwg ar yr hyn y byddan nhw'n ei weld a'i brofi yn yr wythnosau cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Straeon perthnasol

Trending Now