Côr bechgyn Ysgol Glantaf yn serennu ar Britain's Got Talent

Roedd beirniaid y rhaglen ITV wedi'u rhyfeddu gan berfformiad Côr bechgyn Ysgol Glantaf o'r gân 'Never Enough' o'r ffilm The Greatest Showman
- Cyhoeddwyd
Mae côr ysgol uwchradd o Gaerdydd wedi perfformio ar y rhaglen Britain's Got Talent.
Roedd beirniaid y rhaglen ITV wedi'u rhyfeddu gan berfformiad Côr bechgyn Ysgol Glantaf o'r gân 'Never Enough' o'r ffilm The Greatest Showman nos Sadwrn.
Aeth y côr o 70 o fechgyn, a oedd yn cael eu harwain gan gyn-gystadleuwr yr X-Factor, Lloyd Macey, drwodd i rownd nesaf y gystadleuaeth ar ôl i'r beirniaid godi i'w gymeradwyo yn y clyweliad.
Dywedodd Simon Cowell y dylai'r bechgyn fod yn "falch" o'u cyflawniad, gan ychwanegu bod eu perfformiad wedi ei wneud yn "emosiynol".
"Roedd hyn yn wych, dyma beth yw côr da - cael hwyl, dewisiadau caneuon gwych, arweinydd gwych," meddai.
Dywedodd y beirniad arall Amanda Holden fod y bechgyn "wedi gwneud Cymru'n falch ac alla i ddim aros i weld beth ddaw nesaf", tra bod Alesha Dixon wedi galw Lloyd Macey yn "arweinydd gwych".

"Dydw i ddim yn gerflun," meddai Simon Cowell wrth gamu allan o dan y llen
Cyn eu perfformiad ar y rhaglen nos Sadwrn, roedd y bechgyn wedi cael eu gwahodd i berfformio mewn seremoni dadorchuddio cerflun o ffigur dylanwadol yn y diwydiant cerddoriaeth.
Ond fel yr oedd y cerflun am gael ei ddadorchuddio, camodd Simon Cowell allan o dan y llen i ddweud y bydden nhw'n cael clyweliad ar ei raglen sioe adloniant.
Roedd y bechgyn i'w weld wedi'u syfrdanu wrth i brif feirniad y rhaglen ddweud eu bod am berfformio ar y teledu.
"Dydw i ddim yn gerflun," meddai Simon Cowell wrth gamu allan o dan y llen, ac ymatebodd un o'r bechgyn ei fod yn "llawer gwell na cherflun."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.