Rhiannon Boyle: 'Mae bod yn fam fatha pob job'

Y dramodydd Rhiannon BoyleFfynhonnell y llun, Gemma Griffiths Photography
Disgrifiad o’r llun,

Y dramodydd Rhiannon Boyle

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mae bod yn fam fatha pob job, mae 'na bits o bob job 'dan ni ddim yn licio, fel gwneud tax returns."

Ar drothwy cyfres newydd o'r ddrama deledu Anfamol, mae'r dramodydd Rhiannon Boyle yn dweud bod clywed mamau'n sgwrsio'n onest am fagu plant yn "chwa o awyr iach".

Dywedodd ar raglen Heledd Cynwal, Radio Cymru: "Rôl ydi bod yn fam a ti ddim yn fam gwael os ti'n casáu y bit yma neu'r bit arall.

"Dylse ein bod ni yn cael dweud hynny heb i bobl farnu ni fel mamau gwael os oes yna bits 'dan ni yn stryglo efo neu ddim yn mwynhau."

Llwyddiant Anfamol

Ar ôl llwyddiant ei drama lwyfan Anfamol, a drodd yn gyfres ddrama ar S4C, mae Rhiannon yn dweud y gall gwylwyr edrych ymlaen at "ansawdd a theimlad hollol wahanol yn yr ail gyfres."

Bydd ail gyfres Anfamol yn cychwyn ar S4C am 21.00 ar 5 Ebrill ac, unwaith eto, bydd gwylwyr yn dilyn taith y gyfreithwraig lwyddiannus, Ani, sy'n cael ei phortreadu gan yr actores Bethan Ellis Owen o fod yn fam sengl.

Yn y gyfres yma mae Ani wedi dysgu caru hi ei hun o'r diwedd ac mae'n rhoi amser i ddod o hyd i ramant.

Wrth adlewyrchu ar lwyddiant Anfamol hyd yma, meddai'r dramodydd a'r fam sy'n wreiddiol o Gaergybi: "Ar ôl i'r ddrama gael ei lwyfannu oedd mamau yn stopio fi ar y stryd ar y school run jest yn deud 'O'n i yn gweld fy hun ar y llwyfan 'na a nes di drafod petha dwi 'di bod ofn deud yn uchel.

"Felly dwi'n meddwl dyna be' nath hitio pobl."

Y prif gymeriad Ani yn ail gyfres AnfamolFfynhonnell y llun, BBC/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Ellis Owen sy'n chwarae rhan y prif gymeriad - Ani yn ail gyfres o Anfamol

Ond beth sbardunodd Rhiannon i greu cymeriad Ani yn y lle cyntaf?

"Flynyddoedd yn ôl oedd gen i ffrind i ffrind ac oedd hi a'i gŵr yn trio am fabi.

"Wnaeth o gymryd dipyn iddyn nhw i gael yn feichiog a wedyn pan nath hi gael y babi oedd hi fel... 'dwi ddim yn siŵr os dwi'n licio hwn a dwi'm yn gwbod os ydi o'n fistêc.'

"Wnes i ffeindio hwnna mor refreshing achos o'n i'n gallu gweld bod hi yn fam amazing. Oedd hi'n caru'r plant efo'i holl enaid ond oedd hi jest fel 'mae yna ddarnau o hwn dwi jest yn casau, mae o mor boring a dwi jest yn casau chwara ar y llawr a mynd â nhw i softplay.'

"Oedd y teimlad o golli hunaniaeth yn rili diddorol i fi achos fel arfar ti'n gweld mamau wedi eu portreadu mewn ffilms neu ar y teledu ac maen nhw'n famol, maen nhw'n mwynhau pobi cacennau ac maen nhw gorfod bod yn esmwyth, ond be' am y mamau sy'n anfamol?"

golygfaFfynhonnell y llun, BBC/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o'r gyfres newydd

Yn fam ei hun i Elsi (14) a Magi (12), mae Rhiannon sydd yn byw yng Nghaerdydd ers 30 mlynedd yn dweud iddi hithau wynebu adegau anodd wrth fagu teulu a gweithio.

"Ro'n i'n arfer bod yn athrawes ddrama. Wnes i gael y plant pan o'n i'n dysgu felly wnes i ffeindio'r balans yna o jyglo plant a bod yn athrawes yn rili anodd.

"Wrth edrych yn ôl dwi meddwl oedd hwnna wedi ysbrydoli Anfamol achos mae Ani wrth gwrs yn cael iselder ôl-enedigol a wnes i byth gael diagnosis o hynny, ond wrth edrych yn ôl, do'n i ddim yn iawn."

Hiwmor

Er y themâu dwys, bydd gwylwyr y gyfres gyntaf a'r ddrama lwyfan yn cofio'r hiwmor sy'n perthyn i Anfamol hefyd.

Mae hiwmor yn bwyisg i Rhiannon fel dramodydd, ac mae'n dweud bod ei thaid yn ddylanwad mawr ar ei ffraethineb.

"Roedd Grandad Jack yn byw yn Lerpwl ac oedd o jest yn gallu deud storis, oedd o'n gymeriad, a dyna ydi bod yn awdur; gwrando ar bobl, deud storis a trio neud i bobl chwerthin.

"Dwi o hyd yn licio neud pobl chwerthin ac fel yna oedd o."

golygfaFfynhonnell y llun, BBC/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ail gyfres yn cychwyn ar S4C ar 5 Ebrill

Beth all ffans Anfamol edrych ymlaen ato yn yr ail gyfres?

"Wnes i ddysgu lot wrth 'sgwennu'r gyfres gynta' achos hwnna oedd fy nrama deledu gynta'.

"Oedd hynna yn eitha' heriol, dwi'n meddwl ti'n gwneud mistêcs bach a phan ti'n gweld yr end product, ti'n meddwl ella faswn i wedi neud hwnna yn wahanol.

"Felly dwi'n meddwl bo' ni wedi elevatio cyfres dau a dwi'n gobeithio fydd pobl yn gallu gweld y gwahaniaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb:

Trending Now