'Angen i Gymru gynhyrchu mwy o'i bwyd ei hun' - pwyllgor Senedd

Llun dyn yn dal bocs llawn llysiauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pwyllgor y Senedd yn galw ar y llywodraeth i ymrwymo i darged o gynhyrchu 75% o'r llysiau sy'n cael ei fwyta gan drigolion Cymru yn y wlad hon

GanSion Tootill
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae angen mwy o gymorth ar y sector bwyd yng Nghymru iddo allu tyfu a ffynnu, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau'r Senedd.

Mae pwyllgor yr economi, masnach a materion gwledig yn dweud bod mewnforio cynnyrch o wledydd eraill sydd â safonau gwahanol i Gymru yn cael effaith negyddol ar y sector, ac maen nhw'n annog y llywodraeth i gymryd camau mwy pendant i'w gryfhau.

Un opsiwn sy'n cael ei argymell i'r llywodraeth yw cynyddu defnydd cynnyrch Cymreig o fewn y sector cyhoeddus, er enghraifft mewn ysgolion, er mwyn "creu galw sefydlog sy'n cefnogi busnesau Cymru".

Mae'r pwyllgor hefyd yn awgrymu creu targed newydd i gynhyrchu 75% o'r llysiau sy'n cael ei fwyta gan drigolion Cymru yn y wlad hon.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "ymrwymo'n llwyr i gefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru."

Mae Emyr Owen, sy'n gyfarwyddwr cwmni Tatws Trading yn Llandudno, yn hoff o'r syniad o dyfu'r sector bwyd yng Nghymru, ond mae'n amau y byddai gweithredu ar argymhellion y pwyllgor yn cyflawni hynny.

"'Sa hi'n braf iawn medru cael mwy o gynnyrch Cymreig lleol," meddai Mr Owen.

"Y gwir amdani ydi, mae yna rai tyfwyr bach sy'n llwyddiannus iawn, ond dwi'n meddwl yng Nghymru i wneud o ar lefel fwy, dyw o byth yn mynd i weithio'n anffodus."

'Pethau'n gwaethygu yn lle gwella'

Mae Mr Owen yn rhedeg ei fusnes ar y cyd gyda'i fab a'i ŵyr.

Wedi blynyddoedd o brynu a gwerthu cynnyrch i fusnesau ac unigolion ar draws y gogledd, mae'n dweud bod y gystadleuaeth o dramor wedi cael effaith sylweddol ar y farchnad yng Nghymru.

"Yn anffodus, dwi'n gweld pethau'n gwaethygu yn lle gwella, hyd yn oed gyda'r argymhellion newydd yma," meddai.

"Mae yna sawl sialens yn wynebu ni fel y dirwedd yma - tydi o ddim yn mynd i weithio ar lefel mawr.

"Wedyn y peth pwysicaf i'r rhan fwyaf o fusnesau - yn enwedig archfarchnad fawr, ond y llywodraeth hefyd - yw'r gost.

"Mae'n hawdd dweud bod angen cynhyrchu mwy a phrynu mwy yma, ond pan mae modd cael rhywbeth o dramor am lawer llai o bres, dyna sy'n digwydd de."

Ychwanegodd: "Dwi'n hoff iawn o'r syniad ond mae cefnogi'r syniad go iawn a gweld hi'n llwyddo yn beth gwahanol."

Llun Emyr (canol) gyda'i mab (chwith) a'i ŵyr (dde)Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Owen (canol) yn rhedeg ei fusnes gyda'i fab a'i ŵyr

Mae Alex James yn rheolwr prosiect o fewn cwmni Mentera, sy'n helpu cynhyrchwyr a busnesau o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

"Un her ydy'r cynnydd yn y costau o fewn y sector. Mae costau uchel ynni a chynhwysion yn ddwy esiampl sy'n cael effaith fawr ac yn gallu creu heriau i'r sector," meddai Mr James.

"Ond mae argaeledd unedau i gynhyrchwyr dyfu mewn iddyn nhw yn broblem ni'n clywed yn aml hefyd.

"Os mae busnes bach wedi dechrau yn y garej ac yna angen uned go iawn wrth iddyn nhw dyfu, yn aml does dim byd ar gael.

"Ond yr her fwyaf falle yw'r prinder gweithwyr sydd gyda'r sgiliau sydd angen ar y sector - er enghraifft pobl sy'n gwybod sut mae bragu cwrw.

"Byddai gael unedau a chymorth i gyrraedd marchnadoedd newydd ddim o reidrwydd yn helpu busnesau i dyfu os does dim y gweithwyr sydd angen i fynd gyda hynny, felly mae angen buddsoddi yn yr ardal yna hefyd."

Llun Alex JamesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alex James mae costau uchel a phrinder sgiliau yn rhai o'r heriau sy'n wynebu'r sector bwyd a diod yng Nghymru

Ar hyn o bryd mae'r sector prosesu bwyd yn ychwanegu £7bn at economi Cymru, medd y pwyllgor.

Ond mae'r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad maen nhw'n meddwl y gall Llywodraeth Cymru eu gweithredu er mwyn hybu'r sector i dyfu, sef:

  • Creu strategaeth fwyd gydgysylltiedig i Gymru;

  • Diogelu prosesu cig a diogelwch bwyd yng Nghymru;

  • Cefnogi twf mewn garddwriaeth yng Nghymru drwy ymrwymo i darged o gynhyrchu 75% o lysiau sy'n cael eu bwyta yng Nghymru yn gynaliadwy yng Nghymru;

  • Nodi camau gweithredu clir i gefnogi sector prosesu bwyd môr Cymru;

  • Defnyddio caffael cyhoeddus yn fwy strategol;

  • Ystyried taliad premiwm fel y premiwm lloi sugno.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Andrew RT Davies AS: "Drwy gefnogi proseswyr lleol, defnyddio caffael cyhoeddus yn fwy effeithiol, a gosod uchelgeisiau clir ar gyfer bwyd a gynhyrchir yng Nghymru, gall Llywodraeth Cymru helpu i greu system fwyd sy'n fwy gwydn a chynaliadwy sy'n gweithio i bawb."

Prosiect ysgolion eisoes ar waith

Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r rôl sydd gan y sector cyhoeddus i'w chwarae os yw Cymru'n mynd i lwyddo i gefnogi'r diwydiant bwyd i'r dyfodol.

Un esiampl sydd yn barod ar waith yw'r Prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer ysgolion.

Nod y polisi yw cynyddu'r cyflenwad o lysiau organig sy'n cael eu cynhyrchu'n lleol mewn prydau bwyd ysgolion cynradd.

Dywedodd Dr Siobhan Maderson, o gorff Cymru Wledig LPIP ym Mhrifysgol Aberystwyth, wrth y pwyllgor bod y polisi yn enghraifft dda o sut gall y llywodraeth cefnogi'r sector bwyd trwy greu galw parhaus am gynnyrch lleol.

"Gall cymorth cadarn gan Lywodraeth Cymru gefnogi'r gwaith o ehangu'r cynllun Llysiau o Gymru fel y bydd yn cyflawni ei nod fod 25% o'r holl fwyd yn ysgolion cynradd Cymru wedi'i gynhyrchu yn lleol ac organig erbyn 2030."

Mewn ymateb i'r adroddiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad pwysig hwn i brosesu bwyd ac yn croesawu cyhoeddi ei adroddiad.

"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru a byddwn yn ymateb i argymhellion y pwyllgor maes o law."

Llun Gareth Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Lloyd o Undeb Amaethwyr Cymru yn cytuno gyda'r galw am fwy o gefnogaeth gan y llywodraeth i'r sector bwyd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn flynyddol yn cynnal wythnos Brecwast Fferm sydd yn gyfle nid yn unig i ffermwyr a'r rhai sydd yn ymwneud â'r diwydiant amaeth i ddod ynghyd i fwynhau cynnyrch gorau lleol o Gymru ond hefyd yn gyfle i drin a thrafod y pynciau sydd yn bwysig i ffermwyr ar hyn o bryd.

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth dywedodd Gareth Lloyd o'r undeb: "Dwi ddim yn credu bod angen sector bwyd cryfach, mwy o gefnogaeth o'r llywodraeth i'r sector bwyd sydd gyda ni sydd ei angen a fi'n gobeithio mai dyna ma nhw'n galw amdano. Ry'n ni gyd yn gwbod bod gyda ni sector bwyd cryf iawn.

"Mae'r cynnyrch ry'n ni'n cynhyrchu yng Nghymru beth bynnag yw e o'r safon uchela drwy'r byd.

"Fi'n credu yn y byd sydd ohoni, lle ma popeth mor ansefydlog, fi'n credu bod angen am gynhyrchu bwyd o safon uchel ac mae diogelwch bwyd yn hynod hynod o bwysig, yn fwy pwysig nawr ers y rhyfeloedd byd diwethaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now