Atal gêm rygbi rhwng prifysgolion Caerdydd ac Abertawe ar ôl ymladd

Disgrifiad,

Mae fideo sydd wedi ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos yr ymladd

  • Cyhoeddwyd

Cafodd gêm rygbi rhwng prifysgolion ei hatal nos Fercher ar ôl i ddegau o chwaraewyr ymladd ar y cae yn ystod y munudau olaf.

Roedd tîm Prifysgol Caerdydd yn curo Prifysgol Abertawe 28–19 ar gae Clwb Rygbi Dyfnant yn Abertawe pan ddechreuodd y ddau dîm ymladd yn ystod y gêm.

Dechreuodd yr ymladd ar ôl i chwaraewr Caerdydd gael ei daclo'n uchel, wnaeth gorddi chwaraewyr a chefnogwyr, a daflodd gwrw ar y chwaraewyr tra roedden nhw'n ymladd.

Dywedodd trefnwyr y gynghrair, British Universities and Colleges Sport (BUCS), eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn mynegi eu "siom enfawr" bod y gêm wedi gorfod cael ei hatal.

Mae'r ddwy brifysgol wedi condemnio'r ymddygiad yn ystod y gêm, ac yn dweud eu bod yn cydweithio gyda BUCS ar eu hymchwiliad.

Fideo o gyfryngau cymdeithasol yn dangos yr ymladd

'Symud yn gyflym gyda'n hymchwiliad'

Fe ddigwyddodd yr ymladd ger y llinell ystlys, gyda bron pob un o'r 30 o chwaraewyr yn cymryd rhan, wrth i fyfyrwyr wylio o'r eisteddle.

Fe wnaeth rhai o'r cefnogwyr oedd yn y dorf daflu cwrw dros y chwaraewyr wrth i'r dyfarnwr geisio tawelu'r sefyllfa.

Dywedodd BUCS - corff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon addysg uwch yn y Deyrnas Unedig - fod y gêm wedi'i hatal gan y dyfarnwr ar ôl 78 munud.

Ychwanegodd y corff: "Byddwn yn symud yn gyflym gyda'n hymchwiliad i'r digwyddiad hwn, gan gydweithio gyda chynrychiolwyr o'r ddau sefydliad yn ogystal ag Undeb Rygbi Cymru."

Mynedfa i glwb rygbi Dyfnant
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gem ei chynnal yng Nghlwb Rygbi Dyfnant yn Abertawe

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Prifysgol Abertawe ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe fod yr ymddygiad yn "annerbyniol ac nad yw'n adlewyrchu gwerthoedd" y ddau sefydliad.

Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod y pryder a'r gofid y gallai'r digwyddiad hwn fod wedi'i achosi ac rydym yn ymddiheuro am yr effaith ar y rhai a fu'n rhan ohono, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, y chwaraewyr, swyddogion y gêm a chymunedau rygbi lleol, ynghyd â'n cymuned ehangach".

Dywedon nhw eu bod yn "cydweithio â BUCS, URC, Clwb Rygbi'r Myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei hystyried".

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn condemnio'r ymddygiad a welwyd yn y gêm neithiwr yn y termau cryfaf posibl.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe a BUCS i ymchwilio i'r digwyddiad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now