Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Aberteifi

A487Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487 i gyfeiriad y gogledd ger cyffordd Ffordd Caemorgan

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar ffordd osgoi Aberteifi ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A487 am tua 13:05 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur a fan.

Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo i'r ysbyty mewn Ambiwlans Awyr ond bu farw o'i anafiadau yn ddiweddarach.

Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae swyddogion yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now