Buddugoliaeth gul yn Albania'n cadw gobaith Cwpan y Byd Cymru'n fyw

Cymru AlbaniaFfynhonnell y llun, FAW
  • Cyhoeddwyd

Mae gobeithion tîm pêl-droed merched Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn dal yn fyw wedi buddugoliaeth o gôl i ddim oddi cartref yn Albania ddydd Sadwrn.

Rhiannon Roberts sgoriodd unig gôl y gêm yn Elbasan ar ôl 28 munud, er gwaethaf protestiadau'r tîm cartref bod y bêl wedi cyffwrdd braich yr amddiffynnwr ar ei ffordd i gefn y rhwyd.

Roedd Cymru'n meddwl eu bod wedi dyblu eu mantais wedi i Sophie Ingle benio'r bêlo agos i'r gôl cyn dyfarniad nad oedd yn cyfri oherwydd camsefyll.

Roedd y gêm yn un arbennig i Ingle wrth iddi ddathlu derbyn 150 o gapiau dros ei gwlad.

Llwyddodd Cymru felly i sicrhau tri phwynt pwysig, er nad oedd y perfformiad mor argyhoeddiadol ag yn y fuddugoliaeth 4-0 dros yr un gwrthwynebwyr ar Gae Ras Wrecsam yn gynharach yn yr wythnos.

Cymru AlbaniaFfynhonnell y llun, FAW

Roedd Albania wedi gwella'n sylweddol ers gêm nos Fawrth, ac fe wnaethon nhw lwyddo i roi mwy o bwysau ar Gymru yn ystod yr ail hanner.

Bu ambell foment bryderus i'r ymwelwyr, gydag Albania'n taro ffrâm y gôl wedi'r egwyl gan ddod yn agos at ddod yn gyfartal.

Serch hynny, llwyddodd Cymru i osgoi ildio gôl am ail gêm yn olynol.

Golyga'r canlyniad bod Cymru â'r un nifer o bwyntiau - 10 - â Czechia ar frig Grŵp B1, ac yn yr ailsafle ar sail gwahaniaeth goliau.

Bydd y ddwy wlad yn cwrdd yn y ffenestr ryngwladol nesaf yng Nghaerdydd, mewn gêm allweddol a allai penderfynu safle terfynol y grŵp.

Trending Now