Rhybuddion llifogydd mewn grym a rhew i ddod dros nos

Coeden wedi'i chwythu ar draws ffordd gan y gwynt yn Llangeitho, Ceredigion, ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae Storm Chandra wedi achosi trafferthion teithio ac wedi arwain at nifer o rybuddion llifogydd yn y de a'r canolbarth ddydd Mawrth.
Mae rhybuddion llifogydd, dolen allanol wedi bod mewn grym yn y de-ddwyrain, a degau o rybuddion i fod yn barod am lifogydd ar draws y de a'r canolbarth hefyd.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw i ddigwyddiad yng Nghoed-duon dros nos i gael gwared â dŵr llifogydd o du allan i dri chartref.
Mae Pont Hafren, yr M48, hefyd wedi bod ar gau am gyfnod ddydd Mawrth, a dywedodd Heddlu Gwent fod llifogydd ar ran o'r A40 rhwng Y Fenni a Rhaglan.
Mae Irish Ferries a Stena Line wedi canslo'r rhan fwyaf o'r llongau rhwng Cymru ac Iwerddon oherwydd y storm.
Rhybuddiodd National Rail y gallai'r tywydd gwael effeithio ar wasanaethau South Western Railway drwy'r dydd.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru na fydd gwasanaethau trên rhwng Abertawe a'r Amwythig ddydd Mawrth gan fod coeden wedi cwympo ar y cledrau ger Llangunllo ym Mhowys.

Mae rhybudd melyn am rew mewn grym ar gyfer nifer o ardaloedd fore Mercher
Mae rhybudd melyn am rew wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer dydd Mercher hefyd, mewn rhannau helaeth o'r gogledd, y canolbarth a'r de-ddwyrain.
Bydd y rhybudd hwnnw mewn grym rhwng 00:00 a 10:00 fore Mercher.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod hi'n debygol y bydd rhew yn ffurfio ar arwynebau sydd heb eu graeanu erbyn y bore, ac y gallai arwain at rywfaint o aflonyddwch.

Hafod Eryri ar gopa'r Wyddfa ddydd Llun, ble roedd y tymheredd wedi gostwng i thua -9C

Roedd effaith y gwyntoedd cryf i'w weld yn Abertawe fore Mawrth
Daeth rhybudd melyn am law i ben am 10:00 fore Mawrth, gyda'r Swyddfa Dywydd yn disgwyl hyd at 30mm o law i ddisgyn ar draws ardal y rhybudd, gyda hyd at 80mm yn debygol ar dir uchel fel Bannau Brycheiniog.
Roedd rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer rhannau o Geredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe hefyd.
Roedd hwnnw mewn grym tan 16:00 ddydd Mawrth, gyda rhybudd y gallai gwyntoedd o hyd at 80mya daro'r gorllewin.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr

- Cyhoeddwyd20 Ionawr

- Cyhoeddwyd13 Ionawr
