Un wedi cael triniaeth ysbyty wedi gwrthdrawiad Caerdydd

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger ardal Parc Fictoria nos Fercher
- Cyhoeddwyd
Dywed y Gwasanaeth Ambiwlans bod un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd nos Fercher.
Roedd dau gerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad ar FforddHeol Ddwyreiniol y Bont-faen yn ardal Parc Fictoria am tua 17:00.
Bu'r ffordd rhwng cyffyrdd Ffordd Aldsworth a Stryd Grosvenor ar gau am gyfnod.

Roedd dau gerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad
Yn ôl adroddiadau fe wnaeth un car wrthdaro yn erbyn un arall ac yna taro blaen bwyty ger arhosfan bws.
Roedd dwy injan dân ar y safle ac yn ôl adroddiadau fe gyrhaeddodd yr ambiwlans awyr y safle am 16:50 ond yna fe adawodd cyn glanio.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r safle ychydig ar ôl 16:30 ddydd Mercher 28 Ionawr.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod wedi "anfon parafeddyg uwch, un ambiwlans brys, a darparu cefnogaeth gofal critigol".
"Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty am driniaeth bellach."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.