Menyw a dau fachgen mewn cyflwr difrifol wedi digwyddiad yn Sir Caerffili

Ffordd Margaret, GilfachFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i ddigwyddiad ger Margaret Street yn ardal Gilfach, Caerffili fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw a dau fachgen mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Sir Caerffili.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi derbyn galwad yn mynegi pryder am ddiogelwch tri pherson mewn car ger Margaret Street yn ardal Gilfach am 10:45 fore Sul.

Fe wnaeth swyddogion ymateb i'r digwyddiad gyda chymorth gan y gwasanaeth ambiwlans, ambiwlans awyr a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Cafodd menyw 36 oed a dau fachgen, sy'n naw ac 16 oed, eu cludo i'r ysbyty lle maen nhw i gyd yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd Heddlu Gwent bod eu hymholiadau'n parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now