Ymddiheuro wedi i nifer wynebu oedi wrth deithio o Iwerddon

FferiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stena Line fod "problem dechnegol gyda'r llong yng Nghaergybi"

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Stena Line wedi ymddiheuro i deithwyr - yn eu plith cefnogwyr rygbi - wedi i nifer gael trafferth dychwelyd o Iwerddon ddydd Sul.

Fe wnaeth cwmnïau Stena Line ac Irish Ferries ganslo eu teithiau.

Fore Llun dywedodd cwmni Stena bod yna broblem dechnegol gyda'r Stena Adventurer ond bod y Stena Estrid yn teithio fel arfer.

Fe ychwanegon nhw bod eu tîm yn cysylltu â chwsmeriaid yn gyson er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a chynnig dewisiadau teithio eraill.

Y cyngor i deithwyr ydy i wirio cyn teithio.

Dywedodd Irish Ferries nad oedd yr Ulysses yn gallu angori yng Nghaergybi ddydd Sul oherwydd rhesymau eithriadol. Roedd hi i fod i angori am 11:00.

Penbedw
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i griwiau ddargyfeirio i Benbedw (Birkenhead) yn sgil y broblem yng Nghaergybi

Bws
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o bobl yn dal bysiau o Benbedw am tua 20:00 nos Sul

Rhes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ciw hir am fwyd ar un o'r llongau

Fe wnaeth yr oedi amharu ar nifer fawr o deithwyr.

Dywedodd un o'r teithwyr, Jac Jolly, iddynt dderbyn neges destun am tua 13:00 ddydd Sul yn "dweud bod 'na mynd i fod tua awr o delay ar y cwch, achos bod 'na ryw helynt wedi digwydd yn y porthladd yng Nghaergybi".

"Wedyn gafon ni text arall tua awr wedyn pan o'n i ar y bws ar y ffordd i'r porthladd yn dweud bod dal helynt a bydden nhw'n rhoi gwybod i ni pan fydd mwy o wybodaeth.

"Yn yr awr ddiwetha' ni wedi cael cadarnhad bod y cwch wedi canslo.

"Fi'n stuck yn Nulyn heb unrhyw le i aros a sai'n siŵr beth i 'neud a fi'n really stressed."

Glain (trydydd o'r dde yn y cefn)
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Glain Tudur (trydydd o'r dde yn y cefn): "Dim clem pryd fyddwn ni'n cyrraedd y lan ond da' ni yn ei weld o fewn tafliad carrag!"

Yn ôl Glain Tudur, sy'n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, fe wnaethant adael yr hostel am 05:00 o'r gloch fore Sul.

"Roedd y llong yn mynd am 07:30. Nathon ni gyrraedd arfordir Caergybi am 11:00, ond ma' hi bron yn 17:00 rŵan a da' ni dal yma a da' ni'n gwybod dim.

"Dim clem pryd fyddwn ni'n cyrraedd y lan, ond da' ni yn ei weld o fewn tafliad carrag!"

Efa o Gwm Gwendraeth yn y top gwyrdd
Disgrifiad o’r llun,

"Ni wedi bod ar y fferi ers ben bore ma'," medd Efa Angharad (yn y crys gwyrdd)

Dywedodd Efa Angharad, sydd o Gwm Gwendraeth, fod y criw wedi mynd "mas i Ddulyn i weld Cymru yn chwarae a gathon ni joio'r penwythnos".

"Ond, ni wedi bod ar y fferi ers ben bore ma'.

"Ni wedi methu doco yng Nghaergybi so ni newydd ffeindio mas bod rhaid i ni fynd i Birkenhead, sy' bach o boen. Ma' nhw'n trefnu bysys i ni wedyn n'ôl i Gaergybi."

Criw Gym Gym
Disgrifiad o’r llun,

Roedd criw'r Gym Gym yn fod i gyrraedd yn ôl yng Nghymru yn y bore, ond doedden nhw yn dal heb gyrraedd y lan am 17:00

Yn ôl Swyn Prysor fe wnaeth criw'r Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd "adael yr hotel bore 'ma am 05:00. Da' ni bellach 'di bod yn teithio am dros 12 awr".

Dywedodd Elen Mai ei bod yn fod i gyrraedd Ynys Môn am 11:00, "ond ma' hi nawr yn 17:00".

"Ma' pawb yn iawn so far - ni gyd yn yr un cwch! Ond ni wedi cael bach o obaith, ni fod dod off y cwch ma' mewn rhyw ddwy awr felly gawn ni weld!

"Ma' gyda ni ddarlithoedd fory, felly ma' fe am fod yn siwrne pell n'ôl i Gaerdydd.

"Ma rhai hefo exams felly fi'n gwybod bod 'na lot o panic rownd y lle, ond fi'n credu byddwn ni gyd yn iawn."

Cynghorydd Bob Llewelyn Jones, Ward Parc a'r Mynydd yng Nghaergybi
Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Bob Llewelyn Jones, Ward Parc a'r Mynydd yng Nghaergybi

Nid dyma'r tro cyntaf i Borthladd Caergybi gael problemau, fel esbonia'r cynghorydd Bob Llewelyn Jones.

Dywedodd: "Ma' hwn yn bryder mawr i bawb sy'n byw yng Nghaergybi a deud y gwir, am y rheswm mae'n digwydd mor aml 'wan.

"Mae'n rhaid gwneud rhywbeth rŵan... neu bydd pobl yn dewis mynd rhywle arall.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pethau wedi mynd o waeth i waeth."

Dywedodd yr ysgrifennydd dros drafnidiaeth a gogledd Cymru, Ken Skates, fod "Porthladd Caergybi yn borthladd preifat ac yn cael ei weithredu'n breifat ac nid yw'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru".

"Rydym wedi derbyn sicrwydd gan Stena, yr awdurdod porthladd sy'n gyfrifol am y seilwaith, y bydd uwchraddiadau'n cael eu gwneud i wella gwydnwch y porthladd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now