Dros ddwy filiwn o deithiau bws gan bobl ifanc ers cynllun newydd

Bws caerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 36,000 o bobl ifanc wedi gwneud ceisiadau ar gyfer FyNgherdynTeithio yn ôl Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc wedi teithio fwy na ddwy filiwn o weithiau ers mis Medi fel rhan o'r cynllun prisiau is newydd, medd Llywodraeth Cymru.

Roedd y cynllun, a gafodd ei lansio yr hydref diwethaf ar gyfer pobl ifanc rhwng 5 ac 21 oed, yn rhan o gytundeb cyllideb y llynedd gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Mae pobl ifanc yn talu £1 am docyn sengl a £3 am docyn dydd wrth deithio ar unrhyw wasanaeth bws sy'n rhan o'r cynllun.

Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates yn dweud bod y nifer sydd wedi teithio "yn fwy na o nhw'n gobeithio a'i ddisgwyl".

Mae'r gwrthbleidiau wedi ymateb gyda'r rhan fwyaf yn dweud y dylai'r cynllun fod wedi dod i rym ynghynt.

36,000 o geisiadau

Mae angen i bobl ifanc rhwng 16 ac 21 gael tocyn FyNgherdynTeithio fel prawf o'u hoedran.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae 36,000 o bobl ifanc wedi gwneud cais.

Does dim angen tocyn FyNgherdynTeithio i blant rhwng 5 a 15.

Dywedodd Mr Skates ei fod "wrth fy modd sut ma' pobl ifanc wedi ymgymryd â'r cynllun".

"Dwi wedi clywed gan bobl ifanc sy'n elwa o'r cynllun," meddai a dywed eu bod wedi dweud wrtho bod y cynllun "yn rhoi mwy o fwyd ar eu platiau gartref ac yn arwain at eu rhieni'n teimlo llai o straen ynghylch costau byw".

Dyw pob gweithredwr bysiau yng Nghymru ddim yn rhan o'r cynllun sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru drwy Trafnidiaeth Cymru.

Cafodd y cynllun ei sefydlu drwy gytundeb cyllideb Llywodraeth Cymru 2024-25 gydag Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd "y gallai'r cam syml yma i leihau costau byw pobl ifanc fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl gyda llywodraeth mwy blaengar".

"Fe ddylai'r newid yma fod yn barhaol ac rydym yn edrych ar ffyrdd o dorri costau i bawb," ychwanegodd.

Mae llefarydd ar ran y blaid Reform yn dweud: "Dros y chwarter canrif diwethaf, mae Llafur wedi rhedeg ein gwasanaethau cyhoeddus yn aneffeithiol yng Nghymru ac wedi esgeuluso ein rhwydwaith trafnidiaeth yn llwyr.

"I bobl Cymru, mae ychydig yn rhy hwyr."

Yn ôl llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Gall Llafur siarad faint y mynnen nhw am drafnidiaeth ond y gwir yw eu bod wedi gadael teithwyr, y rhwydwaith drafnidiaeth a chymunedau i lawr yn ystod eu 27 mlynedd mewn grym.

"Yn wahanol i Lafur, byddai Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod Cymru'n cael cyfran deg o ran cyllid rheilffyrdd."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cymorth wedi'i dargedu gan gynnwys prisiau tocynnau bysiau ble mae ei wir angen.

"Mae hynny'n cynnwys tocynnau bws am ddim i bobl ifanc, cyn-filwyr a'r rhai dros 60 oed - gan sicrhau bod y rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael mynediad at waith, addysg a gwasanaethau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now