ME: 'Mae fy mab yn ei wely bob dydd, a neb yn ei weld'

Roedd Tomos yn ddyn heini cyn cael diagnosis o ME difrifol
- Cyhoeddwyd
Roedd Tomos Sleep, 28, o Abertawe yn arfer bod yn ddyn ifanc heini a cherddorol, oedd yn mwynhau bywyd ac yn astudio yn y brifysgol.
Ond nawr, ar ôl diagnosis o ME yn 2023, dydy Tomos ddim wedi gadael ei wely ers bron i dair blynedd.
Mae'n un o filoedd, yn ôl ymgyrchwyr, sydd yn "anweledig" - gyda gofal iechyd wedi ei ddisgrifio fel "anialwch" i gleifion sy'n wynebu'r symptomau mwyaf difrifol.
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru bod cynigion ar gyfer arbenigwr Cymru gyfan, grŵp arbenigol a safonau cenedlaethol yn cael eu hystyried.
Cyflwr ME: 'Galaru am fywyd ry'n wedi'i golli'
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2023
'Bywyd yn syllu ar y nenfwd'
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2022
Dywedodd Myfanwy Sleep fod ei mab yn edrych fel petai "wedi ei barlysu" ar ei waethaf.
Fe ddechreuodd y cyfan yn 2019 gyda phendro, a dyw'r teulu ddim yn gwybod pam.
"Roedd golwg llwydaidd iawn arno fe," dywedodd Myfanwy. "O'dd e'n cal trafferth prosesu gwybodaeth a chofio pethe'.
"Yn anffodus, o'dd pethe'n mynd o waeth i waeth.
"Dros gyfnod o bedair blynedd, fe welon ni sawl arbenigwr, ac fe gath e ddiagnosis o ME difrifol."
ME: 'Ar hyn o bryd nawr, does dim egni gyda fe i siarad llawer'
Yn 2023, fe ddechreuodd Tomos gael trafferth mawr yn cerdded, ac mae wedi bod yn gaeth i'w wely ers hynny.
"Ar hyn o bryd, does dim egni gyda fe i siarad llawer," dywedodd Myfanwy.
"Os oes eisiau unrhyw beth arno fe, mae'n edrych ar wydr o ddŵr, edrych ar y ffenest os yw e mo'yn y ffenest ar agor tamaid bach.
"Mae e'n ca'l beth ma nhw'n galw'n post exterional malaise, ar ôl cyfnod o wneud rhywbeth, a chi'n cael y blinder difrifol iawn hyn.
"Mae e ddim y gallu symud ei freichiau, na'i goesau, mae e ddim yn gallu agor ei lygaid, ddim yn gallu cnoi bwyd, ddim yn gallu siarad.
"Ni wedi trio gwahanol bobl i ddod mewn i roi help, ond yn anffodus dyw e ddim wedi gweithio, mae'n gwneud Tomos yn waeth."
Beth yw cyflwr ME?
Mae ME, dolen allanol, sydd weithiau'n cael ei alw'n syndrom blinder cronig, yn gyflwr cymhleth a chronig.
Mae'r weithred leiaf, yn gorfforol neu'n feddyliol, yn gallu arwain at anhwylder ôl-ymarfer (post-exertional malaise), sy'n gallu llorio rhywun yn llwyr.
Nid pawb sy'n profi'r un symptomau. Mae graddfa eang o ddifrifoldeb - sy'n aml yn cael eu disgrifio fel ysgafn, canolig, difrifol a difrifol iawn.
Tra bod gwaith ymchwil yn dal i fynd yn ei flaen i geisio dod o hyd i achosion y cyflwr, mae haint neu salwch arall yn gallu bod wrth wraidd y cyflwr i rai.
'Dwi ddim yr un person'
Fe gafodd Fflur Evans, 39, sy'n fam i ddau o'r Bala, ddiagnosis o ME ym Mawrth 2024.
Bu'n rhaid iddi adael ei gwaith fel athrawes gan fod y cyflwr "wedi eu llorio".
"'Dw i ddim yr un person," dywedodd. "Mae wedi fy nghyfyngu i'r bubble bach 'ma yn y tŷ"
"Mae'n gallu cymryd oriau i ddod allan o gwely.

Fflur Evans gyda'i phlant cyn ei diagnosis o ME yn 2024
"Mae'r corff yn teimlo mor drwm. Ti'n teimlo fel bod 'na fatras ar dy ben di, ac eliffant ar ben hwnnnw. Weithiau, dw i ddim yn gallu agor fy llygaid.
"Ar y dechre, o'n i'n meddwl mai just blinder oedd ME. Mae' o'n gymaint, gymaint mwy difrifol.
"'Dw i ddim yn gw'bod be' sy'n mynd i ddigwydd. Mi allen i fod yn fwy difrifol a bod yn hollol gaeth i'r gwely. Ma' hwnna'n codi ofn arna'i."
'Fel proses galaru'
Mae Alwen Davies, o Sir Ddinbych yn disgrifio cael diagnosis o ME yn 2023 fel "proses galaru".
"Mae'n swnio'n ddramatig i dd'eud, ond ma' ME yn newid byw rhywun," meddai.
"Mae'n effeithio iechyd meddwl rhywun yn ofnadwy."
Mae hi'n trio rheoli ei lefelau egni drwy gynllunio a gorffwys - techneg sy'n cael ei alw'n pacing er mwyn ceisio lleihau risg o anhwylder ôl-ymarfer.
Ond mae'n dweud bod prinder arbenigwyr a diffyg dealltwriaeth meddygon yn broblem.

Mae Rob Messenger yn gofalu am ei fab, Cerith, ac yn ymgyrchu ar ran cleifion eraill
Mae dau o blant Rob Messenger o Sir Gaerfyrddin, Cerith ac Eleri, yn byw ag ME.
Gyda'i fab yn byw â'r cyflwr difrifol, mae'n gofalu'n llawn amser amdano gyda'i wraig, ac wedi ymgyrchu ar ran cleifion eraill yng Nghymru trwy alw am wella gwasanaethau.
"I bobl ag ME difrifol a difrifol iawn, mae'n waeth na postcode lottery, mae mwy fel anialwch.
"Dyna pam ry'n ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu grŵp arbenigol, gan gynnwys gweithwyr iechyd, cleifion a goflawyr i greu strategaeth ME i Gymru, pennodi arweinydd clinigol a buddsoddi mewn ymchwil."
Pa gymorth sydd ar gael i gleifion ME?
Un enghraifft o wasanaeth sydd wedi ehangu ar gyfer cleifion ME yn ddiweddar gyda chyllid Llywodraeth Cymru yw cynllun Byw'n Dda yn y gogledd.
Yn ôl Nesta McCluskey, cyfarwyddwyr proffesiynau perthynol iechyd yng ngogledd ddwyrain Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae'n golygu fod "gofal unigol" i bobl, pa bynnag mor ddifrifol yw eu hanghenion.
"I'r rhai sydd â ME difrifol neu ddifriol iawn, 'dan ni'n gallu cynnig cymorth yn y cartre', gweithio gyda'u teuluoedd neu eu gofalwyr nhw, a chreu cynllun personol," dywedodd.
Yn ôl Athro David Price o Brifysgol Caerdydd, mae angen cyllid "ar frys" ar gyfer ymchwil ME.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod "bod angen gwneud mwy", yn enwedig i'r rheiny sydd â salwch mwy difrifol.
"Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i ymestyn gwasanaethau Covid Hir i bobl â chyflyrau hirdymor eraill sy'n gysylltiedig â heintiau," ychwanegodd.
"Mae cynigion ar gyfer arbenigwr Cymru gyfan, grŵp arbenigol a safonau cenedlaethol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.