'Twll du' yn y gefnogaeth i gyn-filwyr yn y gogledd-orllewin

Yn ôl Tony Brown, mae cyn-filwyr yn gorfod "chwilio'n galed" am gymorth
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
17 oed oedd Tony Brown pan adawodd Gaernarfon i wasanaethu gyda'r fyddin yng Ngogledd Iwerddon ar ddechrau'r 1970au, ac mae effeithiau'r cyfnod yn para hyd heddiw.
"Pan o'n i yna, amser y bomio a'r riots, tân, ceir yn dod rownd gornel a photeli petrol yn cael eu lluchio atoch chi, nail bombs a bob dim... mae o'n aros efo chi," meddai.
Mae Tony, a nifer o gyn-filwyr eraill yng ngogledd-orllewin Cymru, yn galw am well darpariaeth ar eu cyfer, gyda rhai yn dweud ei bod hi'n anodd gwybod lle i droi am gymorth.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gefnogaeth i gyn-filwyr yn cynnwys cyllid ar gyfer cymorth iechyd meddwl, yn ogystal â Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ar draws awdurdodau lleol.
'Yn fy ngwely am ddau ddiwrnod'
Mae Tony wedi cymryd amser i ddod dros ei gyfnod ar flaen y gad.
"Dwi'n cofio pan o'n i'n ochra' Belfast... dyma car yn dod fewn a'r drws cefn yn agor a stretcher yn cael ei luchio allan," meddai.
"Dyna lle o'dd o - bachgen bach rhyw 17 neu 18 â thwll mawr yn ei ben o.
"Ges i flashbacks. O'n i'n dechrau gweld y bachgen 'ma efo twll yn ei ben. O' chi'n gweld y flares.
"Gynnoch chi deimlad bod rhywun yn gwatshad chi drwy'r amser. Dwi 'di cael psychiatric therapy am PTSD.
"Cyn hynny, o'n i'n gweld bob man o'n i'n mynd o'n i'n sbïo ar dop tŷ - ffenest yn agored - car yn dod rownd gornel, o'dda chi'n sbïo ar y car.
"Gathon ni dân rownd gornel ac o'n i'n gweld y fire brigade. 'Naeth o newid o dân a police i rioters.
"O'dd bob dim yn mynd yn green. Nes i just troi rownd ac o'n i'n fy ngwely am ddau ddiwrnod."

Mae Stephen Hughes yn dweud ei fod wedi colli sawl ffrind sydd wedi ei chael hi'n anodd ymdopi ar ôl gadael y fyddin
Er iddo gael triniaeth bryd hynny, gan ddiolch i'r gwasanaeth iechyd, mae Tony yn galw am fwy o gefnogaeth i gyn-filwyr.
Mae nifer o gyn-filwyr eisiau gweld un gwasanaeth penodol yn cael ei sefydlu fel bod hi'n symlach cael cefnogaeth.
"Mae 'na gymorth yna ond ma' rhaid chi chwilio'n galed amdano fo de," meddai.
'Wedi colli 'dwn i'm faint o ffrindiau'
Roedd digwyddiad diweddar yng Nghaernarfon yn gyfle i rai fel Tony weld cyn-filwyr eraill a hel atgofion am y da a'r drwg.
Ag yntau wedi gwasanaethau am 24 blynedd, mae Stephen Hughes o Nebo wedi colli sawl ffrind ar ôl gadael y fyddin.
"'Da chi'n mynd i Iwerddon a 'da chi'n gwneud petha' yn fanna, ac es i i Bosnia," meddai.
"'Da chi'n gweld petha' yn Bosnia - mwy efo pobl sy'n byw yna. Ma' petha' fel 'na yn gwneud i chi deimlo'n ddrwg.
"Dwi'm 'di bod yn Afghanistan nag Irac, ond mae fanna hefyd yn agor petha' i bwy bynnag sy'n mynd yna.
"Ma' nhw'n gweld petha', a petha'n mynd drwy eu meddyliau nhw ac mae o'n dod allan fel PTSD yn diwedd am bo' nhw 'di gweld yr holl betha' yn y llefydd 'ma."

Mae digwyddiadau fel yr un diweddar yng Nghaernarfon yn cael eu hystyried yn rhai gwerthfawr iawn gan elusennau
"Dy'n nhw ddim yn gallu copeio achos ma' nhw 'di cael eu gwatshad ar ôl ers blynyddoedd ac wedyn ma' nhw'n dod allan i'r big wide world a dy'n nhw'm yn gw'bod be' i 'neud," ychwanegodd Stephen.
"Dydy ffrindia' nhw ddim yna, does 'na ddim byd yna iddyn nhw a ma' nhw'n stryglo i wneud y day to day - llenwi forms - be dwi'n 'neud yn fama?
"Stryglo a stryglo, ac wedyn ma' nhw'n give up... Mae 'na ambell un yn cymryd eu bywyd.
"Dwi 'di colli 'dwn i'm faint o ffrindia' trwy hynna, 'di cymryd eu bywyd achos bod nhw ddim yn gallu ffitio mewn i'r gymuned."
Cymorth i filwyr 'mor bell i ffwrdd'
Roedd Trefor Jones o Borthmadog wedi gwasanaethu gyda'r Gwarchodlu Brenhinol yn Iwerddon ac Irac.
"Lle 'da ni'n byw yng Ngwynedd, mae o 'chydig bach o black hole - ond os ydy veteran isho help, mae 'na help yna," meddai.
"Mae rhai yn rhy prowd i ofyn am help, ond fedrwch chi'm 'neud o'ch hun.
"'Da chi'n mynd i gofio petha' drwg a chofio petha' da - mae'n bwysig i siarad.
"Mae'n anodd ffeindio help yng ngogledd Cymru - mae bob dim mor bell i ffwrdd.
"'Da ni isio un lle, fatha'r digwyddiad 'ma yng Nghaernarfon - ma' pawb yn un lle.
"Office mewn un lle a bob un information yn fanno - psychiatrists, housing a petha' fel 'na. Un number i ffonio sy'n gwneud bob dim."

Hoffai Trefor Jones weld gwasanaeth symlach fel bod modd i filwyr dderbyn gwahanol fathau o gefnogaeth mewn un lle
Roedd elusennau yn y digwyddiad hefyd yn gweld angen am ddod ynghyd dan un to.
Dywedodd Chris Jones, sy'n gwirfoddoli gydag elusen Help for Heroes: "Mae 'na angen mawr am rywbeth fel hyn.
"Ma' lot o ffrindia' ysgol a'th i'r fyddin 'di bod ar flaen y gad yn Afghanistan, Irac, Bosnia, a dod allan o'r fyddin a dydy petha' ddim 'di bod yn iawn iddyn nhw.
"Ma' nhw'n gofyn am lety, arian, llefydd sydd fatha hwb, caffi, lle arlunio sy'n cael ei redeg gan Help for Heroes... ond ma' angen lot mwy."
Grwpiau sy'n 'achub bywydau' cyn-filwyr 'angen mwy o help'
- Cyhoeddwyd3 Medi 2025
Sut mae dod o hyd i bobl sy'n ffugio teitlau milwrol?
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Sul y Cofio: 'Meddwl am ffrindiau na sydd yma fyddai i'
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2025
Fel trefnydd y digwyddiad yng Nghaernarfon, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts AS ei bod yn credu bod "cyn-filwyr yng Ngwynedd a'r gogledd-orllewin yn cael eu gadael i lywio cymysgedd o wasanaethau cymorth ar eu pen eu hunain".
Ychwanegodd bod "gwerth clir mewn edrych ar ffyrdd y gallai gwasanaethau presennol weithio'n agosach gyda'i gilydd".
Ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd yr ysgrifennydd dros ogledd Cymru, Ken Skates fod "y gefnogaeth rydym yn ei gynnig i gyn-filwyr yng Nghymru'n cynnwys cyllid ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n rhoi cymorth iechyd meddwl ar draws y wlad, yn ogystal ag i Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog sy'n codi ymwybyddiaeth o anghenion cyn-filwyr ar draws awdurdodau lleol".
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod pryderon cyn-filwyr yng ngogledd-orllewin Cymru'n tanlinellu "bwlch gwirioneddol yn y ddarpariaeth" ac na ddylai cefnogaeth "ddibynnu ar god post yn unig".
Maen nhw'n galw am sicrhau "cysondeb mewn gwasanaethau ar draws Cymru gyfan".
Byddai Reform UK yn "gweithio gyda chyn-filwyr ac elusennau i wella'r gefnogaeth", meddai'r blaid, gan ychwanegu y dylai "cyn-filwyr chwarae rôl ganolog yn penderfynu beth ddylai'r gefnogaeth fod".
Ni wnaeth y pleidiau eraill ymateb i gais BBC Cymru am sylw.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.