Rheilffordd yr Wyddfa yn denu 'mwy a mwy' wrth ddathlu 130 mlynedd

Mae'n union 130 mlynedd ers agor Rheilffordd yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Mae Rheilffordd yr Wyddfa wedi cychwyn cludo pobl i fyny'r mynydd unwaith eto, ac mae eleni'n nodi carreg filltir bwysig yn ei hanes.
Mae'n union 130 mlynedd ers agor y rheilffordd ac mae cynlluniau i ddenu rhagor o ymwelwyr i'r dyfodol.
Cafodd Rheilffordd yr Wyddfa ei hadeiladu rhwng Rhagfyr 1894 a Chwefror 1896, am gyfanswm o bron i £64,000 bryd hynny.
Roedd 150 o weithwyr wedi defnyddio dim ond ceibiau, rhawiau a dynameit i osod bron i wyth cilometr o drac i fyny'r mynydd.
Ar ddydd Llun y Pasg, 6 Ebrill 1896, cychwynnodd y trên ar ei thaith gyntaf, ond roedd diweddglo trist i'r diwrnod wedi damwain angheuol.

"130 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r trên yn dal i bwffian ei ffordd i'r copa," medd Elin Tomos
"Ar y ffordd i lawr, aeth y locomotif stêm LADAS i drafferthion ychydig gannoedd o lathenni uwchben gorsaf Clogwyn," esboniodd yr hanesydd Elin Tomos.
"Collodd yr injan ei gafael ar ganol y cledrau gan achosi'r trên i gyflymu.
"Ar droad uwchlaw Cwm-glas aeth LADAS oddi ar y cledrau a llithrodd y cerbyd dros y dibyn i'r cwm islaw.
"Llwyddodd y rheolwr i godi'r brêc gan atal y cerbydau eraill rhag rhuthro dros yr ochr, gofynnwyd i'r holl deithwyr i aros yn eu seddi ac i beidio â chynhyrfu.
"Er gwaetha'r gorchymyn, neidiodd un teithiwr o'r enw Ellis Roberts - perchennog Gwesty'r Padarn Villa Llanberis - allan o'i sedd."

Trên 'Moel Siabod'
Bu'n rhaid torri coes dde Mr Roberts yn y fan a'r lle a bu farw'r diwrnod canlynol.
Ychwanegodd Elin Tomos: "Byddai damwain angheuol fel hyn ar ddiwrnod cynta'r fenter wedi bod yn ddigon i sawl cwmni.
"Ond dal ati wnaeth Snowdon Mountain Tramroad and Hotels Company Limited ac fe ailagorwyd y llinell yr hydref hwnnw.
"130 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae'r trên yn dal i bwffian ei ffordd i'r copa."

Trên yr 'Wyddfa'
Ond mae 'na amodau heriol wedi bod ar hyd y blynyddoedd, gyda thywydd garw neu broblemau technegol weithiau'n dod â'r gwasanaeth i stop.
Mae tair injan stêm oedd yn cael eu defnyddio o'r cychwyn yn dal mewn gwasanaeth heddiw - Yr Wyddfa, Moel Siabod a Padarn - ac ymhlith y mwyaf poblogaidd gyda'r ymwelwyr.
Ddiwedd y 1980au fe ychwanegodd y cwmni drenau disel at y fflyd, gan ddod â chyfnod newydd yn eu hanes.
Trobwynt arall oedd agor drysau Hafod Eryri yn 2009 - canolfan ymwelwyr ucha' Cymru a gipiodd sawl gwobr dylunio.

Mae'r traciau yn aml yn wynebu tywydd garw
Fe gyrhaeddodd y Fflam Olympaidd y copa yn 2012, a'r mynyddwr adnabyddus Syr Chris Bonnington yn dal y trên fyny am y tro cyntaf yn ei fywyd.
Wrth ailagor am eleni, mae nifer o newidiadau wedi'u cyflwyno i geisio apelio at fwy o ymwelwyr.
Yn eu plith mae'r sinema yn yr orsaf wedi ei ailwampio i adlewyrchu dechrau'r 20fed ganrif, pan oedd y rheilffordd yn ei dyddiau cynnar.
Yno mae ymwelwyr yn gwylio ffilm o hanes y rheilffordd cyn cychwyn ar eu taith i fyny'r Wyddfa.
Mae'r gofod hefyd ar gael i ddigwyddiadau cymunedol.

"Fydd pobl wastad eisiau mynd fyny'r mynydd - boed hynny efo trên neu gerdded," yn ôl Steve Williams
"Ma'r rheilffordd yn bwysig iawn yn hanes y pentre'," meddai Steve Williams o Reilffordd yr Wyddfa.
"Ma' rhywun o unrhyw deulu yn Llanberis wedi gweithio yma dros y 130 mlynedd, felly mae'n bwysig iawn i ddathlu'r pen-blwydd eleni.
"Fydd pobl wastad eisiau mynd fyny'r mynydd - boed hynny efo trên neu gerdded - yn enwedig efo lot o Instagram a Tiktok a phethau fel 'na yn mynd yn boblogaidd.
"Dwi'n teimlo bod ni ond yn gweld mwy a mwy o bobl yn dod bob blwyddyn i gael y lluniau a'r fideos arbennig yna."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.