Dau gefnder 13 oed yn cychwyn papur bro newydd yng Ngwynedd

Llun o Caio a Celyn yn gafael mewn copi o Papur y Bobl
Disgrifiad o’r llun,

Caio (chwith) a Celyn sydd wedi cychwyn y fenter newydd

GanAnest Eirug
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion pentref ger Caernarfon yn cael y newyddion lleol diweddara' diolch i ddau gefnder sydd wedi sefydlu papur bro newydd.

Mae Celyn a Caio o Rostryfan yn gyfrifol am gynhyrchu a dosbarthu Papur y Bobl - papur bro newydd i'r ardal.

Mae'r ddau yn 13 oed ac yn ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen, ac wrth eu bodd yn creu cynnwys ar gyfer y papur.

Mae Caio o'r farn bod nhw'n gwneud "gwaith pwysig".

"Dwi'n meddwl bod o'n rhoi llais i bobl y pentre' a rhoi lle i'r gymuned siarad," meddai.

Llun o Caio yn gwenu ar y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caio yn dweud fod Papur y Bobl yn rhoi llais i'r gymuned

Celyn yw gohebydd y papur, ac felly ei swyddogaeth ydy ysgrifennu a dod o hyd i straeon.

Er bod y papur yn un wythnosol, dydy dod o hyd i straeon newydd ddim yn broblem iddo.

"Gan bod ni'n nabod pawb yn y pentre', 'da ni'n gwybod sut i roi cyfweliadau i bobl a lle maen nhw'n byw," meddai.

"Da' ni wrth ein boddau yn ffeindio straeon gwahanol, a da' ni'n ffeindio petha' bob wythnos so ma' hynny yn beth da."

Mae'n bapur "llwyddiannus iawn" yn ôl Celyn, ac maen nhw wedi ei ddosbarthu i dros 40 o dai.

"Dwi wedi dod i adnabod y gymuned, a dwi wrth fy modd yn cymysgu efo pobl eraill wrth ei ddosbarthu o," meddai Celyn.

Llun o Celyn yn gwenu ar y camera. Mae sawl gitar yn y cefndir.
Disgrifiad o’r llun,

Celyn ydy gohebydd Papur y Bobl

Mae gan Papur y Bobl wasanaeth digidol hefyd, a Caio yw'r un sy'n gyfrifol am yr elfen honno o'r papur bro.

"Rhan fwyaf o'r amser fi ydy adran technegol bob dim," meddai.

"Felly fi sy'n rhoi bob dim ar YouTube, editio pob dim a da' ni'n neud podlediad hefyd."

Yn ôl y ddau, gwaith tîm effeithiol yw'r allwedd tu ôl i'r cyfan.

"Da' ni'n ffraeo yn aml, ond diwrnod newydd a 'da ni'n iawn wedyn," meddai Caio.

"Bysa fi ddim yn gallu 'neud hyn heb Celyn, a ma' siŵr fyse Celyn yn dweud hebdda fi fysa fo methu chwaith, so 'da ni angen gweithio efo'n gilydd i gadw'r papur bro i fynd."

Ychwanegodd Celyn y byddai "wir wrth fy modd yn bod yn newyddiadurwr, neu yn ohebydd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Trending Now