'Cynnig bywyd ar ôl bywyd' - Y derwydd sydd eisiau compostio cyrff

Kristoffer Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kristoffer Hughes wedi treulio 30 mlynedd yn gweithio mewn marwdai yn y DU a'r Unol Daleithiau

GanGareth Wyn Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

"'Da ni wedi hen arfer bod marwolaeth yn dod â rhywbeth i'w ben... ond yma mae elfen ohonyn nhw yn gorfforol dal yn fyw... bywyd ar ôl bywyd."

Tydy marwolaeth ddim yn bwnc y mae llawer o bobl yn hoffi ei drafod, gyda rhai yn anghyfforddus wrth wneud hynny.

Ond wedi ei ysbrydoli yn dilyn trip i'r Unol Daleithiau, mae derwydd o ogledd Cymru yn gobeithio agor y drafodaeth a darparu gwasanaeth o'r newydd.

Mae'r broses o amddaearu - neu gompostio dynol - yn troi gweddillion pobl yn bridd, gan gynnig dewis mwy ecogyfeillgar na chladdu neu amlosgi.

Ond er bod y syniad yn un hollol newydd yn y DU, mae eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau o'r Unol Daleithiau, lle gall teuluoedd wedyn ddefnyddio'r pridd i blannu coed neu adfer tirweddau naturiol.

Yn ôl Kristoffer Hughes, mae'r broses yn ddilyniant o draddodiadau hynafol sy'n rhoi pwyslais ar gylch naturiol bywyd a marwolaeth.

Dr William Price 'yn ysbrydoliaeth'

Nid Kristoffer ydy'r Cymro cyntaf i obeithio trawsnewid y ffordd mae cymdeithas yn delio gyda'r corff wedi i berson farw.

Roedd Dr William Price yn un o ffigyrau amlycaf Cymru yn y 19eg ganrif, ac ymysg ei lwyddiannau oedd ei rôl wrth gyfreithloni'r drefn o amlosgi (cremation).

Pan fu farw mab Dr Price pan ond yn bum mis oed yn 1884, fe benderfynodd amlosgi ei gorff yn Llantrisant ger Pontypridd.

Ond oherwydd mai'r gred ar y pryd oedd bod amlosgi yn anghyfreithlon, cafodd Dr Price ei arestio.

Llwyddodd Dr Price, serch hynny, i berswadio'r llys nad oedd unrhyw gyfraith yn bodoli yr un ffordd na'r llall, gan arwain yn y pen draw at Ddeddf Amlosgi 1902.

Tri llun gwahanol: William Price fel meddyg ifanc, portread o William Price (c.1870) a William Price gyda'i ffrind Robert Anderson
Disgrifiad o’r llun,

Dr William Price fel meddyg ifanc, portread o William Price (c.1870) a William Price gyda'i ffrind Robert Anderson

Yn ôl Kris, sy'n byw ym Modorgan ar Ynys Môn, mae Dr Price wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo ar hyd ei yrfa, sydd wedi cynnwys blynyddoedd yn gweithio mewn marwdai ar draws y DU a'r UDA.

"Mi oedd 'na kickback anferth... mi gymrodd ddegawdau i bobl newid eu meddyliau am hynny.

"Ond mae o wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi."

'Pobl yn fwy agored i gael y sgyrsiau 'ma'

Daeth Kris ar draws y broses o amddaearu tra'n ffilmio cyfres S4C yn 2024 - Marw Gyda Kris - rhaglen y mae'n dweud cafodd "dderbyniad anhygoel".

Ar gyfer un pennod fe deithiodd i dalaith Washington ar arfordir gorllewinol yr UDA, gan ymweld â chanolfan 'Return Home'.

Blwch gyda gwellt a blodauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r blychau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y broses yn yr UDA, wedi ei addurno gyda blodau

Yn hytrach na chladdu neu losgi cyrff, yna mae'r corff yn cael ei roi mewn blwch sydd hefyd yn cynnwys deunydd fel gwellt, llwch lli a blodau.

Oherwydd y gwres sy'n cael ei greu yn naturiol, ar ôl deufis y cyfan sydd ar ôl ydy tua 250 pwys, neu 110kg, o bridd.

Mae'r pridd yma wedyn yn mynd i deulu a ffrindiau'r person er mwyn ei ddefnyddio fel compost mewn unrhyw ffordd y mynnir.

Disgrifiad,

'Cynnig bywyd ar ôl bywyd' - Y derwydd sydd eisiau compostio cyrff

Er bod y dechneg yn un gymharol newydd, mae Kris ei fod yn awyddus i weld canolfannau tebyg yn agor yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU.

Gyda Chris Cooper-Hayes, sydd â chefndir proffesiynol mewn tirlunio, mae'r ddau wedi sefydlu Eterrna.

Maen nhw'n gobeithio mai'r fenter fydd y cyntaf yn y DU i gynnig compostio dynol o'r fath.

Ond fel yng nghyfnod Dr Price gydag amlosgi, ansicr ydy'r gyfraith ar hyn o bryd ynghylch amddaearu.

O ganlyniad mae Comisiwn y Gyfraith wedi lansio ymgynghoriad blwyddyn o hyd yn adolygu dulliau newydd, sy'n cynnwys amddaearu.

Y disgwyl yw bydd yr adolygiad yn darparu fframwaith newydd i newid y gyfraith bresennol, gan gynnwys amlosgi dŵr - proses sydd ei eisoes wedi ei chyfreithloni yn yr Alban.

Amddaearu yn broses 'eitha' hyfryd'

"Dwi'n hynod gyffrous am y syniad a bod pobl yn fwy agored i gael y sgyrsiau 'ma," ychwanegodd Kris.

"[Ar y diwedd] does 'na ddim ogla drwg o gwbl, ac yn sicr ddim ogla sa ti'n ei gysylltu gyda rhywbeth sydd wedi marw neu wedi pydru, mae'r ogla fel glaw ar y ddaear... mae'n eitha neis.

"Ac i feddwl ond mis yn gynharach oedd beth oedd yn y blwch 'na yn gorff marw... mae'r broses o amddaearu yn un eitha' hyfryd.

"Wnaeth unrhyw ofn gen i o farw ddiflannu."

Compost yn dod allan o beiriantFfynhonnell y llun, Ffilmiau TwmTwm
Disgrifiad o’r llun,

Ar ddiwedd y broses, tua deufis wedyn, mae compost yn cael ei roi i deuluoedd a ffrindiau y person a fu farw

Ychwanegodd: "Dydy o ddim yn teimlo bod yr ymadawedig wedidiflannu, mae 'na rywbeth yn digwydd iddyn nhw ac mae'r egni yn eu corff nhw yn trawsnewid i fod yn rywbeth defnyddiol i'r ddaear, nid just bedd oer a carreg.

"Ges i'n synnu a fy ngwirioni gan yr holl beth.

"Ar ddiwedd fy mywyd i fedra'i droi rownd i'r ddaear a dweud, dyma 250 pwys o gompost, dos i nôl chydig o goed neu panas... a rhoi rhywbeth yn ôl i'r ddaear.

"'Da ni'n rhedeg allan o le i gladdu, ac mae nwy [ar gyfer amlosgi] yn finite.

"Mae o'n resymol bod y llywodraeth yn edrych ar ffyrdd amgen i ddelio hefo'r corff."

Ond i Kris, mae'r syniad o allu dilyn llwybr tebyg i Dr William Price, tua 140 mlynedd wedyn, yn sicr yn un sy'n apelio.

"Mae'r syniad fod 'na dderwydd Cymraeg yn y ganrif yma am fod yn rhywun sy'n dod â newid arall i'r byd yna, yn gwneud i mi deimlo rhywsut bod rhyw fath o gyswllt rhamantus rhwng fi a Dr Price yn y gorffennol pell.

"Mae hynny'n syniad hyfryd."

Dywedodd swyddog ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym yn ymwybodol o'r diddordeb cynyddol mewn dulliau angladdol amgen a byddwn yn ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith maes o law."

Fodd bynnag, byddai'r mater yn parhau i fod wedi'i ddatganoli i Gymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn dilyn adroddiad Comisiwn y Gyfraith ac y byddan nhw'n "ystyried yr oblygiadau datganoledig unwaith y bydd wedi ei gyhoeddi".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now