Lansio cwrs gofal plant Cymraeg i 'lenwi bwlch' am weithwyr dwyieithog

Mae gan Goleg y Cymoedd dros 12,000 o ddysgwyr ar draws pedwar campws yn Aberdâr, Rhondda, Nantgarw ac Ystrad Mynach
- Cyhoeddwyd
Mae coleg yn ne Cymru yn lansio cwrs gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn "llenwi bwlch" sy'n bodoli am weithwyr dwyieithog yn y maes.
Mae Coleg y Cymoedd yn lansio cwrs Gofal Plant Lefel 2 o fis Medi ar gampws Nantgarw, a dyma'r un galwedigaethol cyntaf i'r coleg ei gyflwyno yn gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gobaith y coleg ydy "llenwi bwlch rhanbarthol ar gyfer darpariaeth lefel dau cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru a chefnogi dysgwyr i symud ymlaen i astudiaethau pellach a gyrfaoedd ym maes gofal plant".
Y tiwtor Lois Moremon o Gaerffili sy'n arwain y rhaglen, a dywedodd fod gofal plant yn "sector lle gall gallu siarad Cymraeg wneud gwahaniaeth gwirioneddol".

Mae gofal plant yn "sector lle gall gallu siarad Cymraeg wneud gwahaniaeth gwirioneddol", medd Lois Moremon
Dywedodd y coleg y bydd y cwrs newydd yn adlewyrchu'r galw cynyddol am sgiliau dwyieithog ar draws y sectorau gofal plant a gofal cymdeithasol.
Maen nhw'n dweud bod medru cyfathrebu'n Gymraeg yn rhoi "mantais cyflogadwyedd amlwg" i ddysgwyr sydd eisiau gweithio gyda phlant, teuluoedd a chymunedau.
Mae'r datblygiad yn rhan o ymrwymiad ehangach gan Goleg y Cymoedd i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y sefydliad.
Ychwanegon nhw eu bod hefyd yn "cefnogi ymdrechion cenedlaethol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050", gan gyfeirio at ganfyddiadau diweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg - oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cryfhau cyfleoedd i ddysgwyr.

Bydd y cwrs Gofal Plant Lefel 2 newydd yn dechrau fis Medi
Yn ôl Lois Moremon, mae llawer o'u dysgwyr yn "mynd ymlaen i weithio mewn meithrinfeydd, lleoliadau blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymunedol".
Maen nhw'n feysydd lle mae "ymgysylltu â phlant a theuluoedd yn y Gymraeg yn hynod bwysig", meddai.
"Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr astudio a datblygu eu sgiliau proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg."
Ychwanegodd y byddai hefyd yn "meithrin hyder wrth ddefnyddio'r iaith mewn lleoliadau byd go iawn, gan helpu i agor drysau i gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol".
'Cefnogi uchelgeisiau iaith genedlaethol'
Dywedodd Jonathan Morgan, pennaeth Coleg y Cymoedd: "Rydyn ni'n falch o'n cwrs galwedigaethol sy'n cael ei gynnig yn gyfan gwbl drwy'r iaith Gymraeg fel rhan o'n hymrwymiad i ehangu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar draws y coleg.
"Mae darparu cyfleoedd i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg nid yn unig yn cefnogi uchelgeisiau iaith genedlaethol ond hefyd yn helpu i ddarparu dysgwyr â sgiliau gwerthfawr y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt fwyfwy.
"Bydd cynnig llwybrau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg o Lefel 2 yn cryfhau'r llwybr dilyniant i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg ac yn cefnogi datblygiad gweithlu dwyieithog ar draws sectorau allweddol.
"Bydd ein cwrs gofal plant newydd yn cefnogi dysgwyr i gynnal a meithrin eu sgiliau iaith Gymraeg wrth symud ymlaen i yrfaoedd lle mae cyfathrebu dwyieithog yn cael ei werthfawrogi fwyfwy," meddai Mr Morgan.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.