Torri nifer y rhanbarthau er mwyn rhoi 'arian cystadleuol' iddyn nhw

Gobaith URC yw cael un tîm proffesiynol yn y dwyrain, un yng Nghaerdydd ac un yn y gorllewin
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n bwrw ymlaen â chynlluniau dadleuol i dorri'r timau rhanbarthol o bedwar i dri er mwyn iddyn nhw allu rhoi "arian cystadleuol" iddyn nhw.
Dywedodd yr undeb hefyd eu bod wedi sicrhau ailstrwythuro cyllid ar raddfa fawr, ond mae nhw wedi cyfaddef nad oedd y cytundeb newydd yn ddibynnol ar dorri nifer y timau proffesiynol.
Fe wnaeth penaethiaid rygbi Cymru, Abi Tierney a Richard Collier-Keywood, ymddangos gerbron ASau yn San Steffan ddydd Mercher.
Dywedon nhw fod y "graig economaidd yr ydym arni yn llawer cryfach" gan eu bod wedi ad-dalu'r benthyciad Covid o £18m gan Lywodraeth Cymru.
'Rhwystredig iawn'
Yn y sesiwn hefyd, rhoddodd cynrychiolwyr clybiau cefnogwyr eu barn ar yr argyfwng y mae rygbi Cymru yn ei wynebu a sut mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymdrin ag ef.
Gofynnodd AS Plaid Cymru, Ben Lake, i Lynn Glaister, o grŵp cefnogwyr annibynnol Caerdydd, Ymddiriedolaeth Rygbi CF10, sut roedd hi'n teimlo am sefyllfa berchnogaeth bresennol y clwb, wrth i URC gynnal trafodaethau gyda pherchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media, i drafod y posibilrwydd o brynu Rygbi Caerdydd.
"Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ei eisiau yn fwy nag unrhyw beth yw dyfodol cadarnhaol lle na fyddwn yn cael ein gweld am byth fel y bobl sydd wedi lladd tîm arall," meddai.
"Hefyd y ffaith nad ydym mewn gwirionedd yn gwybod beth yw'r fargen... ac mae'n rhwystredig iawn."
Rhoddodd cadeirydd y pwyllgor, yr AS Llafur Ruth Jones, y gair olaf yn y gwrandawiad i is-gadeirydd Clwb Cefnogwyr y Gweilch, Grant Berni.
"Os nad yw lleihau nifer y clybiau proffesiynol yn gwella perfformiad cyffredinol y timau elitaidd a'r tîm cenedlaethol efallai na fyddwn byth yn gwella o hyn," rhybuddiodd.
Gan apelio at Undeb Rygbi Cymru, ychwanegodd: "Peidiwch â rheoli ein dirywiad, ein gêm ni yw hi."
Cyhoeddodd URC ym mis Hydref 2025 eu bod yn bwriadu rhoi tair trwydded i glybiau proffesiynol y dynion.
Bydd un yng Nghaerdydd, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd9 Ionawr

- Cyhoeddwyd25 Hydref 2025
