Tribiwnlys i glywed apêl yn erbyn cymhorthdal Maes Awyr Caerdydd

Adeiladau maes awyr Caerdydd, gyda'r geiriau "Croeso i Gymru" yn goch a "Welcome to Wales" yn wyn ar wal ddu. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ers 2013 mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn berchen ar Faes Awyr Caerdydd

GanHuw Thomas
Gohebydd Busnes BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd cymhorthdal o £205.2m i Faes Awyr Caerdydd yn cael ei herio gan Faes Awyr Bryste mewn tribiwnlys ddydd Llun.

Mae disgwyl i gyfreithwyr Maes Awyr Bryste ddadlau bod maint y cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru yn ddigynsail yn niwydiant hedfan y DU ac yn groes i reolau cystadleuaeth.

Bydd y llywodraeth yn ymateb yn y tribiwnlys, ond eisoes wedi amddiffyn eu cynllun 10 mlynedd i fuddsoddi yn y maes awyr, sydd wedi bod yn eiddo i weinidogion Bae Caerdydd ers 2013.

Mae disgwyl i dribiwnlys yr apêl gystadleuaeth bara dau ddiwrnod.

Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymhorthdal gwerth £205.2m i Faes Awyr Caerdydd, gyda £20m eisoes wedi'i neilltuo i'w wario yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Byddai'r cyfanswm llawn yn cael ei dalu dros 10 mlynedd.

Dywedodd gweinidogion y byddai'r cymhorthdal yn cefnogi cyfleusterau cynnal a chadw newydd, siediau awyrennau a chargo.

Bydd llwybrau hedfan newydd yn cael eu datblygu hefyd, gan ganolbwyntio ar hybiau byd eang a all gefnogi twf economaidd Cymru.

Awyren oren a gwyn EasyJet o flaen adeiladau maes awyr Bryste a ddiwrnod heulog, er bod y tarmac yn wlyb.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cymhorthdal yn groes i reolau cystadleuaeth, yn ôl Maes Awyr Bryste

Ar ôl gweld maint a manylion y cymhorthdal fe wnaeth Maes Awyr Bryste apêl i dribiwnlys yr apêl gystadleuaeth ym mis Gorffennaf 2025, gyda gwrandawiad wedi'i drefnu ar gyfer mis Chwefror.

Mae disgwyl i Faes Awyr Bryste ddadlau bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cyfateb i gymhorthdal o £71.50 y pen i bob teithiwr, a'r trethdalwr fyddai'n talu i bobl fynd ar wyliau o Faes Awyr Caerdydd.

Bydd Bryste hefyd yn honni y gallai teithwyr a chwmnïau hedfan gael eu tynnu i ffwrdd o Faes Awyr Bryste drwy ddulliau nad oedd yn gystadleuol.

Bydd y maes awyr hefyd yn dadlau y dylid fod wedi trin Maes Awyr Caerdydd fel "menter wael neu ansolfent" yn ystod adolygiad o'r cymhorthdal, sef categori cyfreithiol a fyddai wedi sbarduno gwiriadau ychwanegol cyn bod modd defnyddio arian cyhoeddus.

'Anghyfreithlon' ac 'anghymesur'

Y llynedd dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n amddiffyn yr her gyfreithiol gan Faes Awyr Bryste, dolen allanol, ac y byddai'n "ymladd dros ein gallu i fuddsoddi" yn ffyniant tymor hir Maes Awyr Caerdydd ac "i lywio ei dynged economaidd".

Mewn datganiad cyn y gwrandawiad, dywedodd Maes Awyr Bryste fod cymhorthdal Llywodraeth Cymru "yn anghyfreithlon, yn anghymesur, ac y byddai'n niweidio cystadleuaeth rhwng meysydd awyr a chwmnïau awyrennau."

Ychwanegodd llefarydd ar ran y maes awyr y byddai'n "gofyn i'r tribiwnlys ddileu penderfyniad y cymhorthdal a wnaed gan Lywodraeth Cymru, y mae [Maes Awyr Bryste yn] credu a fethodd â chymhwyso egwyddorion rheoli cymorthdaliadau yn gyfreithlon, gan arwain at gymhorthdal na ddylai fod wedi'i rhoi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r gweinidogion yn cyflwyno eu safbwynt "drwy'r broses gyfreithiol briodol".

"Gan fod yr achos yn destun achos cyfreithiol, ni fyddai'n briodol i ni wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd."

Bydd panel o dri, dan gadeiryddiaeth Ben Tidswell, yn clywed apêl Maes Awyr Bryste yn erbyn y cymhorthdal a'r ymateb gan weinidogion Cymru.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara dau ddiwrnod, gyda phenderfyniad yn debygol o gael ei ohirio.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now