Cronfa newydd yn dod â 'gobaith' i sin cerddoriaeth draddodiadol Cymru

Perfformiwr ar faes Eisteddfod Wrecsam 2025Ffynhonnell y llun, Dafydd Nant
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gronfa yn rhoi grantiau o hyd at £25,000 i brosiectau sy'n cysylltu â chymunedau

GanSion Tootill
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cronfa newydd gwerth £200,000 i gryfhau cerddoriaeth draddodiadol Cymru wedi'i chyhoeddi.

Nod Cronfa Tradd, sydd wedi'i hariannu ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Thŷ Cerdd, yw cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn cerddoriaeth draddodiadol.

Yn ôl un cerddor mae'r gronfa'n dod â "gobaith" i'r diwydiant, ond mae'n pwysleisio mai "dim ond y cam cyntaf" yw hwn os yw'r sin gerddoriaeth draddodiadol am dyfu.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad diweddar sy'n rhybuddio gallai sin werin Cymru dod i ben o fewn cenhedlaeth "heb ymyrraeth frys".

'Brwydr debyg i'r iaith Gymraeg'

Bydd y gronfa yn rhoi grantiau o hyd at £25,000 "i brosiectau sy'n cysylltu â chymunedau drwy weithgarwch cyfranogi ym maes cerddoriaeth draddodiadol".

Mae Jordan Price Williams - aelod o'r band gwerin Vrï - yn croesawu'r gronfa newydd.

"Mae'n rhywbeth really bwysig fi'n credu.

"Am dipyn o flynyddoedd nawr dyw'r gymuned yma ddim wedi cael digon o arian i gefnogi ei hunain.

"Maen nhw'n dibynnu ar bobl yn gadael iddyn nhw wneud pethau am ddim a tydi hynny ddim yn sustainable."

Llun Jordan Price WilliamFfynhonnell y llun, Jennie Caldwell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan Price William yn rhan o'r band Vrï

Yn ogystal â'i waith gyda Vrï, mae Jordan yn gweithio fel rheolwr datblygu cerddoriaeth draddodiadol Tŷ Cerdd.

"Mae'n cymryd shwt gymaint o waith, egni ac amser i ddatblygu sgiliau sy'n angenrheidiol i symud ymlaen fel cerddor professional, ac os oes rhaid cael swydd llawn amser does dim digon o amser i ffocysu ar eich sgiliau creadigol chi," meddai.

"Y risg enfawr heb ymyrraeth yw bod y traddodiadau yma yn lleihau mewn poblogrwydd ac mae pawb yn anghofio am bopeth ac yna mae'n marw mas.

"Ni mewn brwydr debyg gyda'r iaith Gymraeg."

'Dechrau symud i'r cyfeiriad cywir'

Ond mae Jordan yn obeithiol bydd y gronfa'n ddechrau da o ran sicrhau dyfodol cerddoriaeth draddodiadol Cymru.

"Gyda'r gronfa yma mae cyfle i geisio am gymorth sy'n galluogi artistiaid ac yn golygu bydd mwy o gyfleoedd i gyrraedd cynulleidfa newydd gan, gobeithio, tyfu'r sin."

Ychwanegodd: "Dwi'n obeithiol mwy na unrhyw beth.

"I fi mae'n teimlo fel mae popeth yn dechrau symud i'r cyfeiriad cywir, ond dyma'r cam cyntaf yn unig dwi'n credu."

Mae'r gronfa ar agor i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n "gweithio yn nhraddodiadau Cymru neu'r byd, trefnwyr ar lawr gwlad sy'n darparu lleoedd ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol, a sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr creadigol a chymunedau targed sydd wedi'u diffinio'n glir".

Prif nodweddion y gronfa yw:

  • Grantiau unigol hyd at £10,000 i artistiaid sy'n arwain prosiectau cymunedol ar lawr gwlad;

  • Grantiau partneriaeth rhwng £2,000–£25,000 ar gyfer sefydliadau a cherddorion sy'n cydweithio;

  • Canolbwyntio ar weithgarwch cyfranogi dan arweiniad y gymuned yn hytrach na pherfformiadau'n unig;

  • Cefnogi traddodiadau amrywiol yng Nghymru gan gynnwys arferion cerddorol o Gymru a'r byd;

  • Pwyslais ar gysylltu pobl ifanc â cherddoriaeth draddodiadol a chyfnewid rhwng y cenedlaethau.

Dafydd Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Rhys yn obeithiol y bydd y buddsoddiad yn sicrhau bod traddodiadau diwylliannol pwysig yn parhau

Yn ôl Dafydd Rhys, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, mae'r gronfa yn "ymateb yn uniongyrchol i ganfyddiadau'r Adolygiad o Gerddoriaeth Draddodiadol yn 2025 a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan gydnabod bod angen cymorth ar bob lefel ar sector cerddoriaeth draddodiadol ffyniannus".

Dywedodd ei fod yn obeithiol y bydd y buddsoddiad yn "helpu i gryfhau ecosystem cerddoriaeth draddodiadol gyfan a sicrhau bod traddodiadau diwylliannol pwysig yn parhau i fyw a bod yn hygyrch i genedlaethau'r dyfodol".

Mae modd ymgeisio drwy borth Tŷ Cerdd tan 8 Ebrill.

Yna, bydd staff "yn asesu ansawdd ac arloesedd y syniad, dichonoldeb y cynllun, yr effaith bosibl, y Gymraeg, cynhwysiant ac aliniad â blaenoriaethau'r gronfa".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now