Cyn-gynghorydd yng Ngwynedd wedi ceisio 'dwyn arian' cyhoeddus

Iwan Huws
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Iwan Huws ei wahardd rhag bod yn gynghorydd am dair blynedd ym mis Rhagfyr ar ôl cael ei ganfod yn euog o dorri cod ymddygiad Cyngor Gwynedd

GanGareth Wyn Williams
Gohebwyr BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae panel wedi canfod bod cyn-gynghorydd sir yng Ngwynedd wedi dangos "diffyg parch at y cyhoedd" wrth geisio twyllo ei gyflogwr a "dwyn arian" oedd yn ddyledus i ddau gyngor lleol.

Yn 2023 derbyniodd Iwan Huws rybudd amodol gan yr heddlu am dwyll drwy gamddefnyddio swydd ar ôl ceisio twyllo ei gyflogwr ar y pryd, Cyngor Sir Ynys Môn.

Ond yn sgil cyhoeddi adroddiad llawn Panel Dyfarnu Cymru, mae wedi dod i'r amlwg ei fod, tra yn ei rôl fel Uwch-swyddog Morwrol Môn, wedi gofyn i gwmni cynhyrchu a oedd yn ceisio llogi Pier Biwmares ar gyfer ffilmio i drosglwyddo taliad o £3,000 i'w gyfrif banc ei hun yn hytrach nag i Gyngor Môn.

Er iddo ddileu'r negeseuon o'i flwch e-bost "mewn ymgais i geisio cuddio'r drosedd", fe wnaeth Cyngor Môn lansio ymchwiliad a arweiniodd at ymddiswyddiad Mr Huws ym mis Medi 2023.

Cafodd rybudd gan yr heddlu ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, gan hefyd ymddiheuro i Gyngor Môn.

Ond ar ôl methu â hysbysu swyddog monitro Cyngor Gwynedd o'r drosedd o fewn amserlen resymol hefyd, canfu'r panel bod y rhybudd a'i gamymddygiad "wedi dwyn anfri ar ei swyddfa a'i gyngor sir".

Cafodd ei wahardd rhag bod yn gynghorydd sir am dair blynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o dorri Cod Ymddygiad Cyngor Gwynedd ym mis Rhagfyr y llynedd.

Dywedodd Mr Huws ei fod yn ymddiheuro am "dorri'r safonau uchel sydd angen cadw atynt mewn swydd gyhoeddus".

'Wedi gwneud camgymeriad'

Mae derbyn rhybudd gan yr heddlu yn gyfaddefiad o euogrwydd, gyda Mr Huws yn derbyn ei fod wedi "camddefnyddio'i swydd fel swyddog mewn awdurdod cyhoeddus".

Mewn cyfweliad gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fe gyfaddefodd Mr Huws - a gafodd ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Bethel a'r Felinheli yn 2022 - ei fod wedi cyflawni'r drosedd ond "ei fod wedi ceisio datrys y broblem yn ei ffordd ei hun" ac "o dan gyfyngiadau amser" er mwyn prosesu cais y cwmni cynhyrchu.

Tra wnaeth dderbyn nad dyma'r drefn arferol, dywedodd y gallai codi archeb prynu swyddogol drwy'r cyngor "gymryd peth amser".

Gan gyfeirio at ei benderfyniad i ddileu'r e-byst a'r anfoneb a anfonodd at y cwmni, ychwanegodd Mr Huws ei fod wedi "dechrau panicio" ar ôl sylweddoli bod y cwmni wedi bod mewn cyswllt ag adran gyllid Cyngor Ynys Môn a dylai fod "wedi taflu ei gyfrifiadur i'r Fenai".

Derbyniodd ei fod "wedi gwneud camgymeriad" ond nad oedd wedi elwa'n ariannol.

Ond barn yr Ombwdsmon oedd bod Mr Huws wedi "dangos methiant o ran uniondeb ac ymgais i fod yn anonest tuag at gyllid cyhoeddus ei hun".

Yn dilyn hynny, canfu'r panel bod Mr Huws wedi "torri'r gyfraith a cheisio twyllo" Cyngor Ynys Môn, tra hefyd wedi "ceisio dwyn arian" a fyddai'n ddyledus i Gyngor Tref Biwmares am ffioedd parcio.

Nid "moment wan o ymddwyn yn wallgof oedd hyn", ond "cyfres o ddigwyddiadau lle'r oedd elfen o gynllunio a rhagfwriad".

Ac er bod Mr Huws wedi ymddiheuro, "cadw'r cyfan yn ddistaw a sicrhau na fyddai'i enw da na'i yrfa wleidyddol yn cael eu heffeithio gan ei ymddygiad" oedd ei fwriad.

Cyn cael ei gyflogi fel Uwch-swyddog Morwrol yng Nghyngor Sir Ynys Môn, roedd wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cymru gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac am gyfnod fel Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri.

Roedd hefyd wedi sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru dros Aberconwy yn Etholiad Cynulliad Cymru 2011, gan ddod yn ail.

Yn dilyn ymddiswyddiad Mr Huws fel cynghorydd sir yng Ngwynedd, cyn cynnal gwrandawiad y panel, fe lwyddodd Gwion Emyr i gadw'r sedd i Blaid Cymru yn yr isetholiad a ddilynodd.

Mae Mr Huws yn dweud ei fod yn ymddiheuro am "dorri'r safonau uchel sydd angen cadw atynt mewn swydd gyhoeddus".

"Nid yw ymddygiad fel hyn yn dderbyniol, hoffwn ymddiheuro o waelod calon am achosi pryder i fy nheulu a fy ffrindiau," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now