Cam-drin: Chris Bryant yn galw am un ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Chris Bryant
Disgrifiad o’r llun,

Chris Bryant: 'Naw ymchwiliad yn cael eu cynnal ac mae 'na wir bryder na fyddwn ni'n dysgu dim ...'

Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi dweud bod angen un ymchwiliad i'r sgandal cam-drin plant a thrafferthion y BBC yn sgil hynny yn lle naw ymchwiliad gwahanol.

Roedd sylwadau Chris Bryant, AS Y Rhondda, ar ôl i adroddiad rhaglen Newsnight am honiadau o gam-drin gysylltu gwleidydd Ceidwadol yn gamarweiniol gydag achosion cam-drin cartrefi plant yng ngogledd Cymru yn yr 1980au.

Ddydd Sadwrn ymddiswyddodd George Entwistle Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC. Ddydd Llun camodd dau o benaethiaid newyddion y gorfforaeth o'r neilltu.

"Mae 'na naw ymchwiliad yn cael eu cynnal ac mae 'na wir bryder na fyddwn ni'n dysgu dim ...," meddai Mr Bryant, cyn-uwchswyddog yn y BBC.

"Yr hyn sydd ei angen ydi un ymchwiliad trylwyr â'r pwerau llawn i sefydlu'r gwir am gam-drin sy' wedi mynd ymlaen yn llawer rhy hir.

"Mae pethau wedi eu sgubo o dan y carped.

"Un peth y mae'n rhaid ei gofio yn y panig cyfryngol ydi ei bod yn llawer llai tebygol i ddyn dierth gam-drin ...

"Mae'r mwyafrif o gam-drin yn digwydd o fewn y teulu."

Ar gam

Eglurodd y byddai un ymchwiliad yn gallu disodli'r ymchwiliadau presennol neu eu cyfuno.

Roedd Mr Entwistle wedi bod yn delio gyda'r ymateb wedi i adroddiad ar raglen Newsnight ar Dachwedd 2 gysylltu ar gam y cyn-wleidydd Ceidwadol, Yr Arglwydd McAlpine, ag achosion cam-drin mewn cartrefi gofal yn yr 1980au.

Chafodd Yr Arglwydd McAlpine ddim ei enwi yn yr adroddiad.

Wythnos yn ddiweddarach dywedodd Steve Messham - a wnaeth yr honiadau gwreiddiol - ei fod wedi cam-adnabod y gwleidydd ac ymddiheurodd yn ddiffuant.

Cafodd Mr Entwistle ei feirniadu am nad oedd yn gwybod am gynnwys y rhaglen tan ar ôl iddi gael ei darlledu ac oherwydd nad oedd yn ymwybodol o adroddiad papur newydd oedd yn cyhoeddi'r cam-adnabod.

Roedd yn ei swydd am 54 diwrnod.

Ddydd Llun camodd Cyfarwyddwr Newyddion y BBC, Helen Boaden, a'i dirprwy, Stephen Mitchell o'r neilltu wrth i Nick Pollard ymchwilio i reolaeth Newsnight yng nghyd-destun peidio â darlledu adroddiad am honiadau cam-drin rhywiol y cyn-gyflwynydd teledi Jimmy Savile.

Mae Ysgrifennydd Cymru, David Jones, wedi dweud bod rhaid i'r BBC fynd i'r afael â'i threfniadaeth er mwyn adfer hyder yn safon ei newyddiaduraeth.

Straeon perthnasol

Trending Now