Pryder tad bod Covid-19 yn oedi sgan canser prin

  • Cyhoeddwyd
Alex Lovell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex Lovell yn poeni bod ei ferch fach yn aros yn hir cyn cael sgan

GanGarry Owen
Gohebydd Arbennig BBC Cymru

Mae elusen canser yn poeni am yr effaith y mae Covid-19 yn ei gael ar holl wasanaethau canser yng Nghymru.

Dywedodd Andy Glyde, rheolwr Cancer Research UK yng Nghymru ei fod yn "poeni fod oedi mewn profion a diagnosis yn mynd i arwain at adnabod y cyflwr yn hwyrach ac felly bydd hi'n anoddach i'w drin".

Mae e hefyd yn poeni y gall oedi achosi pryder i gleifion sydd ddim â chanser.

Yn ôl yr elusen mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol barhau i weithio i "ddatblygu safleoedd diogel yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau bod profion a thriniaeth canser yn gallu digwydd.

"Rhaid cael cyn lleied o bethau â phosib yn amharu ar y gwaith.

"Mae hefyd yn bwysig fod pobl yn teimlo'n ddiogel i gysylltu â'u meddyg teulu os ydynt yn credu bod yna arwyddion neu symptomau posib o ganser," meddai Mr Glyde.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai unrhyw faterion brys gan gynnwys triniaethau canser barhau pan fo hynny'n ddiogel ac er lles y claf.

'Methu cael sgan i'r ferch fach'

Roedd yr elusen yn ymateb i bryder teulu o ardal Pen-y-bont-ar Ogwr sydd wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf eu bod yn poeni am oedi yn y system wrth drefnu sgan ganser ar gyfer ei merch fach flwydd oed sydd wedi cael diagnosis o ganser prin.

Union flwyddyn yn ôl fe gafodd Alys Jade, o Coety, wybod bod ganddi neuroblastoma sydd yn effeithio ar tua 100 o blant bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig - fel arfer plant o dan bump oed. Roedd Alys yn wyth wythnos oed ar y pryd.

Dywedodd ei thad Alex Lovell nad oedd problem o ran apwyntiadau i siarad â meddyg yn ystod y pandemig ond mae nhw'n poeni eu bod nhw yn gorfod disgwyl am sgan.

Roedd Alys i fod i gael sgan ddeufis yn ôl. Mae'r teulu yn dal i aros. Yn ôl Mr Lovell, mae nhw wedi cael dyddiad ond mae nhw'n poeni y gallai hwnnw gael ei ohirio.

'Rhaid cymryd y feirws o ddifri'

Mae Mr Lovell yn dweud bod y sgan yn bwysig eithriadol iddyn nhw fel teulu gan mai dyma y ffordd fwyaf effeithiol o wybod yn union sut mae pethau o ran iechyd ei merch fach.

Mae Alys yn "gwneud yn ardderchog" ar y funud, yn ôl ei thad. Ond maen nhw yn poeni am yr oedi cyn cael sgan.

Cancer scanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cancer Research UK yn poeni bod oedi mewn profion a diagnosis o ganser

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ar y 13eg o Fawrth wedi dweud y dylid atal triniaethau sydd ddim yn rhai brys er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig.

Ond roedd e'n gwbl glir y dylai unrhyw faterion brys gan gynnwys triniaethau canser barhau pan bo hynny'n ddiogel ac er lles y claf.

Yn y cyfamser mae Mr Lovell yn apelio ar bawb i ystyried yn ofalus beth yw effaith y pandemig ar y bobl o'u hamgylch ac mae'n gobeithio y bydd clywed am eu sefyllfa nhw fel teulu yn help i sicrhau fod pob un yn cymryd y feirws "o ddifri".

Straeon perthnasol

Trending Now