Diweddarwyd: 4 Mawrth 2021
Gallwch nawr droi at gynnwys y BBC drwy Amazon Echo a Google Home. Yn y dyfodol, byddwn yn cefnogi hyd yn oed mwy o ddyfeisiau syân cael eu rheoli â llais.
Pa gynnwys gan y BBC sydd ar gael ar Google Home?
BBC Sounds
Gallwch wrando ar eich hoff orsafoedd radioâr BBC. Dywedwch: "Ok Google, play BBC [gorsaf radio]. Edrychwch ar restr o orsafoedd radioâr BBC. Edrychwch ar restr o orsafoedd radioâr BBC.
Newyddion
Gallwch gael BBC News, World Service News a BBC Minute. Dywedwch âOK, Google, play the newsâ. Darllenwch sut i osod ffynonellau newyddion yn ap Google Home
Ar hyn o bryd, gallwch gael mynediad at gynnwys y BBC are Google Home heb fewngofnodi.
Pa gynnwys gan y BBC sydd ar gael ar Amazon Echo?
BBC Sounds
Gyda BBC Skill, gallwch wrando ar eich hoff orsafoedd radioâr BBC, a chwarae ein holl gynnwys ar-alw, gan gynnwys rhaglenni, podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Dysgwch am rai gorchmynion ar gyfer BBC Sounds ar Amazon Echo/Alexa.
Newyddion rhyngweithiol
I gael y newyddion diweddaraf, dywedwch "Give Me BBC News" wrth seinydd clyfar wediâi hwyluso gan Alexa.
I symud drwyâr straeon hyn: âAlexa, nextâ.
I gael dadansoddiad manylach oâr stori: "Alexa, more from the BBC".
Flash Briefings
Gyda Flash Briefings, mae BBC News, BBC Sport, BBC Business, World Service News a BBC Minute i gyd ar gael. Dywedwch âAlexa, play my Flash Briefingâ. Darllenwch sut i osod Flash Briefings yn ap Alexa
Os oes gennych chi ddyfais Amazon gyda sgrin, fel Echo Show neu Echo Spot, gallwch gael BBC News Flash Briefing fel fideo yn lle.
Sut alla i gael BBC Skill ar Amazon Alexa?
I alluogi BBC Skill yn awtomatig, dywedwch: âAlexa, open the BBCâ. Fel arall, gallwch alluogi a dod o hyd i BBC Skill drwy wefan neu ap Alexa. Maeân rhad ac am ddim.
Yna bydd rhaid i chi gysylltu eich cyfrif BBC ââr ddyfais a reolir â llais. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm Gosodiadau ar gyfer BBC Skill yn ap Alexa.
Os nad oes gennych chi gyfrif BBC, gallwch gofrestru fan hyn â maeân hawdd ac yn gyflym i wneud. Maen rhaid i chi fod dros 13 oed i gysylltu cyfrifon ââi gilydd.
Am fwy o wybodaeth ynglšn â sut rydyn niân sicrhau bod eich manylion yn ddiogel, ewch i Eich Gwybodaeth aâch Preifatrwydd.
Rhaid gosod eich iaith Alexa i Saesneg (DU) nid Saesneg (UDA) er mwyn i BBC Skill weithio. I gael manylion llawn am osod sgiliau, ewch i dudalen Enable Alexa Skills ar Amazon.
Am fanylion llawn ynglšn â gosod sgiliau, ewch i dudalen Enable Alexa Skills ar Amazon.
Cymorth wrth ddefnyddio BBC Skill
Pan rydych chiân defnyddio BBC Skill, gallwch reoli eich profiad gwrando gyda chyfarwyddiadau llais. Mae mor syml â hynny.
Iâw lansio, dywedwch âAlexa, open the BBCâ.
Iâch helpu i ddechrau arni, gofynnir i chi pa orsaf radio, sioe neu bodlediad hoffech chi wrando arni pan fyddwch yn troi at BBC Skill am y tro cyntaf. Neu i fynd yn syth at eich ffefrynnau, dywedwch âAlexa, ask BBC to play [gorsaf radio, sioe neu bodlediad]â.
Problemau wrth chwarae sioeauâr BBC ar ddyfeisiau Amazon Echo
Rydyn niân ymwybodol bod rhai cwsmeriaid yn wynebu problemau wrth chware gorsafoedd a sioeauâr BBC traân defnyddio dyfeisiau Amazon Echo. Er enghraifft, weithiau nid yw'r orsaf neu'r sioe yn cael ei chanfod, nid yw'n chwarae, neu mae'r ffrwd yn diflannu.
Rydyn niân edrych ar hyn gydag Amazon. Yn y cyfamser, dyma bethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw:
- Yn gyntaf, gwiriwch fod gosodiadau iaith Alexa ar gyfer eich dyfais wedi'u gosod i Saesneg (DU). Gwiriwch a diweddarwch eich gosodiadau iaith.
- Hefyd, mae'n werth gwirio bod eich dyfais yn defnyddio'r meddalwedd diweddaraf. Gwiriwch a diweddarwch meddalwedd eich dyfais Alexa.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd gennym unrhyw gyngor pellach.